Darlith Gyhoeddus: Dadfeilio’r Gorllewin?
Gideon Rachman
26 Mawrth 2019
Bydd y newyddiadurwr arobryn Gideon Rachman yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 4 Ebrill 2019, yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Ef yw prif golofnydd materion tramor y Financial Times a bydd yn siarad ar y testun 'Is the West Disintegrating?'. Bydd y ddarlith yn ystyried sut y mae oes newydd o ansefydlogrwydd byd-eang wedi gwawrio, wrth i’r cyfoeth a chydbwysedd y pŵer lifo o'r Gorllewin i'r Dwyrain.
Ymunodd Gideon Rachman â'r Financial Times ym mis Gorffennaf 2006 ar ôl gyrfa o 15 mlynedd gyda'r Economist, gyrfa'n cynnwys cyfnodau yn ohebydd tramor ym Mrwsel, Washington a Bangkok. Bu hefyd yn olygydd ar adrannau Busnes ac Asia yr Economist. Mae ei ddiddordebau penodol yn cynnwys polisi tramor America, yr Undeb Ewropeaidd a byd-ehangu.
Yn 2016, enillodd Wobr Orwell am newyddiaduraeth wleidyddol. Yr un flwyddyn, cafodd ei enwi'n sylwebydd y flwyddyn yn y Gwobrau 'European Press'.
Meddai Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Dathliadau Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: 'Mae Gideon Rachman yn un o sylwebyddion mwyaf treiddgar y byd ym maes Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Gosododd safbwyntiau clir a deallus ar faterion yn amrywio o'r berthynas rhwng UDA a Tsieina, y newid i gydbwysedd grym y byd, a Brexit. Waeth i ba gyfeiriad yr edrychwn ar hyn o bryd, ymddengys bod y Gorllewin ar ben, ac fe gawn fan hyn gyfle i wrando ar y gŵr sydd eisoes wedi ysgrifennu ynglŷn ag oblygiadau hyn i drefn y byd.'
Cynhelir darlith Gideon Rachman, 'Is the West Disintegrating?', ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, am 6pm, nos Iau 4 Ebrill 2019. Mynediad AM DDIM ac mae croeso i unrhyw un sy'n dymuno dod.
Y ddarlith nesaf yng Nghyfres y Canmlwyddiant fydd yr Athro John Ikenberry o Brifysgol Princeton ar 2 Mai 2019.
Hanes yr Adran
Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.
Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.
Aberystwyth oedd cartref y gadair gyntaf yn y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd mewn teyrnged i Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.
Fel rhan o flwyddyn canmlwyddiant 2018-19, cynhelir aduniad arbennig i gyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Mehefin 2019.
Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol