Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi 2019

Enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi 2019

Enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi 2019

14 Mawrth 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu myfyrwyr a staff am eu cyfraniadau at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg Nos Iau 14 Mawrth 2019.

Cyflwynwyd Gwobrau Gŵyl Dewi 2019 Prifysgol Aberystwyth i Janet Hardy, Trish Sadler-McGrath, Demi John, Anne Robbins, Rebecca Snell a Dr Elin Royles wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, roedd y chwe enillydd wedi’u dewis ar gyfer gwobrau gwahanol:

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Janet Hardy

  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Trish Sadler-McGrath

  • Astudio Trwy’r Gymraeg – Demi John

  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Anne Robbins
                                                         Rebecca Snell

  • Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg – Elin Royles

Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan Eurig Salisbury, bardd a nofelydd sydd hefyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.

Sara Gibson, newyddiadurwraig  gyda BBC Cymru Fyw a chyn-fyfyrwaig o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol oedd gwestai gwadd y noson.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Braint yw bod yn rhan o’r digwyddiad hwn sy’n cydnabod yr hyn mae myfyrwyr a staff yn ei gyflawni wrth hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.  Ry ni’n dathlu ymdrechion i ddysgu’r iaith ac i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dathlu hefyd y rhai sydd wedi annog a chefnogi eraill. Mae gan Brifysgol Aberystwyth rôl arbennig yn lleol ac yn genedlaethol yn y dasg o wella ymwybyddiaeth o’r iaith ac o gyrchu’r nod o greu Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.  Ac mae’r Gwobrau yn ffordd dda o gloriannu’r ymdrechion clodwiw hyn.”

Yr enillwyr

Janet Hardy (Dysgwr Disglair): Yn wreiddiol o Rydychen, mae Janet wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers 1975 wedi iddi ddod i’r Brifysgol i astudio Ecoleg. Mae wedi ymroi yn llwyr i ddysgu’r Gymraeg wedi iddi gyrraedd Aberystwyth gan ddechrau siarad Cymraeg efo myfyrwyr ym Mhantycelyn a mynychu dosbarthiadau gyda’r nos. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith a’r Cynllun Mentora wedi’i hysgogi i fyw yn y Gymraeg.

Trish Sadler-McGrath(Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Ymunodd Trish ag Undeb y Myfyrwyr yn 2016 ddim yn medru’r Gymraeg. Penderfynodd yn syth i ddechrau dysgu Cymraeg a gwneud dwyieithrwydd yn rhan o weledigaeth yr Undeb. Mae’n annog ei chyd-weithwyr i ddysgu’r iaith gan roi’r amser iddynt fynychu dosbarthiadau yn ystod oriau gwaith.

Demi John (Astudio Trwy’r Gymraeg): Myfyrwraig yn ei ail flwyddyn yn astudio’r Gyfraith a Throseddeg yw Demi. Yn wreiddiol o Benderyn, mynychodd ysgol cyfrwng Cymraeg Aberdâr, ond daw o gartref di-Gymraeg. Penderfynodd ddod i’r Brifysgol yn Aberystwyth oherwydd y gymuned Gymraeg clos sydd yma a’r cyfleon sydd i astudio’i chwrs yn y Gymraeg.

Anne Robbins (Pencampwr y Gymraeg): Magwyd Anne yn Calgary, Canada ac mae’n astudio Astudiaethau Celtaidd yn y Brifysgol. Tu allan i’w hastudiaethau mae’n defnyddio ei Chymraeg gan wirfoddoli mewn sefydliadau lleol ac yn ei swydd rhan-amser yng nghaffis y Brifysgol.

Rebecca Snell (Pencampwr y Gymraeg): Canlyniad torri coes oedd dysgu Cymraeg i Rebecca. Ar wyliau yn Sir Benfro, roedd hi’n methu ymuno yn y gweithgareddau, felly fe brynodd ei chwaer eiriadur Cymraeg-Saesneg iddi. Penderfynodd wneud Cwrs Haf Dysgu Cymraeg yn Aberystwyth ac o ganlyniad penderfynodd ddod i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg, a hynny wedi iddi cael ei derbyn i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Sheffield. Fe weithiodd ar gwrs dwys Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn yr haf ac mae’n cefnogi gwaith yr Adran Gymraeg fel llysgennad.

Dr Elin Royles (Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg): Yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr y Gymraeg yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol, mae Elin yn lladmerydd cyson dros Gymreictod y sefydliad a statws yr iaith yn fewnol. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a mynd y tu hwnt i’r disgwyl o fewn y gymuned academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae’n gyfrannwr gweithgar at gynlluniau ac ymgyrchoedd denu myfyrwyr a hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.