Cyfle i arloeswyr uchelgeisiol ar raglen sbarduno busnes
Dosbarth BioAccelerate 2018
11 Mawrth 2019
Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a chwmni cyllid busnes Nurture Ventures wedi dod at ei gilydd i gynnig cyfle cyffrous i fentrwyr busnes uchelgeisiol yng Nghymru.
Lansiwyd BioAccelerate yn 2018 fel hwylusydd busnes sy'n helpu i fasnacheiddio arloesedd yn y sectorau biowyddorau, gofal iechyd, technoleg amaeth, a bwyd a diod.
Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r cynllun yn chwilio am hyd at ddeuddeg o egin-arloeswyr i ymuno â chriw 2019.
Bydd y rhaglen yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu syniadau arloesol yn gynigion parod i’r farchnad a chyfle i’w cyflwyno i banel o arweinwyr busnes ac arbenigwyr o ddiwydiant.
Cynhelir gweithdy cyntaf BioAccelerate 2019 ddydd Iau 2 Mai 2019.
Bydd y rhaglen 8 wythnos, cyfuniad o weithdai dwys, mentora ymarferol a chefnogaeth gan noddwyr y rhaglen yn golygu y bydd BioAccelerate ar gael yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr dethol.
Ymysg y pynciau dan sylw bydd cyllid buddsoddi, credydau treth ymchwil a datblygu, cyfraith eiddo deallusol, a chynnigion gwerth.
Yn ogystal, bydd pob gweithdy hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan fentrwyr llwyddiannus a fydd yn rhannu eu straeon ac yn cynnig cyngor gwerthfawr.
Bydd ceisiadau ar gyfer BioAccelerate 2019 ar agor rhwng dydd Llun 4 a dydd Iau 28 Mawrth, pan fydd panel dethol yn gwerthuso'r Datganiadau o Ddiddordeb sydd yn cynnig y potensial am yr effaith fasnachol a chymdeithasol fwyaf.
Gall cyfranogwyr sy'n cwblhau'r rhaglen BioAccelerate ddisgwyl datblygu eu cynfas model busnes eu hunain, rhagamcanion ariannol, cyfle yn y farchnad sydd wedi ei ddiffinio, rhagamcan o werth y cwmni a llwyfan cyflwyno cais.
Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnig BioAccelerate eto eleni i gwmnïau a mentrwyr cyfnod cynnar. Mae ein hentrepreneuriaid 2018 wedi mynd o nerth i nerth ers rhaglen y llynedd ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu grŵp arall. Mae'r gymuned fusnes sy'n ymgysylltu â'n harbenigwyr yn parhau i dyfu'n gyflym ac mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth bellach wedi hen gychwyn ar ddatblygu rhwydweithiau a chysylltiadau drwy BioAccelerate a mentrau eraill tuag at ffurfio clwstwr mwy o faint.”
Mae effaith rhaglen BioAccelerate y llynedd yn glir i'w gweld, gyda llawer o'r garfan wedi gwneud cynnydd calonogol gyda’u busnesau wedi iddynt elwa o'r rhaglen gymorth wedi ei theilwra.
Mae pedwar o'r garfan flaenorol wedi cofrestru eu cwmnïau yng Nghampws Arloesi a Menter Aberystwyth ers hynny, ac maent yn parhau i fanteisio ar y cymorth busnes sydd ar gael iddynt.
Dywedodd Jeff Bartlett, sylfaenydd a chyfarwyddwr Nurture Venutres: “Pan lansiwyd BioAccelerate yn 2018, ein nod oedd cefnogi ein harloeswyr cynhenid yng Nghymru gyda chyngor ymarferol, mentora a dysgu gan ganolbwyntio ar fod yn barod i fuddsoddi. Mae llwyddiant rhaglen y llynedd wedi arwain at lansio busnesau sydd wedi eu hariannu’n llawn ac eraill sy’n parhau i ddatblygu eu syniadau ar gyfer farchnad. Ar gyfer 2019 rydym wedi llunio rhaglen ryngweithiol 8 wythnos â diwrnod cyflwyno syniadau yn benllanw, sy'n ein galluogi i weithredu'n gyflym i fasnacheiddio syniadau arloesol a helpu i greu busnesau blaengar yng Nghymru.”
Nod Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yw cynorthwyo cwmnïau ar bob cam o’u datblygiad yng Nghymru a thu hwnt i wireddu eu huchelgais ac i dyfu, i ffynnu ac i ysgogi twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg a thechnoleg amaeth.
Ariennir datblygiad uchelgeisiol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, sy’n fuddsoddiad gwerth £40.5m, gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru; gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (rhan o UKRI) a Phrifysgol Aberystwyth.
Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation) | Arloesedd yng nghalon Cymru
Bydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation) yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd o safon byd ar gyfer diwydiant technoleg amaeth a'r sector biowyddoniaeth.
Wedi'i leoli rhwng mynyddoedd y Cambria a Bae Ceredigion, bydd y campws £40.5M yn darparu amgylchedd blaengar i annog cydweithio rhwng busnesau ac academyddion.
Bydd AberInnovation yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi arloesedd, gan alluogi mentrau masnachol i dyfu, ffynnu a sbarduno twf economaidd yn y sectorau bwyd a diod, biotechnoleg ac amaeth-dechnoleg ledled Cymru a thu hwnt.
Nurture Ventures
Mae Nurture Ventures yn cynorthwyo entrepreneuriaid sydd â syniadau, cynnych a thechnolegau arloesol, i ddatblygu cynigion a chynlluniau busnes parod i’r farchnad.
Mae Nurture Ventures yn gweithio gyda busnesau sydd ar gychwyn neu yn y cyfnod cynnar ac sy'n chwilio am rhwng £100k a £1m o gyllid buddsoddi.
Y ffocws yw creu Cynlluniau Busnes sydd yn argyhoeddi a llwyfan cyflwyno – “Pitch Decks” – er mwyn gwneud yn fawr o’r potensial gyda buddsoddwyr posibl. Gallant hefyd adnabod a chynorthwyo i gysylltu cwmnioedd gydag angylion busnes, llwyfannau cyllido torfol, ecwiti preifat ac eraill.