Canllawiau ar y Gwasanaeth i Fyfyrwyr

HTML clipboard

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth mae gennych chi hawl i ddisgwyl gwasanaethau o safon uchaf gan Wasanaethau Gwybodaeth.  Gobeithio y byddwch chi yn gwneud popeth sy’n bosib i’n cynorthwyo ni i ddarparu y gwasanaeth hwn. Mae’r canllawiau hyn yn dangos pa wasanaethau y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni a beth yr ydym ni yn disgwyl gennych chi fel myfyrwyr.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • darparu gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion yr holl fyfyrwyr yn y Brifysgol, gan gyd-fynd â pholisi'r Brifysgol ar gydraddoldeb cyfle, ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael;
  • gweithio gydag adrannau academaidd er mwyn sicrhau fod ein gwasanaethau wedi'u cynllunio i gwrdd ag anghenion myfyrwyr;
  • sicrhau na ddatgelir gwybodaeth bersonol;
  • darparu gwasanaethau o ansawdd uchel trwy staff hyfforddedig;
  • darparu deunydd dysgu, ffynonellau gwybodaeth electronig ac adnoddau cyfrifiadurol i gefnogi'r cwricwlwm;
  • sicrhau adborth oddi wrth y myfyrwyr;
  • darparu gwasanaethau effeithiol o ran pris i fyfyrwyr.

Mae'r ymrwymiadau hyn wedi eu trosi i ddatganiadau ymarfer da fel y maent yn berthnasol i agweddau gwahanol o'r gwasanaeth.

Mynediad

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • cynnig mynediad i’r llyfrgelloedd ac adnoddau IT sy'n cwrdd ag anghenion rhesymol myfyrwyr llawn amser a rhan-amser;
  • gwneud trefniadau penodol, gan gynnwys darparu deunydd a gwasanaethau arbenigol, i gefnogi myfyrwyr ag anghenion arbennig.
  • ymelwa ar dechnoleg newydd i ddarparu mynediad pell, ar ac oddi ar y campws, i ffynonellau gwybodaeth, ac er mwyn danfon dogfennau a gwasanaethau cyfrifiadurol;
  • rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymgynghori â’u cofnod Gwasanaethau Gwybodaeth, gan gynnwys benthyciadau a cheisiadau cadw;
  • derbyn ymholiadau a wnaed mewn person, ar y ffôn, drwy ffacs neu bost electronig.

Awyrgylch

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • darparu awyrgylch croesawgar a dymunol i'r myfyrwyr weithio ynddo;
  • cael llyfrgelloedd ac ystafelloedd gweithfan ar y campws sydd yn drefnus gydag arwyddion clir, fel y gall myfyrwyr eu defnyddio yn gyflym ac yn ddidrafferth;
  • darparu safleoedd ar gyfer llyfrgelloedd ac ystafelloedd gweithfan ar bob campws gyda digon o seddau i'r holl fyfyrwyr sydd eisiau gweithio ynddynt;
  • darparu amrywiaeth o leoedd astudio a mynediad cyfrifiadurol i alluogi myfyrwyr i weithio naill ai mewn grwpiau neu yn unigol.

Deunydd Dysgu

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • darparu casgliad addas o ddeunydd i gwrdd ag anghenion gwaith cwrs y myfyrwyr;
  • darparu testunau a chyfnodolion allweddol i gefnogi graddedigion ac astudiaethau ymchwil;
  • darparu databas o stoc y llyfrgell sy'n caniatáu i fyfyrwyr edrych am ddeunydd mewn nifer o wahanol ffyrdd;
  • darparu mynediad i nifer eang o ffynonellau gwybodaeth electronig
  • darparu gwasanaeth cadw ar lyfrau sydd mewn stoc ond ddim ar gael ar y pryd;
  • darparu eitemau addas nad ydynt mewn stoc trwy eu prynu, trwy fenthyciadau rhyng-lyfrgellol, neu trwy ddanfon dogfen electronig;
  • bodloni, neu adrodd ar, ceisiadau benthyciadau rhyng-lyfrgellol cyn gynted â phosibl;
  • dychwelyd llyfrau i'r silff mor fuan ag sydd bosib.
  • darparu Cyfrifiaduron Personol gydag manylebion uchel a pheiriannau graffeg mewn ystafelloedd gweithfan gyhoeddus gyda rhwydwaith ardal lleol cyflym;
  • darparu rhychwant eang o becynnau meddalwedd ar gyfer gweithfannau cyhoeddus a’r system UNIX canolog;
  • darparu adnoddau argraffu a storfa ffeil ganolog
  • mynediad i e-bost a gwasanaethau Gwe ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol;
  • darpariaeth a gwerthiant o galedwedd, meddalwedd a nwyddau traul gyfrifiadurol, megis disgiau hyblyg a phapur.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • darparu gwasanaeth gwybodaeth a chymorth cyfrifiadurol gyda staff digonol o fewn oriau gwaith arferol;
  • ymateb i ymholiadau cyfeiriadol cyflym yn syth, a delio ag ymholiadau arbenigol sy'n gofyn am gael eu cyfeirio i berson arall o fewn 3 diwrnod gwaith;
  • darparu canllawiau rhagarweiniol i Wasanaethau Gwybodaeth i bob myfyriwr newydd trwy sesiynau hyfforddiant, deunydd printiedig a chyhoeddusrwydd electronig;
  • darparu cyfarwyddyd ar ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth arbenigol a meddalwedd cyfrifiadurol i gefnogi gwaith prosiect neu aseiniad;
  • darparu cyfarwyddiadau ar ffynonellau gwybodaeth allanol ac ar sut i'w defnyddio.

Llungopïo ac Argraffu

 Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • darparu llungopïwyr hunan-wasanaeth ym mhob llyfrgell er mwyn cynhyrchu copïau A4 du a gwyn, gyda'r adnoddau gorau posibl;
  • darparu gwasanaeth llungopïo lliw a thryloyw sydd wedi'i staffio yn Llyfrgell Hugh Owen.
  • darparu adnoddau argraffu du a gwyn mewn gwahanol leoliadau trwy’r Brifysgol, gyda’r adnoddau gorau posibl;
  • darparu adnoddau sganio fel sy’n addas, ac adnoddau argraffu lliw, tryloyw a fformat mawr yn ganolog.

Cyfathrebu gyda myfyrwyr

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth wedi ymrwymo i:

  • gynnal cysylltiad cwrtais a buddiol gyda'r myfyrwyr;
  • sicrhau adborth gan y myfyrwyr trwy ffurflenni 'Awgrymiadau' papur ac electronig, arolwg defnyddwyr blynyddol ymarferiadau asesu dysgu, a dulliau addas eraill megis Pwyllgor Defnyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth;
  • ymateb yn gyflym i gwynion, a ddylai gael eu gwneud i'r aelod o staff priodol ar ddyletswydd;
  • rhoi enw, rhif ffôn  a chyfeiriad e-bost mewn pob trafodaeth gyda myfyriwr;
  • lledaenu gwybodaeth ar newidiadau a datblygiadau yng Ngwasanaethau Gwybodaeth yn rheolaidd

Cyfrifoldebau Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn ymgymryd â helpu trwy:

  • trin defnyddwyr eraill a staff gyda pharch a chwrteisi ar bob  adeg;
  • cadw rheolau a chanllawiau Gwasanaethau Gwybodaeth, sy'n bodoli i’n galluogi i gwrdd ag anghenion pob myfyriwr yn y ffordd gorau posibl, gyda sylw arbennig i’r pwyntiau canlynol;
  • peidio â chadw swn yn y Llyfrgell;
  • peidio ag yfed, bwyta, ysmygu, defnyddio stereo bersonol a ffôn personol yn y llyfrgelloedd a’r ystafelloedd gweithfan;
  • dychwelyd llyfrau a deunydd arall yn brydlon, a thalu unrhyw ddirwyon sy'n ddyledus;
  • cymryd cyfrifoldeb am bob eitem a fenthyciwyd ar eu cerdyn Gwasanaethau Gwybodaeth, a pheidio â phasio’r garden i fyfyrwyr eraill;
  • peidio â rhoi eu cyfrinair cyfrifiadur i unrhyw un;
  • gwneud defnydd priodol yn unig o gyfarpar ac adnoddau cyfrifiadurol;
  • sicrhau na ddefnyddir gwasanaethau cyfrifiadurol yn y fath modd fel y tramgywir rheoliadau Defnyddiwr Derbyniol JANET a sicrhau na ddatgelir deunydd gwrthun i ddefnyddwyr eraill;
  • peidio â cheisio torri uniondeb na diogelwch y systemau cyfrifiadur;
  • atal rhag ceisio, dan unrhyw amgylchiadau, mynd â deunydd o'r Llyfrgell heb iddo gael ei fenthyca iddynt;
  • peidio â difwyno, niweidio na symud unrhyw gyfarpar neu eiddo arall sy'n perthyn i Wasanaethau Gwybodaeth;
  • ymgyfarwyddo â chynnwys cyfarwyddiadau a chanllawiau'r Llyfrgell;
  • cadw i'r cyfyngiadau hawlfraint ar ffynonellau gwybodaeth print, clyweled ac electronig.
  • cadw’r rheoliadau trwydded sy’n cyfeirio at feddalwedd cyfrifiadur ac adnoddau cyfrifiadurol eraill.