Fideo wedi'i Ymgorffori

Fideo YouTube

Beth sydd ei angen? YouTube

Cyn ymgorffori eich fideo YouTube ar eich tudalen, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Cadarnhewch y ddolen ar gyfer eich fideo YouTube (bydd y cod sydd ei angen ar ôl y "?v=" yn y ddolen we);
  • Sicrhewch fod y templed cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich fideo YouTube:
    • Fideo YouTube

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS ymgorffori fideo YouTube yn eu tudalennau gwe trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 17.

Fideo Panopto

Beth sydd ei angen?

Cyn ymgorffori eich fideo Panopto ar eich tudalen, dylech wneud y paratoadau canlynol:

  • Cadarnhewch y ddolen ar gyfer eich fideo Panopto (bydd y cod sydd ei angen ar ôl yr "id=" yn y ddolen we);
  • Gwiriwch fod y caniatâd ar gyfer y fideo Panopto wedi'i osod i 'Anyone with the link';
  • Sicrhewch fod y templed cynnwys canlynol ar gael yn yr adran lle’r hoffech osod eich fideo Panopto:
    • Ymgorffori Fideo Panopto. 

Sut i?

Gall defnyddwyr y CMS ymgorffori fideo Panopto yn eu tudalennau gwe trwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir yn Nhaflen Wybodaeth 17.