Dewislenni Delwedd
Gellir defnyddio dewislenni delwedd i arddangos sawl dolen mewn ffordd graffigol. Gall y defnyddwyr glicio ar y delweddau neu'r testun er mwyn mynd i'r dudalen yn y ddolen.
Mae tri prif fath o ddewislenni delwedd yn cael eu defnyddio yn y CMS:
Dewislen Delwedd Safonol Bach
Cyn creu eich dewislen delwedd safonol bach, dylech wneud y paratoadau canlynol:
- Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 120px o led;
- Uwchlwythwch y delweddau i Lyfrgell Gyfryngau’r CMS.
Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd safonol bach trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.
Dewislen Delwedd Safonol Mawr
Cyn creu eich dewislen delwedd safonol mawr, dylech wneud y paratoadau canlynol:
- Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 250px o led
- Uwchlwythwch y delweddau i Lyfrgell Gyfryngau’r CMS.
Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd safonol bach trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.
Dewislen Delwedd Arddull Newydd
Cyn creu eich dewislen delwedd arddull newydd, dylech wneud y paratoadau canlynol:
- Dewiswch y delweddau ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y testun dolen sydd ei angen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Cadarnhewch y dolenni sydd eu hangen ar gyfer eich dewislen delwedd;
- Golygwch y delweddau fel bod pob delwedd yn 336px o led a 388px o uchder;
- Sicrhewch fod gennych ganiatâd Cymedrolwr yn y CMS, gan mai Cymedrolwyr yn unig all greu'r arddull hon;
- Sicrhewch fod y templedi cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich dewislen delwedd:
- Arddangos Dewislen Delwedd;
- Eitem Dewislen Delwedd (mewnol);
- Eitem Dewislen Delwedd (allanol);
- Dewislen Delwedd + Eitem Testun (mewnol).
Gall defnyddwyr y CMS greu eu dewislen delwedd arddull newydd trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 15.