System Rheoli Cynnwys
Mae’r Brifysgol yn defnyddio System Rheoli Cynnwys (CMS) o’r enw Rheolwr Safle Terminal Four. Defnyddir y Rheolwr Safle i greu, adolygu a chyhoeddi cynnwys ar wefan y Brifysgol. Caiff yr holl olygu ei wneud drwy ffurflenni ar y we, gan ddefnyddio golygydd WYSIWYG (what you see is what you get). Mae defnyddio CMS yn ein galluogi i wahanu strwythur a diwyg y tudalennau o’r cynnwys o fewn y tudalennau - does dim angen i ddefnyddwyr wybod sut i ddefnyddio HTML i allu creu tudalennau gwe proffesiynol yr olwg.