Cyllid i gynorthwyo menter ac entrepreneuriaeth

25 Mawrth 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen o weithgareddau menter i fyfyrwyr, graddedigion a staff sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes neu'u menter gymdeithasol eu hunain.

Bydd y grant o £135,000 dros gyfnod o dair blynedd tan 2021, yn galluogi'r Brifysgol i gynnig cymorth a chyfarwyddyd i fyfyrwyr a graddedigion ar gyfer eu busnesau a'u mentrau cymdeithasol newydd.

Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i godi proffil entrepreneuriaeth a darparu sgiliau menter i'r myfyrwyr ac arbenigedd ynghylch dechrau busnes.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, sy'n cadeirio Grŵp Menter Strategol y Brifysgol:  Mae cyflogadwyedd wrth galon y profiad i fyfyrwyr yma yn Aberystwyth.  Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth i fyfyrwyr a graddedigion sydd eisiau troi eu syniad busnes yn realiti, a bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn ein galluogi i barhau i gynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o bobl busnes i ddatblygu'r sgiliau a'r agweddau angenrheidiol i ddechrau eu mentrau eu hunain yn llwyddiannus."

Dywedodd Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Brifysgol sydd â chyfrifoldeb dros Fenter: "Gall myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth gael mynediad i raglen lawn o ddigwyddiadau menter a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu syniadau busnes, hogi eu sgiliau masnachol, a dysgu am yr heriau a'r manteision sy'n gysylltiedig â dechrau eu busnes eu hun.  Mae rhaglen Aberpreneurs y Brifysgol yn cynnwys gweithdai dechrau busnes a menter, sgyrsiau ysbrydoledig a chyflwyniadau gan fodelau rôl, mentora un-i-un gan ymgynghorydd busnes proffesiynol, cyngor am gyllid, rhwydweithio ac adnoddau dechrau busnes.  

"Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal Wythnos Dechrau Busnes bob blwyddyn (eleni fe'i cynhelir rhwng 3 a 7 Mehefin 2019), sy'n cynnig wythnos lawn o gyflwyniadau a gweithdai rhad ac am ddim i entrepreneuriaid brwd.  Rydym hefyd yn cynnal cystadleuaeth syniadau myfyrwyr o'r enw Gwobr Menter Aber sy'n werth £10,000 ac sy'n cynnig cyfle i entrepreneuriaid o blith y myfyrwyr gyflwyno eu syniadau i banel o gyn-fyfyrwyr adnabyddus, llwyddiannus o Brifysgol Aberystwyth mewn digwyddiad tebyg i'r gyfres deledu 'Dragon's Den'."

Daw'r cyllid a ddyfarnwyd i Brifysgol Aberystwyth o'r Cynllun Entrepreneuriaeth Ieuenctid, sy'n ffurfio rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth ymhlith ieuenctid yng Nghymru.

Wrth lansio'r Gronfa Entrepreneuriaeth Ieuenctid ym mis Hydref 2018, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae ein Colegau a'n Prifysgolion yn chwarae rhan allweddol fel arweinwyr rhanbarthol a byd-eang o ran ymchwil ac arloesi ac wrth sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn meithrin y sgiliau cywir ar gyfer y byd cyfnewidiol hwn. Dyma adeg gyffrous i fod yn entrepreneur yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld ein Prifysgolion, colegau a myfyrwyr yn arwain y ffordd wrth i ni geisio datblygu a chynorthwyo'r don nesaf o dalent entrepreneuraidd.

Gall myfyrwyr, graddedigion a staff Aberystwyth sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes neu'u menter gymdeithasol eu hunain gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael drwy ymweld â thudalennau gwe Aberpreneurs: https://www.aber.ac.uk/en/careers/starting-business/enterprise/