Rhwydwaith Myfyrwyr

Mae gan holl Neuaddau Preswyl y Brifysgol gysylltiad Rhwydwaith drwy soced rhwydwaith gwifredig Ethernet ym mhob ystafell wely. Hwn yw’r prif gyswllt â’r rhwydwaith, yn ogystal â thrwy ein rhwydwaith diwifr (eduroam).                                                       

Mae mynediad i Rhwydwaith Myfyrwyr ar gael i ddefnyddwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Eich Defnydd o’r Rhwydwaith

Darperir Mynediad Rhwydwaith i gefnogi dibenion academaidd y Brifysgol. Rydym yn caniatáu rhywfaint o ddefnydd anacademaidd cyfyngedig fel braint i’n defnyddwyr, ond mae’n rhaid i’r defnydd hwn gydymffurfio â:

Dylech ymgyfarwyddo’ch hun â’r rhain.

Pan fyddwch wedi cysylltu â Rhwydwaith y Neuaddau bydd modd i chi ddefnyddio eich  yr argraffyddion cyhoeddus a'r adnoddau gwybodaeth electronig o'ch ystafell yn y neuaddau.

Cysylltu eich cyfrifiadur â’r rhwydwaith

I gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhwydwaith bydd angen i chi gael:

  • cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth
  • cyfrifiadur gyda cherdyn rhwydwaith - gwifredig neu ddi-wifr
  • cyfrifiadur sy'n rhedeg  Windows 10 (neu fersiwn mwy diweddar), Apple macOS 12 neu uwch, Linux gyda 802.1x supplicant
  • cebl rhwydwaith RJ45 (ar gyfer cysylltiadau â gwifrau - mae'r rhain ar gael i'w prynu ar y campws  Gwerthiant Defnyddiau Traul 

 

Cymorth a Chefnogaeth

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth gysylltu eich cyfrifiadur â Rhwydwaith y Neuaddau gallwch roi cynnig ar ein canllawiau i ddatrys problemau – gwifredig neu ddi-wifr.