Wal Fideo

Gellir defnyddio Waliau Fideo i arddangos sawl fideo ar dudalen mewn grid taclus. Gall defnyddwyr glicio ar y fideo o'u dewis a bydd y fideo yn agor mewn naidlen iddynt ei wylio.

Beth sydd ei angen?

Cyn creu eich wal fideo ar eich tudalen, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Cadarnhewch y dolenni ar gyfer eich fideos YouTube (bydd y cod sydd ei angen ar ôl y "?v=" yn y ddolen we);
  • Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer pob eitem yn eich wal fideo;
  • Sicrhewch fod gennych ganiatâd Cymedrolwr yn y CMS, gan mai Cymedrolwyr yn unig all greu'r arddull hon;
  • Sicrhewch fod y templedi cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich wal fideo:
    • Arddangos Wal Fideo;
    • Eitem wal fideo.

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS greu wal fideo yn eu tudalennau gwe trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 34.