Crwsibl De Cymru yn cyhoeddi adroddiad Gwyddoniaeth ac Arloesedd i Lywodraeth y DU
Darlun gan artist o Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth, buddsoddiad o £40.5m a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod 2020.
08 Mawrth 2019
Cyflwynwyd adroddiad archwilio o bwys sy’n nodi cryfderau ymchwil ac arloesi Cymru i Lywodraeth y DU heddiw, ddydd Gwener 8 Mawrth 2019.
Cynhyrchwyd Adroddiad Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesedd gan Crwsibl De Cymru, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac sydd yn dod â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe ynghyd â chanolfannau rhagoriaeth ymchwil a chwmnïau rhyngwladol arwyddocaol.
Comisiynwyd yr astudiaeth gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol San Steffan, ac mae'n amlinellu sut y gall y consortiwm gymryd camau cadarnhaol a pharhaol er mwyn cynorthwyo i ddatgloi potensial twf dan arweiniad arloesedd yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau meysydd thematig o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â phortffolio cryf o asedau gwyddonol ac arloesi sy'n gystadleuol yn rhyngwladol ac sy'n datblygu arloesedd dur, gweithgynhyrchu clyfar, arloesedd ym maes iechyd a thechnoleg amaethyddiaeth a bwyd.
Arweiniwyd yr archwiliad o'r sector Dechnoleg Bwyd-Amaeth yng Nghymru gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n dangos cryfderau arwyddocaol y consortiwm ar draws ymchwil Technoleg Bwyd-Amaeth.
Mae'r adroddiad yn amlygu gwaith Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol ar wella cnydau, iechyd anifeiliaid a rheoli ffrydiau gwastraff Bwyd-Amaeth.
Bydd trosi’r datblygiadau technolegol a phrosesau arloesol hyn yn arwain at gynyddu cynhyrchiant ac allforion i’n cynhyrchwyr craidd, ac yn hybu gallu hirdymor ein diwydiant prosesu bwyd a diod i fod yn gystadleuol.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi’r potensial sydd yn gysylltiedig gyda datblygiad Campws Arloesedd a Menter Aberystwyth, buddsoddiad gwerth £40.5m sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) a Phrifysgol Aberystwyth.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ar gampws Gogerddan ger Aberystwyth gael ei gwblhau yn 2020, a bydd yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd i helpu busnesau i drosi datblygiadau arloesol a buddsoddiadau mewn Technoleg Bwyd-Amaeth yn gynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Yng Nghymru, mae angen dealltwriaeth well arnom ni o sut y mae ymchwil ac arloesedd yn ysgogi cynhyrchiant a thwf er mwyn i ni allu cefnogi'r meysydd hynny sy'n cynnig y cyfle gorau i dyfu ein heconomi, creu swyddi a datblygu sgiliau.
“Rwyf yn ystyried yr archwiliad hwn fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth o asedau yng Nghymru, y gellir manteisio arnynt er mwyn cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.
“Mae economi de Cymru yn dod yn fwyfwy soffistigedig ac mae'r Archwiliad hwn yn ddull defnyddiol o'n helpu i ddeall y sefyllfa bresennol a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn symud ymlaen. Rwyf yn croesawu'r Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd oherwydd ei fod yn ein helpu i ddeall economi Cymru ac yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.”
Dywedodd James Davies, Cadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru: “Mae'r cyfle a roddir i ni gan yr Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd yn amserol iawn. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n cymryd camau ymlaen ar y cyd ac yn hyderus i greu datrysiadau a fydd yn gwella ein cymdeithas er budd pawb.
“Bydd y bartneriaeth Crwsibl De Cymru yn neilltuo ymdrech ac adnoddau i'n meysydd arbenigol o ragoriaeth ac unigrywedd lle gallwn arwain agendâu gwyddoniaeth ac arloesedd mewn modd hyderus a chadarn, er budd Cymru a'r DU yn ehangach."
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae Archwiliad Menter ac Arloesedd Crwsibl De Cymru yn cydnabod y cryfderau sylweddol mewn ymchwil ac arloesedd yng Nghymru ac, yn arbennig i Brifysgol Aberystwyth, ein rôl arweiniol mewn Technoleg Bwyd-Amaeth sy'n arwain y byd.
"Yn Aberystwyth, rydym yn parhau i adeiladu ar y cryfder hwn, gyda buddsoddiad newydd o dros £50m mewn gwyddoniaeth a thechnoleg flaengar mewn partneriaeth â diwydiant a llywodraeth. Ar y cyd ag IBERS, cyfleusterau megis y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, Pwllpeiran, y Ganolfan Rhagoriaeth Arloesedd mewn Da Byw a datblygiadau newydd megis Campws Arloesedd a Menter Aberystwyth a labordai gwyddoniaeth filfeddygol VetHub 1, yn ogystal â nifer o wyddonwyr newydd o’r radd flaenaf sydd wedi’u denu i'r brifysgol, byddant yn sicrhau ein bod yn parhau ar flaen y gad yn y maes hwn.”
Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott OBE, Cadeirydd Grŵp Noddi Gweithredol Crwsibl De Cymru ac Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r prifysgolion sydd aelodau craidd o'n Harchwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesedd (SIA) gan gonsortiwm Crwsibl De Cymru, sef Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe, yn cydnabod bod gennym rôl ganolog i'w chwarae wrth drawsnewid perfformiad cynhyrchiant ein rhanbarth ac rydym yn ymdrechu'n ddiflino i wneud newid cadarnhaol yn lleol, yn genedlaethol ac ar lefel y DU.
“Wedi gweithio gyda'n gilydd am flynyddoedd lawer, rydym yn rhannu gweledigaeth gyffredin o ran trawsnewid economi Cymru y mae gwyddoniaeth ac arloesedd o'r radd flaenaf yn ganolog iddi.”
Meddai Chris Skidmore, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth yn San Steffan: “Rydyn ni'n arweinwyr byd ar draws ystod o ddisgyblaethau gwyddoniaeth ac ymchwil, ac mae'r Adroddiadau Archwilio Gwyddoniaeth ac Arloesedd a gyhoeddir heddiw yn dangos bod y genedl gyfan yn cyfrannu at yr enw da hwnnw. O hybu ein cryfderau diogelwch seiber yn Swydd Gaerwrangon i wella cynaladwyedd meysydd awyr dan arweiniad Prifysgol Brunel, mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y cryfderau hyn ac eraill yn ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern trwy'r cynnydd mwyaf mewn cyllid gwyddoniaeth mewn cenhedlaeth.”