Gwyddonydd newid hinsawdd o Aber ar ddarllediadau’r BBC o’r arctig

Dr Arwyn Edwards sydd wedi datblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy'n ffitio i mewn i sach deithio fach ac y gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le yn y byd.

Dr Arwyn Edwards sydd wedi datblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy'n ffitio i mewn i sach deithio fach ac y gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le yn y byd.

12 Mawrth 2019

Mae gwyddonydd newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth yn ymddangos mewn cyfres o ddarllediadau gan BBC Radio 4 o’r archipelago Norwyaidd, Svalbard yr wythnos hon.

Bydd Dr Arwyn Edwards o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn ymuno â chyflwynydd BBC Today Martha Kearney a'r gohebydd gwyddoniaeth Tom Feilden am gyfres o eitemau ar newid hinsawdd o ganolfan ymchwil yr Arctig y Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn Ny-Alesund.

Bydd Dr Edwards, sydd yn Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Ryngddisgyblaethol ar gyfer Microbioleg Amgylcheddol, yn ymddangos ar rifyn bore Mercher 13 neu fore Iau 14 Mawrth o raglenToday, sydd ar yr awyr rhwng 6 a 9 y bore.

Mae Dr Edwards wedi arwain dros 24 o deithiau ymchwil i barthau pegynol ac alpaidd, gyda 14 o'r rheini i Svalbard.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y berthynas rhwng microbau a rhewlifau drwy ddefnyddio dadansoddiadau genomeg o'r radd flaenaf yn y labordy a'r maes.

Drwy weithio gydag Oxford Nanopore mae wedi datblygu labordy dilyniannu DNA cludadwy sy'n ffitio i mewn i sach deithio fach ac y gellir ei ddefnyddio yn unrhyw le yn y byd.

Fel rhan o'r darllediad, bydd Dr Edwards yn profi i weld a yw microbau yn byw ar wyneb rhewlifoedd dros gyfnod y gaeaf.

Dyma fydd yr eildro i Dr Edwards ymddangos ar raglen Today BBC Radio 4.

Llynedd, yn ystod darllediad byw o Today o Brifysgol Aberystwyth, bu Dr Edwards a chydweithwyr yn dilynianu DNA yn fyw ar yr awyr.

Roedd Dr Edwards hefyd yn rhan o Ddarlithoedd Nadolig 2018 Y Sefydliad Brenhinol, gyda'r anthropolegydd biolegol, yr awdur a'r darlledwr, yr Athro Alice Roberts, a'r arbenigwr geneteg yr Athro Aoife McLysaght, wrth iddynt fynd i'r afael ag un o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol, “Pwy ydw i?”.

Gallwch ddilyn y darllediad yr wythnos hon o Svalbard ar twitter: @arwynedwards / @ BBCr4Today / @BBCTomFeilden / @Marthakearney / @Arctic_Office / #UKinArctic