Rhestrau E-bost
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu system rhestrau e-bost i’w gwneud hi’n haws cyfathrebu mewn grŵp
Ar ôl i chi osod rhestr e-bost ac ychwanegu enwau gallwch gysylltu â grŵp cyfan o ddefnyddwyr trwy ddefnyddio un cyfrif e-bost ac nid oes raid i chi boeni eich bod wedi methu rhywun. Mae mantais ychwanegol i ddefnyddio rhestr e-bost, sef nad ydych yn rhannu eich cyfeiriadau e-bost â’r derbynyddion eraill.
Mae nifer o restrau e-bost safonol yn cael eu creu’n awtomatig bob bore:
- Rhestrau ar gyfer cysylltu â myfyrwyr
- Rhestrau ar gyfer cysylltu â myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau
- Rhestrau ar gyfer cysylltu â staff
Os nad yw’r rhain yn bodloni eich anghenion gallwch wneud cais i osod a rheoli eich rhestr e-bost eich hun.
Mae rhagor o wybodaeth am restrau e-bost, gan gynnwys sut i wneud cais am un a sut i’w rheoli ar gael yn ein cwestiynau cyffredin