Opsiynau Llety
Gall dewis llety yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol fod yn benderfyniad mawr. Mae ‘na nifer o ffactorau pwysig y dylech eu hystyried cyn ichi lenwi eich ffurflen gais.
Er enghraifft:
Cost – Beth y gallwch chi ei fforddio? Mae gennym ni sawl math o lety i siwtio pob poced, o ystafelloedd sengl safonol i fflatiau stiwdio moethus.
Lleoliad – Mae gennym lety ar y campws neu yn y dref.
Cyfleusterau – Pa gyfleusterau sy’n bwysig i chi?
- En suite – Gallwch fwynhau byw yn eich ystafell hunanarlwyo eich hun a bydd gennych eich ystafell ymolchi breifat eich hun
- Safonol – Mae’r llety safonol yn cynnig gwerth am arian. Byddwch yn byw mewn cymuned o fyfyrwyr a fydd yn ei gwneud yn llawer haws ichi wneud ffrindiau newydd. Byddwch yn rhannu’r ceginau a’r ystafelloedd ymolchi â myfyrwyr eraill
- Stiwdio - Llety stiwdio preifat sydd ar wahân i bawb arall. Bydd gennych eich cegin a’ch cyfleusterau ymolchi preifat eich hun.
Hyd y drwydded – A oes angen ystafell arnoch yn ystod y tymor yn unig neu dros yr haf hefyd? Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig, gallwn gynnig trwydded 50 wythnos ichi yn Rosser G.
Dewisiadau bwyd - I’r rhai ohonoch sydd am fyw eich bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch fyw mewn llety arlwyo (h.y. llety sy’n cynnig lwfans prydau bwyd ac sydd â bwyty ar y safle) neu mewn llety hunanarlwyo. Gweler y Llety Cyfrwng Cymraeg isod.
Cymharu Llety - dewch o hyd i’r dewisiadau llety gorau i chi.