Gwyddonwyr Aber i gyflwyno’u hymchwil yn San Steffan
Y ffisegydd Alex Pitchford (dde) a’r mathemategydd Dan McNulty a fydd yn cyflwyno eu hymchwil yn San Steffan fel rhan o ddigwyddiad STEM for Britain.
06 Mawrth 2019
Bydd dau ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth yn cyflwyno eu gwaith yn y Senedd ddydd Mercher 13 Mawrth 2019 fel rhan o ddigwyddiad blynyddol STEM for BRITAIN yn San Steffan.
Bydd y ffisegydd Alex Pitchford a’r mathemategydd Dan McNulty yn trafod eu hymchwil gyda gwleidyddion a phanel o feirniaid arbenigol yn y digwyddiad fel rhan o gystadleuaeth poster genedlaethol sy’n cynnwys dwsinau o ymchwilwyr gyrfa cynnar o bob rhan o’r DU.
Cafodd Alex a Dan eu dewis o blith cannoedd wnaeth gais am le ar y rhestr fer i fynychu’r digwyddiad yn Llundain.
Mae Alex yn raddedig o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, a bellach yn Ymchwilydd Cyswllt Ôl-ddoethurol yn Adran Mathemateg y Brifysgol. Bydd yn cyflwyno ei waith ymchwil ar optimeiddio cyfrifiadura cwantwm.
Yn ddiweddar, dychwelodd o Siapan lle bu’n mynychu cynhadledd datblygwyr ar gyfer QuTiP, meddalwedd cod agored ar gyfer efelychu deinameg systemau cwantwm agored. Ef yw prif ddatblygwr llyfrgell y prosiect.
Dywedodd Alex: “Dyma gyfle cyffrous i mi esbonio fy syniadau gwyddonol i’r rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau yn y DU ac sydd wedi buddsoddi’n helaeth mewn technoleg cwantwm. Mae’n gyfle unigryw hefyd i mi ymweld â Thŷ’r Cyffredin, a chwrdd â’m Haelod Seneddol sydd wedi cynnig fy nhywys o amglych y San Steffan.”
Yn raddedig o Goleg Imperial Llundain, mae Dan yn Gymrawd Ymchwil Sêr Cymru II* yn yr Adran Fathemateg.
Bydd yn cyflwyno gwaith sy’n ymwneud â ffenomen ryfedd cwantwm o gyfatebolrwydd, a thrafod ei rôl mewn rhai o’r technolegau cwantwm newydd a chyffrous sy’n chwyldroi cyfrifiadura, cyfathrebu a diogelwch.
Dywedodd Dan: “Rwy’n hynod falch o’r cyfle i gyflwyno fy ngwaith yn nigwyddiad STEM for BRITAIN yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae’n gyfle i mi hyrwyddo fy ymchwil mewn amgylchedd nad yw’n academaidd a chymryd rhan mewn prosiect sy’n cefnogi gwyddonwyr yng nghyfnod cynnar ei gyrfa ymchwil o bob cwr o’r DU.”
Dywedodd Stephen Metcalfe AS, Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol a Gwyddonol: “Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon yn ddigwyddiad pwysig yn y calendr seneddol gan ei fod yn gyfle i aelodau seneddol siarad ag ymchwilwyr ifanc gorau’r wlad.
“Y peirianwyr, y mathemategwyr a’r gwyddonwyr sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfaoedd yw penseiri ein dyfodol a STEM for BRITAIN yw’r cyfle gorau i wleidyddion i gyfarfod â new a deall eu gwaith.”
Mae ymchwil Alex wedi’i gynnwys yn adran ffiseg y gystadleuaeth, a gwaith ymchwil Dan yn yr adran fathemateg.
Yn y fantol mae gwobrau aur, arian ac efydd, a swm o £2,000, £1,250 a £750 i’r enillwyr.
Bydd y prif enillydd hefyd yn derbyn Medal Westminster Wharton.
*Cymrodoriaeth ymchwil yw Sêr Cymru II sydd yn cael ei hariannu gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.