Myfyrwyr Aberystwyth i fynychu gŵyl ffilm yn Efrog Newydd
Chwith i’r dde: Dr Greg Bevan, Darlithydd mewn Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth; Hayley Goddard, Swyddog Rhoddion Unigol Prifysgol Aberystwyth; y myfyrwyr israddedig Ola Tomkiewicz a Jenny Edwards; a Mr Simon Banham, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
20 Mawrth 2019
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymysgu gyda rhai o enwau mwyaf y byd ffilm a sinema pan fyddant yn mynychu un o brif wyliau ffilm y byd ym mis Ebrill.
Mae Jenny Edwards ac Ola Tomkiewicz o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi ennill ymweliad pedwar diwrnod â Gŵyl Ffilm Tribeca yn Efrog Newydd sy’n cael ei chynnal rhwng 24 Ebrill a 5 Mai 2019.
Sefydlwyd Gŵyl Ffilm Tribeca gan Robert De Niro, Jane Rosenthal a Craig Hatkoff er mwyn adfywio rhannau o Manhattan wedi ymosodiad 9/11, ac mae bellach yn ei 18fed blwyddyn.
Daw’r Ŵyl â gwneuthurwyr ffilmiau, artistiaid, arloeswyr a’r gymuned greadigol fyd-eang ynghyd yn Efrog Newydd ar gyfer yr hyn a ddisgrifir fel ‘gŵyl adrodd storïau’.”
Diolch i gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth trwy Gronfa Aber, bydd Jenny ac Ola’n derbyn tocynnau teithio a llety ar gyfer eu hymweliad ag Efrog Newydd.
Byddant hefyd yn derbyn tocyn am ddim i’r Ŵyl a fydd yn caniatáu iddynt fynychu llawer o ddangosiadau, digwyddiadau, lolfeydd y gwneuthurwyr ffilmiau ac ardaloedd VIP.
Mae Jenny, sydd o Stourbridge yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, yn ei blwyddyn olaf yn astudio Astudiaeth Ffilm a Theledu. Ei phrif ddiddordebau yw sinematograffeg a golygu.
Dywedodd Jenny: “Mae cael ymweld ag Efrog Newydd a Gŵyl Ffilm Tribeca wedi bod yn freuddwyd gen i erioed. Braint yw cael y cyfle hwn – mae’r holl waith caled wedi talu ffordd. Dwi’n methu aros i brofi beth sydd gan Tribeca a’r ddinas fawr ei hun i’w gynnig. Dwi am ddysgu cymaint ac mae’r cyfle’n mynd i fy ysgogi i fod hyd yn oed yn fwy creadigol yn y dyfodol.”
Prif ddiddordebau Ola, sydd yn wreiddiol o Warsaw yng Ngwlad Pwyl ac yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu, yw ffotograffiaeth, archifau a diogelu ffilmiau, a sinema arbrofol.
Cyn ei thaith i Efrog Newydd, dyweddodd Ola: “Mae’r cyfle i gwrdd â gwneuthurwyr ffilmiau creadigol a phopeth arall a ddaw gyda hynny – rhannu syniadau, gweld eu gwaith – wedi fy nghyffroi’n arw. Dwi’n edrych ymlaen at dynnu llwyth o luniau a gwneud y mwyaf o bob cyfle. Fy nod yw cael mwy o ysbrydoliaeth i wneud ffilmiau.”
Yn ystod eu hamser yn Efrog Newydd, bydd Jenny ac Ola hefyd yn cwrdd â Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byr Gŵyl Ffilmiau Tribeca.
Mae Ben yn raddedig mewn Drama, Theatr a Ffilm o Brifysgol Aberystwyth ac yn un o’r Cysylltiadau Creadigol blaenllaw sy’n cyfrannu at raglen ddysgu amrywiol yr Adran.
Bydd Dr Greg Bevan a Dr Kate Woodward, y ddau yn ddarlithwyr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yn teithio gyda Jenny ac Ola i Tribeca.
Dywedodd Mr Simon Banham, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Mae’r Adran yn falch iawn o’r cysylltiad cryf sydd gennym â Gŵyl Ffilm Tribeca. O ganlyniad gallwn ymfalchïo yng ngwaith ein gwneuthurwyr ffilmiau ifanc fel Jenny ac Ola gan roi cyfle a phrofiad anhygoel iddynt. Mae eu gwaith hefyd yn gydnabyddiaeth o ansawdd dysgu ein staff yma yn Aberystwyth.”
Dywedodd Dylan Jones, Rheolwr Cyswllt Alumni a Rhoddion Unigol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn hynod ddiolchgar am haelioni a chefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr i Gronfa Aber, sy’n ein galluogi i roi cyfleoedd trawsnewidiol megis Gŵyl Ffilm Tribeca i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr i Jenny ac Ola am ennill y gystadleuaeth. Dwi’n siŵr y byddant yn elwa’n fawr o’r profiad.”
Jenny ac Ola fydd y pedwerydd pâr o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth i ymweld â Gŵyl Ffilm Tribeca gyda chymorth Cronfa Aber.
Ymysg y siaradwyr sydd wedi eu cadarnhau ar gyfer Tribeca 2019 mae Martin Scorsese, Robert De Niro, Guillermo del Toro, David O Russell, Queen Latifah, Michael J Fox, Denis Leary, Sarah Silverman, Rashida Jones, Questlove a Jaron Lanier.
Ceir manylion llawn ar wefan Gŵyl Ffilm Tribeca, a’r diweddaraf ar Twitter: www.twitter.com/tribeca, Facebook: www.facebook.com/tribeca ac Instagram: www.instagram.com/tribeca. #Tribeca2019