Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Cynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BPS Cymru

20 Mawrth 2019

Mae gwahoddiad i fyfyrwyr seicoleg o brifysgolion ledled Cymru i arddangos eu gwaith yng nghynhadledd myfyrwyr Cymru Cymdeithas Seicoleg Prydain (BPS) sy’n cael ei chynnal eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Myfyrwyr Cangen Cymru o’r BPS 2019 yng Nghanolfan Gynadledda Medrus Prifysgol Aberystwyth rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, ddydd Sadwrn 4 Mai 2019.

Mae'r digwyddiad undydd sydd yn rhad ac am ddim i’w fynychu, yn agored i fyfyrwyr is-raddedig yn eu trydedd flwyddyn a myfyrwyr meistr, ac yn gyfle iddynt gyflwyno eu gwaith ymchwil eu hunain i’w cyfoedion.

Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg yn Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o groesawu cynhadledd myfyrwyr BPS eleni ac edrychwn ymlaen at groesawu cyfraniadau o Gymru gyfan i Brifysgol Aberystwyth. Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr rannu eu gwaith gyda'u cyfoedion ac i gael eu hysbrydoli gan ymchwil sy'n cael ei wneud gan gyd-fyfyrwyr mewn adrannau seicoleg eraill.”

Y dyddiad cau i fyfyrwyr sydd eisiau cyfrannu yw dydd Gwener 22 Mawrth.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, ynghyd â chanllawiau cyflwyno ar gael ar-lein yma.