Mwydod! Y da, y drwg a'r hyll

Mwydyn llinynnog coch

Mwydyn llinynnog coch

27 Mawrth 2019

Bydd arddangosfa sy'n tyrchu i fyd rhyfeddol mwydod yn agor yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth nos Iau 11 Ebrill 2019 o 6 tan 8 yr hwyr.

Mae Mwydod - sydd ar fenthyg o Amgueddfa Cymru - yn arddangosfa ryngweithiol i’r teulu cyfan ac yn edrych ar amrywiaeth anhygoel rhywogaethau mwydod a sut maen nhw wedi dylanwadu ar bob math o bethau, o lyfrau a ffilmiau i gerddoriaeth roc.

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Mega Mwydod - delweddau o rai o'r mwydod mwyaf rhyfedd a rhyfeddol a model trawiadol o fwydyn llinynnog coch

  • Ffosilau i Ffantasi – gan gynnwys model o’r ffosil gafodd ei enwi ar ôl Lemmy o’r band roc Motörhead, a sawl ffosil o gasgliadau’r Amgueddfa. Gallwch hyd yn oed ddarganfod pa fath o fwydyn fyddech chi yn ein gêm ryngweithiol!

  • Y Mwydy – cyfle i weld y byd drwy lygaid mwydyn. Cewch lithro i lawr i ddarganfod cynefin y mwydyn a’r anifeiliaid sy’n byw yn y ddaear.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol gan y cerddor a’r cyfansoddwr Georgia Ruth o Aberystwyth sydd yn recordio ei halbwm diweddaraf yn y Brifysgol ar hyn o bryd. Enillodd ei halbwm cyntaf - Week of Pines Wobr Miwsig Cymru 2013-14 a chafodd ei enwebu yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 2014. Mae hi’n cyflwyno sioe gerddoriaeth wythnosol ar BBC Radio Cymru.

Bydd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Elizabeth Treasure hefyd yn lansio Apêl yr Hen Goleg i’r gymuned leol. Drwy ddilyn ôl traed arloeswyr cyllido torfol yr 1870au a chymorth ‘ceiniogau’r werin’, nod yr apêl yw codi £3 miliwn o incwm drwy haelioni cyn-fyfyrwyr a chyfeillion, yn lleol ac ar draws y byd, er mwyn sicrhau’r grant llawn o £10.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddiogelu dyfodol yr Hen Goleg.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan: “Mae Mwydod yn arddangosfa gyffrous a gweledol y bydd y teulu cyfan yn ei mwynhau ac mae’n edrych ar bob math o greaduriaid o gasgliadau pwysig ac amrywiol yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae'n arddangosfa ryngweithiol iawn lle gall ymwelwyr gropian yn y Mwydy neu ddefnyddio microsgopau i edrych yn agos arnynt.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o arddangosfeydd sy’n cael eu cynnal yn yr Hen Goleg ac mae'n rhan o'n cynllun hirdymor uchelgeisiol i greu canolfan diwylliant, dysg a menter fywiog a fydd yn gweithredu fel gyrrwr economaidd ac adfywio yn yr ardal. Rydym yn ddiolchgar i Amgueddfa Cymru am eu cefnogaeth a'u benthyciad gwerthfawr o'r arddangosfa; felly hefyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi rhoi Grant Datblygu hael i’n cynorthwyo i ddatblygu'r weledigaeth i adfer ac ailsafleoli’r adeilad gwych hwn.”

Ychwanegodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau mynediad mor eang â phosib i’r casgliadau cenedlaethol ac yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i gynnal yr arddangosfa. Roedd Mwydyn yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd yng Nghaerdydd ac rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr i Aberystwyth hefyd yn achub ar y cyfle i fwynhau'r arddangosfa ryngweithiol hon a dod i adnabod byd rhyfedd a rhyfeddol y mwydyn.”

Cefnogir yr arddangosfa hon a'r digwyddiadau cysylltiedig yn hael gan Amgueddfa Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd yr arddangosfa ar agor o ddydd Gwener 12 Ebrill hyd ddydd Sadwrn 1 Mehefin 2019, rhwng 10yb a 4yp ac ar gau bob dydd Sul. Noder fydd yr Hen Goleg ar gau dros ŵyl y Pasg o ddydd Gwener 19 Ebrill hyd ddydd Mawrth 23.