Maes magnetig yr Haul ddeg gwaith cryfach nac a dybiwyd
Delwedd a dynwyd o Delesgop Haul Swedaidd o ddolenni magnetig corongylch yr Haul yn ystod fflachiad ar 10 Medi 2017. Uchder y dolenni yw tua 25,000km, dwywaith diameter y Ddaear.
29 Mawrth 2019
Mae maes magnetig yr Haul ddeg gwaith yn gryfach na’r hyn a ystyriwyd o’r blaen, yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.
Mae Dr David Kuridze o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul yn Adran Ffiseg y Brifysgol yn awdurdod blaenllaw ar ddefnyddio telesgopau ar y ddaear i astudio corongylch yr Haul, y cylch o oleuni disglair a welir yn ystod clip.
Gan ddefnyddio Telesgop Solar Swedaidd m-1 yn Arsyllfa Roque de los Muchachos, La Palma yn yr Ynysodd Dedwydd, astudiodd Dr Kuridze fflach haul gref a ffrwydrodd ar arwyneb yr Haul ar 10 Medi 2017.
Mewn papur yn y cyfnodolyn Astrophysical Journal, mae Dr Kuridze yn adrodd ar sut y bu i gyfuniad o amodau ffafriol a lwc alluogi’r tîm i fesur cryfder maes magnetig y fflach gyda chywirdeb digynsail.
Cred Dr Kuridze fod gan y canfyddiadau botensial i newid ein dealltwriaeth o’r prosesau sy’n digwydd yn atmosffêr agos yr Haul.
“Mae popeth sy’n digwydd o fewn atmosffêr yr Haul yn cael ei ddominyddu gan y maes magnetig, ond ychydig fesuriadau sydd gennym o’i gryfder a’i nodweddion gofodol”, meddai Dr Kuridze.
“Mae’r rhain yn baramedrau hanfodol, y pwysicaf i ffiseg corongylch yr Haul. Mae’n debyg i geisio deall hinsawdd y Ddaear heb fesur ei thymheredd mewn lleoliadau daearyddol gwahanol.”
“Dyma’r tro cyntaf i ni fedru mesur maes magnetig y dolenni coronaidd yn fanwl gywir, blociau adeiladu corona magnetig yr Haul, gyda’r fath lefel o gywirdeb”, ychwanegodd.
Dr David Kuridze (dde), prif awdur Mapping the Magnetic Field of Flare Coronal Loops, a Dr Huw Morgan o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Corongylch yr Haul
Mae’r Haul yn 1,400,000 cilometr ar draws (109 gwaith yn fwy na’r Ddaear) a 150,000,000 cilometr o’r Ddaear, ac mae ei gorongylch yn ymestyn miliynau o gilomedrau uwch law’r wyneb.
Mae fflachiadau Haul yn ymddangos fel fflachiadau llachar ac yn digwydd pan fydd ynni magnetig sydd wedi casglu yn yr atmosffêr yn cael ei ryddhau’n sydyn.
Tan nawr, ni fu modd mesur maes magnetig yr Haul yn llwyddiannus oherwydd gwendid y signal o atmosffêr yr Haul sy’n cyrraedd y Ddaear ac sy’n cario gwybodaeth am y maes magnetig, a chyfyngiadau’r offer sydd ar gael.
Mae’r meysydd magnetig yn yr astudiaeth hon yn debyg i’r hyn a geir mewn magned oergell a thua 100 gwaith gwanach na’r maes magnetig sydd mewn sganiwr MRI.
Fodd bynnag, maent yn ddigon cryf i gyfyngu plasma’r Haul, sef cynnwys y fflachiadau, hyd at 20,000km uwchlaw wyneb yr Haul.
Telesgop yr Haul
Mae’r telesgop Swedaidd M-1 yr Haul yn Arsyllfa Roque de los Muchachos yn cael ei ystyried fel telesgôp gorau’r cyfnod modern ar gyfer astudio’r Haul, ac mae wedi ei ddylunio’n arbennig ar gyfer arsylwi manwl.
Dros gyfnod o 10 diwrnod ym mis Medi 2017, defnyddiodd Dr Kuridze y telesgôp i astudio ardal fywiog arbennig o ansefydlog ar arwyneb yr Haul.
Fodd bynnag, dim ond ar 1% o arwyneb yr Haul y mae’r telesgôp yn medru canolbwyntio ar unrhyw adeg. Gyda lwc, roedd Dr Kuridze yn canolbwyntio ar y man iawn ar yr amser iawn pan ffrwydrodd y fflach yr Haul.
Gall fflachiadau Haul arwain at stormydd sydd yn arwain ar Oleuni’r Gogledd – yr Aurora Borealis, os ydynt yn cyrraedd y Ddaear.
Gallant hefyd darfu ar loerennau cyfathrebu a systemau GPS, a gwelwyd ar yr achlysur hwn ym mis Medi 2017.
Yn ogystal, cyfyngwyd uchder hedfan dros begwn y De a’r Gogledd oherwydd lefelau ymbelydredd uwch na’r arfer.
Dr David Kuridze
Yn wreiddiol o Tbilisi, Georgia, mae Dr David Kuridze yn Gymrawd Sêr Cymru yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth.
Cymrodoriaeth ymchwil yw Sêr Cymru II sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Dr Kuridze yw prif awdur Mapping the Magnetic Field of Flare Coronal Loops,sydd wedi ei gyhoeddi yn yr Astrophysical Journal, sydd hefyd yn cynnwys Dr Huw Morgan, Darllenydd yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth fel cydawdur.
Cychwynnodd Dr Kuridze ar y gwaith ym Mhrifysgol Queen’s Belfast ac fe’i cwblhaodd ar ôl symud i Aberystwyth yn 2017.
Daw’r cyd-awduron eraill ar y papur o Brifysgol Queens Belfast; Universitat de les Illes Balears, Sbaen; University of Applied Sciences and Arts Gogledd-orllewin Swistir; Space Research Institute, Austrian Academy of Sciences, Awstria; Astronomical Institute, Slovak Academy of Sciences; Institute for Solar Physics, Stockholm University, Sweden; Abastumani Astrophysical Observatory at Ilia State University, Georgia; IGAM, Institute of Physics, University of Graz, Awstria; 'Leibniz-Institut für Sonnenphysik (KIS)', Freiburg, yr Almaen; and Institut d’Aplicacions Computacionals de Codi Comunitari (IAC3), Universitat de les Illes Balears, Sbaen.