Canllaw hygyrchedd newydd yn arwain y ffordd o gwmpas campws
Lansio’r canllaw hygyrchedd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
19 Mawrth 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio adnodd newydd cynhwysfawr ar ddydd Gwener 15 Mawrth a fydd yn gwella profiad ymwelwyr ar y campws.
Mewn cydweithrediad ag AccessAble, un o brif ddarparwyr gwybodaeth hygyrchedd i bobl anabl yn y DU, mae Prifysgol Aberystwyth wedi creu canllaw ar-lein i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Bydd yr adnoddau ar-lein hyn yn galluogi ymwelwyr i'r campws i ddewis ble i fynd ar y campws a sut i gyrraedd yno. Mae hefyd yn golygu bod gwybodaeth am hygyrchedd adeiladau a chyfleusterau ar draws y campws i gyd mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws i gynllunio teithiau.
Er mwyn creu'r canllaw ar-lein, bu syrfewyr wedi’u hyfforddi gan AccessAble yn ymweld ac yn asesu’r holl leoliadau a restrir yn y canllaw ym mis Medi 2018.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor, Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: “Ein nod yw rhoi’r profiad o'r ansawdd uchaf i bob myfyriwr, a sicrhau bod ein cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy'n bodloni ein gofynion mynediad. Mae partneriaeth y Brifysgol gyda AccessAble yn rhoi tystiolaeth bellach o'n hymrwymiad i wella profiad a hygyrchedd ein gwasanaethau i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.”
Ychwanegodd David Livermore, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes AccessAble: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i gynhyrchu’r canllawiau hygyrchedd manwl. Mae gan y Brifysgol ymrwymiad clir i gydraddoldeb mynediad a chyfle cyfartal ac mae'r canllawiau’n gwneud cyfraniad pwysig, drwy alluogi pobl i wirio adeiladau a gwasanaethau ymlaen llaw a hyn y er mwyn eu cynorthwyo wrth fynd o gwmpas y campws. ”
Gallwch weld y canllaw a chael rhagor o wybodaeth ewch i www.accessable.co.uk/organisations/aberystwyth-university