Llety Cyfrwng Cymraeg
Mae gennym llety arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg a fyddai’n hoffi byw mewn amgylchedd lle siaredir Cymraeg.
Amgylchedd lle siaredir cymraeg
Mae’n myfyrwyr yn dod o bob rhan o Gymru ac yn ymuno mewn pob math o weithgareddau.
Yn ganolog i’r gweithgaredd yw UMCA, Undeb y Myfyrwyr Cymraeg, sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ac yn sicrhau lles myfyrwyr. Mae Cymdeithas y Geltaidd yn cynnig rygbi, pêl-droed, timau hoci a pêl-rwyd, ac yn trefnu tripiau rygbi.
Mae aelwyd Pantycelyn yn adnabyddus am ei gôr llwyddiannus, y gellir yn aml cael ei weld yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, neu ar Côr Cymru ar S4C.
Mae yna hefyd cyfloedd i gymryd rhan mewn clocsio, dawnsio gwerin a llefaru, a digon o gymdeithasu ag ef!