Hyfforddiant
Argymhellir y dylai staff fynd i sesiwn hyfforddi SharePoint os nad ydynt yn gyfarwydd â'r system.
Ar hyn o bryd ar-lein yn unig y ceir hyfforddiant SharePoint a hynny trwy Blackboard.
Mae dwy lefel o hyfforddiant ar gael:
Hyfforddiant Defnyddiwr SharePoint
Mae hwn i bobl sydd angen defnyddio SharePoint i gydweithio ag eraill yn eu tîm, eu hadran neu ar draws y brifysgol. Mae wedi'i anelu at ddefnyddwyr yn hytrach na gweinyddwyr y safle. Bydd yn eich dysgu sut i ddefnyddio SharePoint a llyfrgelloedd dogfennau, calendrau a rhestrau tasgau.
- Ewch i fudiad Hyfforddiant Datblygu Rhaglenni a TG
- Cliciwch ar Hyfforddiant Defnyddiwr SharePoint yn y ddewislen
- Lawrlwythwch yr ymarferion hyfforddi:
- Hyfforddiant SharePoint - Defnyddio SharePoint (PDF)
- Hyfforddiant SharePoint - Defnyddio SharePoint (DOCX)
- Gwyliwch y fideos hyfforddi gan weithio drwy'r ymarferion.
Hyfforddiant Gweinyddwr SharePoint
Mae hwn i bobl sydd angen cynnal a datblygu safleoedd SharePoint fel y gall eraill eu defnyddio i gydweithio. Bydd yn eich dysgu sut i sefydlu safle, yn ogystal ag ychwanegu llyfrgelloedd a rhestrau, gosod caniatâd, ac addasu eich safle.
- Cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth i'w hysbysu eich bod am wneud Hyfforddiant Gweinyddwr SharePoint er mwyn iddynt baratoi eich safle hyfforddi.
- Ewch i fudiad Hyfforddiant Datblygu Rhaglenni a TG
- Cliciwch ar Hyfforddiant Gweinyddwr SharePoint yn y ddewislen
- Lawrlwythwch yr ymarferion hyfforddi:
- Gwyliwch y fideos hyfforddi gan weithio drwy'r ymarferion.