Safonau'r Gymraeg

Mae'n ofynnol i Brifysgolion Cymru gydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017. Mae Safonau'r Gymraeg yn esbonio sut mae disgwyl i'r Brifysgol ddarparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Gwefannau (Safonau'r Gymraeg)

  1. Rhaid cyhoeddi pob tudalen we a gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg.
  2. Rhaid i dudalennau gwe fod yn gwbl weithredol a chael eu cyhoeddi / diweddaru yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd. Dylai'r Gymraeg / Saesneg gynnwys yr un wybodaeth ac ni ddylai fod unrhyw oedi rhwng diweddaru’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r wefan.
  3. Rhaid i bob tudalen we gynnwys dolen 'Cymraeg' / 'English' sy’n arwain at y dudalen gyfatebol yn Gymraeg neu Saesneg. Ni ddylai'r ddolen 'Cymraeg' / 'English' ddychwelyd i'r hafan nac i dudalen we wahanol. Ar gyfer defnyddwyr CMS, bydd y dudalen Gymraeg cyfatebol ar gael yn awtomatig cyn belled bod enw Cymraeg wedi’i roi i’r adran a bod y cynnwys Cymraeg wedi ei gymeradwyo.
  4. Ni ddylid trin y tudalennau gwe Cymraeg yn llai ffafriol o ran fformatio, dyluniad, ymddangosiad, na'r testun a gaiff ei gynnwys.
  5. Rhaid i hyperddolenni sydd ar dudalennau gwe Cymraeg arwain at y fersiwn Gymraeg o’r dudalen/wefan honno. Ar dudalennau gwe Cymraeg, dylai’r hyperddolenni arwain at fersiwn Gymraeg y wefan allanol os yw’r wefan honno ar gael yn Gymraeg.
  6. Ar y dudalen we Gymraeg, rhaid i ddolenni ar gyfer lawrlwytho dogfennau arwain at fersiwn Gymraeg y ddogfen/ffurflen honno. Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau/ffurflenni a gyhoeddir gan y Brifysgol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ond os nad yw'r ddogfen ar gael yn Gymraeg (e.e. adroddiadau allanol / cyhoeddiadau ymchwil / papurau academaidd) dylid cynnwys dolen i'r fersiwn Saesneg o'r ddogfen ar y dudalen Gymraeg hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion Safonau’r Gymraeg ar gyfer dogfennau, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion Safonau'r Gymraeg ar gyfer gwefannau, gweler y canllawiau neu cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.