Llinellau Amser neu Siartiau Llif

Mae'r Llinell Amser neu'r Siart Llif yn caniatáu i ddefnyddwyr arddangos gwybodaeth mewn blociau ar hyd llinell amser, neu gamau mewn siart llif. Mae'r blociau yn ymddangos yn ddeinamig ar y dudalen wrth i'r defnyddiwr sgrolio trwy'r llinell amser neu'r siart llif.

1

Crëwch neu dewch o hyd i’r adran lle’r hoffech roi eich llinell amser neu'ch siart llif

2

Cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth gyda manylion ynghylch lle’r hoffech greu eich llinell amser neu'ch siart llif, er mwyn creu'r gosodiad cychwynnol.

Cysylltu â Ni
3

Ychwanegwch flociau i'ch Llinell Amser neu Siart Llif gan ddefnyddio'r cynnwys 'Cody Timeline Item'.

4

Cofiwch gynnwys dolenni mewnol ac allanol yn ôl yr angen.

System Rheoli Cynnwys (CMS)
5

Uwchlwythwch ffotograffau a delweddau yn ôl yr angen

6

Uwchlwythwch ddogfennau PDF yn ôl yr angen

Taflen Wybodaeth 33 - Creu a Golygu Llinellau Amser / Siartiau Llif
7

Gwnewch yn siŵr bod yr eitemau ar gyfer eich llinell amser neu'ch siart llif yn y drefn gywir, a bod yr eitemau cyn ac ar ôl y llinell amser yn y lle iawn. Dylech gael 'pre timeline' ar frig y rhestr, ac yna'r blociau rydych wedi'u creu, gyda 'post timeline' ar waelod y rhestr.

Beth sydd ei angen?

Cyn creu eich llinell amser neu siart llif, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Cadarnhewch y testun sydd ei angen ar gyfer eich llinell amser neu eitemau’r siart llif;
  • Cadarnhewch y dolenni, y delweddau a'r dogfennau PDF sydd eu hangen ar gyfer eich llinell amser neu'ch siart llif (os oes angen);
  • Sicrhewch fod y Gwasanaethau Gwybodaeth wedi cwblhau'r gosodiad cychwynnol ar gyfer eich llinell amser neu'ch siart llif;
  • Sicrhewch fod y templedi cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich llinell amser neu’ch siart llif:
    • Eitem Llinell Amser Cody.

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS greu llinellau amser a siartiau llif yn eu tudalennau gwe trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 33.