Pump enwebiad yng ngwobrau myfyrwyr WhatUni
07 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar bump rhestr fer ar gyfer gwobrau WhatUni Student Choice Awards 2019.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Aberystwyth wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Prifysgol y Flwyddyn.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau ar gyfer Llety, Clybiau a Chymdeithasau, Rhyngwladol ac Olraddedig.
Casglwyd dros 41,800 o adolygiadau gan fyfyrwyr eleni a hynny mewn 160 o sefydliadau addysg uwch ar draws y DU.
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn seremoni ‘Whatuni Student Choice Awards’ a gaiff ei chynnal yn Llundain ar 25 Ebrill 2019.
Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) yn dangos i ni bod y profiad o astudio yn Aberystwyth yn hynod werthfawr a bod ein myfyrwyr gyda’r mwyaf bodlon eu byd yn y DU. Fel yr ACF, mae gwobrau WhatUni yn seiliedig ar adolygiadau gan fyfyrwyr ac rydym wrth ein boddau bod eu hadborth nhw wedi rhoi Aberystwyth ar y rhestr fer mewn pum categroi gwahanol, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn. Mawr yw ein diolch i’r myfyrwyr am eu cefnogaeth ac i’n staff am eu holl waith caled.”
Bellach yn eu chweched blwyddyn, mae'r gwobrau yn darparu dewis amgen a diduedd i’r systemau traddodiadol o raddio prifysgolion, a hynny o dan arweiniad myfyrwyr.
Dywedodd Katie Duncan, Pennaeth Cyfathrebu IDP Connect: “Mewn cyfnod heriol i sefydliadau uwch, nid oes dim yn fwy calonogol na chael cydnabyddiaeth gan eu myfyrwyr am gynnig profiadau mor bositifi. Mae’r adolygiadau yma gan fyfyfrwyr cyfredol yn amhrisiadwy i ddarpar fyfyrwyr sy’n eu defnyddio er mwyn gwneud penderfyniadau am eu dyfodol.”
Mae'r gwobrau wedi eu seilio ar gyfartaledd o ddegau o filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr a'u cyhoeddi ar Whatuni.com.
Yng ngwobrau ‘WhatUni Student Choice Awards’ 2018, Aberystwyth oedd enillydd y categori Olraddedig a daeth yn ail yn y categori Rhyngwladol.