Wythnos Un Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth
01 Mawrth 2019
Bydd dathliadau blynyddol Prifysgol Aberystwyth i hyrwyddo cyfoeth ac amrywiaeth diwylliannau a chenhedloedd ei chymuned o fyfyrwyr rhyngwladol yn dechrau ddydd Llun 4 Mawrth 2019.
Tonwresi morol yn fwy cyffredin ac yn bygwth bioamrywiaeth
04 Mawrth 2019
Wrth i’r DU ymateb i’r tymheredd uchaf erioed i’w gofnodi yn ystod mis Chwefror, mae ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yn dangos cynnydd sylweddol mewn tywydd poeth ar y môr - â chanlyniadau niweidiol posibl i fywyd morol.
Gwyddonwyr yn datgelu peryglon cudd haint sydd yn achosi dolur rhydd
04 Mawrth 2019
Mae rhywogaeth newydd o'r parasit Cryptosporidium, sy’n esblygu’n gyflym ac yn brif achos dolur rhydd ymhlith plant ledled y byd, wedi ei ddarganfod mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Nature Microbiology.
Darlith Is-Lywydd NFU y DU yn nodi canrif o fridio planhigion yn Aberystwyth
06 Mawrth 2019
Bydd Is-Lywydd NFU UK, Stuart Roberts, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Iau 14 Mawrth 2019.
Gwyddonwyr Aber i gyflwyno’u hymchwil yn San Steffan
06 Mawrth 2019
Bydd dau ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno eu gwaith yn y Senedd ddydd Mercher 13 Mawrth 2019 fel rhan o ddigwyddiad blynyddol STEM for BRITAIN yn San Steffan.
Wythnos Gwyddoniaeth Prydain ym Mhrifysgol Aberystwyth
07 Mawrth 2019
Bydd mwy na 1,600 o ddisgyblion o ysgolion ar draws canolbarth a gorllewin Cymru yn ymweld â ffair wyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 12, 13 a 14 Mawrth, fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2019.
Pump enwebiad yng ngwobrau myfyrwyr WhatUni
07 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar bump rhestr fer ar gyfer gwobrau WhatUni Student Choice Awards 2019.
Crwsibl De Cymru yn cyhoeddi adroddiad Gwyddoniaeth ac Arloesedd i Lywodraeth y DU
08 Mawrth 2019
Cyflwynwyd adroddiad archwilio o bwys sy’n nodi cryfderau ymchwil ac arloesi Cymru i Lywodraeth y DU heddiw, ddydd Gwener 8 Mawrth 2019.
Cyfle i arloeswyr uchelgeisiol ar raglen sbarduno busnes
11 Mawrth 2019
Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a chwmni cyllid busnes Nurture Ventures wedi dod at ei gilydd i gynnig cyfle cyffrous i fentrwyr busnes uchelgeisiol yng Nghymru.
Gwyddonydd newid hinsawdd o Aber ar ddarllediadau’r BBC o’r arctig
12 Mawrth 2019
Mae gwyddonydd newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos mewn cyfres o ddarllediadau gan BBC Radio 4 o’r archipelago Norwyaidd, Svalbard yr wythnos hon.
Y radd a allai fynd â chi i’r blaned Mawrth
14 Mawrth 2019
Mae cyfle i weithio ar daith Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) / Roscosmos i’r blaned Mawrth yn 2020 yn golygu bod myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth gam yn nes at yrfa yn y diwydiant gofod.
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi 2019
14 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu myfyrwyr a staff am eu cyfraniadau at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg Nos Iau 14 Mawrth 2019.
Sain newydd i hen ffilmiau distaw
18 Mawrth 2019
Bydd gwaith un o ffigurau mwyaf adnabyddus ym maes cyfeilio a chyfansoddi i ffilmiau distaw yn cael ei ddathlu mewn cyfres o ddigwyddiadau o 22-24 Mawrth 2019.
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Staff a Myfyrwyr 2019
18 Mawrth 2019
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cyhoeddi eu rhestr fer am eu Gwobrau Staff a Myfyrwyr.
Canllaw hygyrchedd newydd yn arwain y ffordd o gwmpas campws
19 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio adnodd newydd cynhwysfawr ar ddydd Gwener 15 Mawrth a fydd yn gwella profiad ymwelwyr ar y campws.
Myfyrwyr Aberystwyth i fynychu gŵyl ffilm yn Efrog Newydd
20 Mawrth 2019
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymysgu gyda rhai o enwau mwyaf y byd ffilm a sinema pan fyddant yn mynychu un o brif wyliau ffilm y byd ym mis Ebrill.
Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Cynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BPS Cymru
20 Mawrth 2019
Mae gwahoddiad i fyfyrwyr seicoleg o brifysgolion ledled Cymru i arddangos eu gwaith yng nghynhadledd myfyrwyr Cymru Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS) sy’n cael ei chynnal eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Myfyrwyr Aber yn cipio Cwpan Agronomeg NIAB am yr ail flwyddyn yn olynol
22 Mawrth 2019
Mae tîm o fyfyrwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill Cwpan Agronomeg NIAB am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyflwyno ceisiadau cynllunio’r Hen Goleg
22 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno ceisiadau i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i drawsnewid yr Hen Goleg ar gyfer yr 21ain ganrif.
Cyllid i gynorthwyo menter ac entrepreneuriaeth
25 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen o weithgareddau menter i fyfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes neu'u menter gymdeithasol eu hunain.
Darlith Gyhoeddus: Dadfeilio’r Gorllewin?
26 Mawrth 2019
Bydd y newyddiadurwr arobryn Gideon Rachman yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 4 Ebrill 2019, yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mwydod! Y da, y drwg a'r hyll
27 Mawrth 2019
Bydd arddangosfa sy'n tyrchu i fyd rhyfeddol mwydod yn agor yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth nos Iau 11 Ebrill 2019 o 6 tan 8 yr hwyr.
Maes magnetig yr Haul ddeg gwaith cryfach nac a dybiwyd
29 Mawrth 2019
Mae maes magnetig yr Haul ddeg gwaith yn gryfach na’r hyn a ystyriwyd o’r blaen, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Cymrodyr Rutherford yn adeiladu ar bartneriaeth newydd gydag Affrica
29 Mawrth 2019
Mae cymrodoriaethau a ddyfarnwyd i ddau ymchwilydd o Brifysgol Namibia yn adeiladu ar bartneriaeth strategol newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r sefydliad yn ne Affrica.