Y radd a allai fynd â chi i’r blaned Mawrth
![Ariel Ladegaard sydd wedi bod yn gweithio yn ucheldir Atacama Chile ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA.](/cy/news/archive/2019/03/Ariel-Ladegaard-in-the-Atacama-2-web.jpg)
Ariel Ladegaard sydd wedi bod yn gweithio yn ucheldir Atacama Chile ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA.
14 Mawrth 2019
Mae cyfle i weithio ar daith Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) / Roscosmos i’r blaned Mawrth yn 2020 yn golygu bod myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth gam yn nes at yrfa yn y diwydiant gofod.
Mae Ariel Ladegaard o Bergen yn Norwy newydd ddychwelyd o Anialwch Atacama yn Chile, lle roedd ESA yn cynnal profion maes ar fersiwn o’r crwydryn gaiff ei ddefnyddio i i chwilio am fywyd ar y blaned goch.
Tra’n fyfyriwr israddedig ar radd Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg yn Aberystwyth, cafodd Ariel wahoddiad gan y darlithydd cyfrifiadureg Dr Helen Miles i edrych ar sut y gellid cywiro delweddau wedi iddynt gael eu hanfon yn ôl o’r blaned Mawrth ac adlewyrchu ei gwir liwiau.
Mae Dr Miles a'i chyd-wyddonydd y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth Dr Matt Gunn wedi bod yn gweithio ar PanCam, system gamera panoramig y daith.
Pwrpas PanCam, a adeiladwyd gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yw tynnu delweddau stereo a 3D o diroedd Mawrth.
Mae’r tîm yn Aberystwyth, o dan arweinyddiaeth Dr Gunn, wedi datblygu model o PanCam a tharged graddnodi unigryw sydd wedi ei ysbrydoli gan ffenestri lliwgar eglwysi’r oesoedd canol er mwyn sicrhau bod y lliwiau’n gywir.
Bydd daearegwyr yn astudio’r delweddau sydd yn cael eu tynnu yn ystod y daith i chwilio am fwynau a allai olygu presenoldeb dŵr a hanfodion bywyd.
Ar gyfer ei brosiect israddedig blwyddyn olaf yn 2018, yr her i Ariel oedd datblygu pecyn meddalwedd prototeip sydd yn gwneud yn iawn am ddiffygion camera'r daith, ac effeithiau gweithio mewn amgylchedd garw’r blaned Mawrth.
“Mae gyrru o gwmpas Mars yn heriol ac yn cymryd llawer o amser, felly rydych chi eisiau bod yn sicr eich bod chi'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Bydd delweddau a gymerwyd o bellter yn cael eu dadansoddi i chwilio am safleoedd posibl lle gall y crwydryn ddefnyddio ei radar dadansoddi tîr a'i ddril, ac felly mae angen iddynt fod mor gywir â phosibl.
“Unwaith y byddant yn ôl ar y Ddaear, bydd y delweddau'n cael eu prosesu gan biblinell gywiro radiometrig sy'n eu haddasu'n awtomatig ar sail yr hyn a wyddom am sut y cymerwyd y delweddau a sut mae'r camera'n ymateb i olau dan amgylchiadau amrywiol.”
Canolbwyntiodd prosiect israddedig Ariel ar ddatblygu fframwaith i brofi’r cysyniad ar gyfer y biblinell gywiro, gan dynnu ar y gwaith a wnaed ar y feddalwedd ar gyfer Telesgop Gofod James Webb NASA.
Ac yntau bellach yn fyfyriwr PhD yn Aberystwyth, mae Ariel yn gweithio ar y cam nesaf ac yn datblygu'r algorithmau fydd yn cywiro'r delweddau.
Dywedodd Ariel: “Mae Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn bopeth y gallwn fod wedi’i ddymuno ei gael o addysg o ran pa mor gyflym yr wyf wedi gallu cymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon i mi, prosiect go iawn. Fy nod yw gweithio ym maes robotiaid sydd yn archwilio’r gofod, diwydiant arbenigol a all fod yn anodd cael mynediad iddo, ond yn sicr mae Aberystwyth wedi agor y drws i mi.”
Wrth siarad am ei waith ar ExoMars, ychwanegodd Ariel: “Mae wedi bod yn braf iawn gweld pa mor agored mae cymuned ExoMars wedi bod i actorion newydd sydd â’u cwestiynau, eu syniadau a'u safbwyntiau eu hunain ar bethau. Ar y dechrau roedd popeth am y daith yn ymddangos yn frawychus o fawr gan ei bod wedi datblygu dros gyfnod mor hir. Mae tipyn o rwystrau yn wynebu pobl newydd wrth iddynt ddeall sut mae popeth yn cyd-blethu, nid yn unig ar lefel dechnegol, ond hefyd ar lefelau cymdeithasol a gwleidyddol. Ond wrth i mi ddod i wybod mwy, rwy’n hyderus bod gen i rywbeth i'w gynnig i'r prosiect.”
Yn ogystal â datblygu meddalwedd prosesu delweddau, mae Ariel wedi bod yn gweithio ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA, ac sy’n defnyddio crwydryn prototeip tebyg i ExoMars yn Sbaen a Chile.
Yn ystod mis Chwefror 2019, bu’n gweithio ger Arsyllfa Paranal, yn ucheldir Anialwch Atacama, fel rhan o'r tîm sy’n profi gweithdrefnau a dulliau'r daith o gasglu gwyddoniaeth.
Roedd hefyd yn gyfle i brofi’r biblinell brosesu delweddau, gyda lluniau'n cael eu hanfon yn ôl i'r DU i'w cywiro.
Ychwanegodd Ariel: “Mae cyfraniad Aberystwyth at ExoMars yn troi o amgylch graddnodi system gamera'r daith a chywiro delweddau - deall sut mae'r camerâu yn gweithio a sut y gallwn brosesu a dehongli'r delweddau. Braf oedd gallu profi rhywfaint o’r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn Aber tra yn Chile a chasglu prawf-ddata gwerthfawr.”
Cyn dod i Aberystwyth, bu Ariel yn astudio yng Nghanolfan Addysg y Gofod Norwy ger Andenes yng ngogledd Norwy.
Bu'n gweithio am saith mlynedd yn y diwydiant teledu a ffilm cyn dychwelyd i addysg uwch fel myfyriwr aeddfed i astudio gradd BSc mewn Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.