2. Datblygu ac Adolygu
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 2 PDF
-
2.1 Cyflwyniad i Ddatblygu ac Adolygu
Cyflwyniad
1. Mae Adran 2 y Llawlyfr yn disgrifio trefniadau’r Brifysgol ar gyfer cynllunio, datblygu a chymeradwyo rhaglenni astudio newydd. Mae hefyd yn ymdrin â’r ymarferion blynyddol a chyfnodol er mwyn monitro ac adolygu darpariaeth sy’n bodoli eisoes, a hynny ar lefel cynllun a modiwl.
Datblygu cwricwlwm
2. Dylid datblygu cynlluniau a modiwlau newydd o fewn y Cyfadrannau, gan ddilyn arfer da wrth cynllunio cwricwlwm, ac ystyried disgrifiadau lefel ASA a’r datganiadau meincnodi pwnc. Dylid ymgynghori gyda myfyrwyr, ac ymgynghori’n allanol gydag arholwyr allanol, arbenigwyr pwnc, cyrff proffesiynol (PSRB) neu gyrff ymgynghorol eraill yn gynnar yn ystod datblygiad cynllun, a bydd tystiolaeth ddogfennol o’r broses hon yn cael ei hystyried gan baneli sefydlog cymeradwyo cynllun. Dylai Cyfadrannau ystyried goblygiadau unrhyw ddatblygiad newydd ar gyfer staffio, ac ystyried yn ogystal y cylch cynllunio dwy flynedd er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r broses cymeradwyo cynllun mewn da bryd fel bod modd sicrhau marchnata effeithiol.
3. Wrth gynllunio cynllun neu fodiwl newydd, bydd angen i'r Cyfadrannau ystyried y meini prawf a amlinellir yn y Ffurflen Datblygu Cynllyn a’r Ffurflen Cymeradwyo Modiwl. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu hystyried yn fanwl yn ystod y prosesau cymeradwyo a amlinellir yn Adran 2 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Cyfraith Defnyddwyr a newidiadau i ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes
4. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddwyd hysbysiad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), gyda’r nod o gynorthwyo darparwyr addysg uwch i gydymffurfio â’u dyletswyddau yn ôl cyfraith defnyddwyr. Mae’r hysbysiad yn amlinellu safbwynt yr Awdurdod Cystadleuaeth mewn nifer o feysydd, yn cynnwys darparu gwybodaeth ar gyfer israddedigion. Lluniwyd canllaw ymarferol gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd (ASA) er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflwyno gwybodaeth o ansawdd uchel i ddarpar fyfyrwyr, a hynny yn cynnwys gofynion mynediad, strwythur a dull dysgu’r cwrs, gwybodaeth am fodiwlau, asesiadau ac adborth, a chostau’r cwrs. Mae’r canllaw ar gael yma.
5. Wrth ymateb i gyngor yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, bydd angen i'r Cyfadrannau gynllunio’n ofalus cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i gynlluniau cyfredol, a’r modiwlau sy’n cyfrannu tuag atynt. Os yw newidiadau’n cael eu cynnig fel rhan o ymarferiadau monitro blynyddol neu adolygu cyfnodol, neu mewn ymateb i drefniadau adborth allanol neu adborth myfyrwyr, bydd angen i'r Cyfadrannau ymgynghori gyda myfyrwyr cyfredol (yn cynnwys y rhai sydd wedi derbyn cynnig ond sydd heb ddechrau eu hastudiaethau) cyn y gellir ystyried cymeradwyo’r newidiadau. Bydd union natur yr ymgynghori hwn yn dibynnu ar ystod y newidiadau arfaethedig ond fe all ddilyn un o’r dewisiadau canlynol. Dylai'r Cyfadrannau ymgynghori â’r Tîm Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd i gael cyngor pellach sicrwydd-ansawdd@aber.ac.uk
(i) Ymgynghori trwy’r Pwyllgor Ymgynghorol Staff-Myfyrwyr
(ii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda’r myfyrwyr anfon ymatebion at Gynrychiolwyr Myfyrwyr er mwyn galluogi trafodaeth ar y cyd mewn cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Staff / Myfyrwyr
(iii) Ymgynghori gyda myfyrwyr unigol trwy e-bost, gyda rheidrwydd i gael cydsyniad pob myfyriwr.
6. Mewn achosion lle y mae’n bosibl na fydd modiwlau dewisol yn cael eu cynnig oherwydd diffyg diddordeb neu am nad oes aelodau staff ar gael i’w dysgu, dylid gwneud hyn yn eglur i fyfyrwyr trwy’r wybodaeth a gyhoeddir. Dylid hysbysu myfyrwyr o unrhyw newid i’r dewis o fodiwlau sydd ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu dewis modiwl arall. Bydd hyn yn cael ei egluro i fyfyrwyr mewn llawlyfrau adrannol, sy’n cynnwys datganiad cyffredin ar lefel prifysgol.
Manylebau Rhaglen
7. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn mynnu bod cyrff dyfarnu graddau yn darparu gwybodaeth ddiffiniol am eu dyfarniadau. Gwneir hyn trwy’r fanyleb rhaglen, sy’n cynnwys manylion am y wybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a priodoleddau eraill y bydd myfyrwyr yn eu datblygu wrth gwblhau’r dyfarniad yn llwyddiannus, ynghyd â’r gweithgareddau dysgu ac asesu sy’n eu cefnogi wrth iddynt ddysgu.
8. Yr Gofrestrfa Academaidd sy’n gyfrifol am gynnal y manylebau rhaglen ar-lein, ac Adrannau byddant yn adolygu eu cywirdeb yn flynyddol fel rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau trwy Gwrs (AMTS). Bydd y manylebau rhaglen hefyd yn derbyn archwiliad allanol fel rhan o’r Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau.
9. Darperir templed ar gyfer eu paratoi ar y dechrau a’u cymeradwyo fel rhan o gymeradwyo cynlluniau ac Adolygiad Cyfnodol o Gynlluniau. Ceir templed penodol ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor, gyda chanlyniadau dysgu a fydd yn gyffredin i bob cynllun. Mae’r rhain ar gael yn Adran 2.14 y Llawlyfr. Paratowyd canllawiau ar gyfer ysgrifennu manylebau rhaglen gan ASA a’r Academi Addysg Uwch, ac maent ar gael yma:
(Mae Pennod A2 yn disodli’r ‘Guidelines for Preparing Programme Specifications’, y mae Disgwyliad A2.2 wedi’i gyflwyno yn eu lle bellach) a chan yr Academi Addysg Uwch:
https://www.heacademy.ac.uk/system/files/new_writing_programme_specification.pdf
Marchnata cynlluniau newydd
10. Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r polisi canlynol ar gyfer marchnata a chyhoeddi gwybodaeth am gynlluniau newydd.
11. Ni fydd cynlluniau yn cael eu hysbysebu ar dudalennau ‘chwilio am gwrs’ y Brifysgol, ac ni fyddant ar gael i ymgeiswyr trwy UCAS, hyd nes iddynt dderbyn cymeradwyaeth derfynol. Ni chaniateir unrhyw eithriad i’r polisi hwn.
12. Gellir hysbysebu pob cynllun newydd ym mhrosbectws printiedig y Brifysgol ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn sgil ystyriaeth gychwynnol gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio.
13. Mewn achosion eithriadol, gall Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio ganiatáu dulliau marchnata eraill ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’. Byddai hyn yn golygu bod y Cyfadrannau yn gallu cynhyrchu taflenni print neu arddangos manylion ar wefannau adrannol neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Noder na fydd hyn yn cynnwys UCAS na thudalennau cyrsiau’r Brifysgol. Er mwyn gofyn i’r Pwyllgor ystyried caniatáu marchnata ehangach ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’, bydd angen i'r Cyfadrannau gwblhau cais yn y rhan berthnasol o’r Ffurflen Datblygu Cynllun. Dyma’r meini prawf ar gyfer penderfyniad gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio:
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu dysgu yn Aberystwyth:
(i) Rhaid i o leiaf 75% o’r cynllun fod yn cael ei ddarparu eisoes trwy fodiwlau cyfredol
(ii) Mae’r holl adnoddau ar gyfer darparu’r cynllun yn bodoli eisoes
(iii) Cadarnhawyd teitl y cynllun eisoes, ac ni fydd unrhyw newid pellach. Ni fydd y Pwyllgor Datblygu a Chynllunio Academaidd yn cymeradwyo marchnata ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ os yw’n ystyried y gallai teitl y cynllun newid o ganlyniad i drafodaethau mewn panel yn ystod y broses gymeradwyo.
Ni fydd marchnata ‘yn dibynnu ar gymeradwyaeth’ yn cael ei gymeradwyo os ystyrir y gallai teitl y cynllun gael ei drafod ymhellach a’i newid ar gam y panel yn y broses cymeradwyo cynlluniau.
Ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael eu darparu trwy bartneriaeth gydweithredol:
(i) Mae’r cytundeb partneriaeth eisoes wedi ei gymeradwyo
(ii) Mae’r cynllun yn seiliedig ar ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes yn Aberystwyth ac ni fydd unrhyw addasu cynnwys na newid i’r teitl.
Gwybodaeth gyhoeddedig
14. Y Cyfadrannau sy'n gyfrifol am gynnal gwybodaeth gywir a chyfredol am eu cyrsiau. Ceir canllawiau ar sut i gyhoeddi gwybodaeth am gyrsiau trwy dudalennau Tîm y We. Cyhoeddir gwybodaeth am gyrsiau yma a cheir manylion strwythur y cynlluniau yn ôl blwyddyn academaidd yma. Cyhoeddir mynegai i fodiwlau cyfredol a’u manylion fesul blwyddyn academaidd ac Adran yma. Mae’r ddogfen Rhoi’ch Cwrs Ar-lein yn cynnig canllaw i Athrofeydd ar sut i gyhoeddi manylion cyrsiau.
-
2.2 Cymeradwyo Modiwlau
-
Cyflwyniad
1. Caiff trefn y Brifysgol o Gymeradwyo Modiwlau ei goruchwylio gan y Bwrdd Academaidd. Y Cyfadrannau sy’n gyfrifol am gymeradwyo modiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu, mân newidiadau i fodiwlau, gohirio a dileu modiwlau. Dylid cyflwyno cynigion am fodiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’u cyflwyno i’r Gyfadran berthnasol i’w hystyried. Dylai aelod academaidd annibynnol o staff graffu’r cynigion; bydd yr adolygydd yn cael ei enwebu yn rhan o’r llif gwaith cymeradwyo modiwl a dylent lenwi’r adran adolygu cyn i’r modiwl gael ystyriaeth pwyllgor y gyfadran briodol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Gyfadran, bydd y Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr yn cael gwybod am y newidiadau a fydd yn cael eu cofnodi ar y gronfa ddata modiwlau. Dylid cyflwyno modiwlau Dysgu o Bell sy’n seiliedig ar fodiwlau campws cyfredol, a modiwlau cyfrwng Cymraeg sy’n efelychiadau uniongyrchol o fodiwlau sydd wedi’u cymeradwyo, neu’r ffordd arall, gan ddefnyddio’r system APEX.
2. Dylai pob modiwl sy’n newydd ac sydd wedi’i ailstrwythuro gael cymeradwyaeth y Gyfadran a dylid diweddaru’r wybodaeth ar y gronfa ddata modiwlau a chynlluniau ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf erbyn diwedd tymor y gwanwyn neu heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth os yw tymor y gwanwyn yn gorffen ar ôl y dyddiad hwn.
3. Dylid gwneud mân newidiadau drwy ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX ond ni fydd angen adolygydd mewnol ar gyfer, er enghraifft newid teitl, newidiadau bach yn y cynnwys, newid o ran pwysiant asesu nad yw’n effeithio ar ganlyniadau dysgu, a newidiadau o ran semester. Rhaid cwblhau’r broses gymeradwyo lawn os ceir newidiadau sylweddol i gynnwys y modiwl, ei ganlyniadau dysgu neu drefn asesu.
4. Dylid cyflwyno cynigion i ddileu a/neu ohirio modiwlau i’r Gyfadran i’w cymeradwyo. Dylid cyfeirio ymholiadau am ddileu neu ohirio modiwl i’r Gyfadran yn y lle cyntaf. Dylid diweddaru’r modiwl yn APEX i wneud cais i ddileu/gohirio, a chaiff y cais ei ystyried wedyn gan y Gyfadran.
5. Yn rhan o’r broses gymeradwyo mewn Cyfadran, dylai’r Gyfadran sy’n gyfrifol am yr addysgu sicrhau bod ganddi’r adnoddau angenrheidiol i gyflwyno’r modiwl.
6. Nid bwriad y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yw darparu geiriad penodol ar gyfer cymeradwyo modiwlau, ond mae’n ceisio egluro rhai o’r cwestiynau cyffredin. Mae newidiada modiwl sy’n gorfod derbyn cymeradwyaeth y Gyfadran yn cynnwys:
(i) Newid sylweddol i gynnwys y modiwl
(ii) Unrhyw newid yn y lefel a ddynodir
(iii) Unrhyw newid o ran pwyso credydau
(iv) Unrhyw newid yn y canlyniadau dysgu a/neu ddulliau asesu.
7. Caiff yr angen am fodiwl sy’n newydd neu wedi’i ad-drefnu ei gydnabod ar lefel adran neu bwnc, a dynodir Cydlynydd Modiwl i arwain ar ddrafftio’r cynnig.
8. Caiff cynnig drafft ei baratoi yn defnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’r canllawiau a geir yn adran 2.2 o’r Llawlyfr Ansawdd.
9. Dylid cyflwyno’r cynnig i adolygydd modiwl (a enwebir gan y Deon Cysylltiol/Cyfadran). Mae’r broses adolygu ar wahân i unrhyw graffu adrannol o gynigion modiwl. A dylai cyfadrannau sicrhau bod cynigion modiwl yn cael eu craffu gan aelod academaidd annibynnol o staff na fu â rhan yn y gwaith o baratoi’r modiwl neu unrhyw graffu adrannol neu broses cymeradwyo blaenorol.
10. Dylai’r asesydd ystyried y modiwl, darparu adborth adeiladol o fewn APEX ac argymell un o’r camau gweithredu canlynol:
(i) Cymeradwyo’r cynnig
(ii) Cyfeirio at y Gyfadran i’w drafod ymhellach neu’n ehangach, neu gymeradwyo’n amodol ar ddiwygiadau a nodir
(iii) Cyfeirio’n ôl at y cydlynydd modiwl i’w ddatblygu ymhellach.
11. Dylai’r cynnig modiwl/ailstrwythuro wedi’i gwblhau, gan gynnwys sylwadau gan yr adolygydd annibynnol, gael ei gymeradwyo gan pwyllgor Cyfadran priodol.
12. Unwaith y bydd modiwl wedi’i gymeradwyo’n llwyr, bydd y modiwl/newidiadau’n cael eu hychwanegu i’r Gronfa Ddata Modiwlau. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Swyddfa Amserlennu a’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn cael eu hysbysu’n awtomatig drwy’r llif gwaith yn APEX.
13. Ni fydd modiwlau newydd yn ymddangos ar y gronfa ddata tan y bydd y broses gymeradwyo ffurfiol wedi’i chwblhau ar lefel cyfadrannol.
14. Mewn achosion lle mae trothwy isaf yn cael ei osod ar gyfer modiwl dewisol, mae’n rhaid i’r adran academaidd roi gwybod i’r myfyrwyr nad oes sicrwydd y bydd y modiwl yn cael ei gynnal os yw nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar ei gyfer yn isel, ac y gallai myfyrwyr orfod dewis eto. Yn yr un modd, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr pan fo nifer y cofrestriadau ar fodiwl wedi’i gapio, a darparu eglurhad clir.
-
Canllawiau ar Gwblhau’r broses Cymeradwyo Modiwl yn APEX
15. Defnyddir yr wybodaeth ar y system Rheoli Modiwlaul yn sail i’r holl ddogfennau modiwl perthnasol, gan gynnwys ar gronfa ddata modiwlau PA ac yn llawlyfrau’r cynlluniau gradd. Dylid ystyried yn ofalus faint o fanylion a fydd yn ymddangos ar y we yng nghyd-destun canllawiau’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (https://www.gov.uk/government/collections/higher-education-consumer-law-advice-for-providers-and-students). Dylai unrhyw wybodaeth a gyhoeddir fod yn ddigon manwl i ganiatáu i fyfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr wneud dewisiadau gwybodus, ond nid mor llawn fel y byddai mân newidiadau - nad ydynt yn effeithio ar ganlyniadau nac asesiadau - yn sbarduno’r angen i gyflwyno cymeradwyaeth modiwl lawn.
16. Gosodir dyddiad cau terfynol ar gyfer cynigion modiwl Rhan Dau mewn pryd ar gyfer cofrestru dros dro yn ystod y sesiwn cyn yr un y bwriedir cyflwyno’r modiwl ynddi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, a fyddai’n codi, er enghraifft, o newidiadau staff, y dylai Cyfadrannau ystyried cynigion am fodiwlau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwnnw.
-
Adrannau Ffurflen Ar-lein
17. Mae’r adran ragarweiniol hon ar y ffurflen ar-lein yn cynnwys gwybodaeth gefndirol y modiwl. Yn gyffredinol mae’r cwestiynau yn rhai gweinyddol a hunanesboniadol ac yn bwysig ar gyfer y gronfa ddata modiwlau a monitro gwiriadau ansawdd ar bortffolio’r modiwl.
-
Gwybodaeth Gefndirol
- Cydlynydd y Modiwl: Os cynigir y bydd y modiwl yn cael ei gydlynu a/neu fod cyfran sylweddol o’r addysgu’n cael ei wneud gan rywun nad yw’n aelod o PA, dylid cyflwyno CV cryno ar gyfer yr unigolyn/ion dan sylw gyda’r Ffurflen Cymeradwyo Modiwl i bwyllgor priodol y Gyfadran.
- A oes goblygiadau o ran strwythur unrhyw gynlluniau astudio yn codi o’r modiwl? Cofiwch am fodiwlau a ddefnyddir gan sefydliadau partner ac y gallai newidiadau sylweddol i graidd cynllun neu newid yn lefel y modiwl arwain at anghydbwysedd yn y semestrau.
- Dylid bod yn ofalus o ran gorgyffwrdd ag adrannau eraill. Gellir gwneud chwiliad am deitlau a/neu gynnwys tebyg drwy ddefnyddio’r gronfa ddata modiwlau. Os defnyddir yr adran hon i ddynodi cydrannau ategol, nodwch unrhyw debygrwydd a gwahaniaeth yn lefel y cynnwys yn ogystal â thestun y cynnwys. A yw’r modiwl arfaethedig yn datblygu pynciau a gyflwynir mewn modiwl arall, yn darparu gwybodaeth graidd i fodiwlau eraill, neu’n plethu ar yr un lefel?
-
Sail Resymegol a Chynnwys y Modiwl
18. Dylai hwn fod mor wrthrychol â phosibl. Gall fod gan y cynigydd syniad clir iawn o werth arfaethedig y modiwl a’i ganlyniadau ond gallai hyn fod yn llai amlwg i rywun sy’n edrych o’r tu allan i’r ddisgyblaeth.
- Sail resymegol academaidd: Dylai hyn gynnwys gwybodaeth gefndir e.e. bwriad i lenwi bwlch yn y portffolio o fodiwlau a/neu sgiliau; nod i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, neu wella eu gallu i drin materion cymhleth gydag amrywiaeth o sgiliau academaidd/technegol. Gellir cynnig rhai amcanion penodol e.e. yn ymwneud â’r disgwyliad y bydd y rhaglen arfaethedig yn bodloni gofynion achrediad proffesiynol neu y bydd y modiwl yn helpu i fodloni gofynion diwygiedig; y bydd y myfyrwyr yn cael sgiliau TGCh mwy cyfredol neu y byddant yn cael sgiliau TGCh ehangach y gellid eu diweddaru’n rheolaidd mewn cyflogaeth neu gydag astudio pellach. Ni fydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
- Disgrifiad cryno: Dylai hwn fod yn grynodeb o gynnwys y modiwl, wedi’i anelu at gynulleidfa o fyfyrwyr (dim mwy na 150 o eiriau). Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
- Cynnwys: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau. Mae angen i’r wybodaeth fod yn gymharol fanwl a dylai gynnwys y pynciau sydd i’w trafod a dylai grybwyll y gyfran amser a’r math o gyflwyno y dylid eu disgwyl fel darlithoedd, seminarau a/neu fathau eraill o gyflwyno. Os yw cydweithwyr yn rhy ragnodol wrth osod cynnwys y cwrs, gallai gyfyngu ar eu gallu i gyflwyno diwygiadau i ddarlithoedd neu seminarau unigol mewn ymateb i ddatblygiadau yn y maes neu werthusiadau modiwl. Gellir cyhoeddi’r cynllun wythnosol manwl yn cynnwys darlithoedd, seminarau ac ati ar Blackboard, mewn llawlyfrau modiwl neu gyfatebol fel elfennau o gyflwyno a allai newid o flwyddyn i flwyddyn heb fod newid i’r cynnwys a fyddai’n golygu cymeradwyaeth drwy system Rheoli Modiwlau APEX.
-
Canlyniadau Dysgu ac Asesiadau
19. Dylid pennu’r lefel arfaethedig (0, 1, 2, 3, M, etc.) yng nghyswllt disgrifyddion lefel PA a gytunwyd; gweler Atodiad 3.1.21.
- Canlyniadau Dysgu: Y fformat safonol yw ‘Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr' gyda rhestr wedi’i rhifo o ganlyniadau dysgu’n dilyn. Nid oes rhaid i’r rhestr fod yn nhrefn pwysigrwydd o reidrwydd; mae’r canlyniadau wedi’u rhifo er mwyn hwyluso ymateb i’r cwestiwn sut maent yn gysylltiedig â’r dulliau asesu. Fel arfer gellid pennu 3- 8 o ganlyniadau dysgu i fodiwl 10 credyd.
-
Dysgu ac Asesu
- Asesu: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau ac mae’n cysylltu’n uniongyrchol â’r meddalwedd trefnu amserlen ac arholiadau. Nodwch hyd yr arholiadau, manylion y gwaith cwrs, a chanran pwysiant bob un gan egluro sut mae pob canlyniad dysgu’n gysylltiedig â’r dulliau asesu. Mae asesu’n cyfeirio at bob dull a ddefnyddir i fesur cynnydd myfyrwyr drwy’r modiwl a’u perfformiad. Mae asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn berthnasol.
- Asesu: Dylid pennu’r dulliau asesu h.y. arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd (traethawd, ateb byr, cwestiynau amlddewis ac ati) a gwaith cwrs (llafar, portffolio, perfformiad, traethawd ac ati) gyda’r hyd/raddfa. Dylid cynnwys pob elfen mewn asesiad crynodol fel cyfran o’r asesiad cyflawn. Mae hyn yn hanfodol wrth fonitro’r berthynas rhwng asesu a phwyso credydau a llwyth gwaith y myfyriwr. Os yw’r canlyniadau dysgu yn disgrifio dull dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr gyda dull seiliedig ar grŵp, ond bod yr asesu’n bennaf yn arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd, caiff anghysondeb ei ddatgelu.
- Asesiad Ailsefyll: Mae hyn yn cyfeirio at gyfleoedd i ailsefyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n glir os bydd cyfle i ailsefyll a pha fath o asesiad fydd hwn. Dylai fformat yr asesiad ailsefyll fod yr un fath â’r asesiad semester oni bai ei fod yn amhosibl ei atgynhyrchu e.e. gwaith grŵp neu ymarferol. Dylai unrhyw elfennau a basiwyd fel arfer gael eu dwyn ymlaen.
-
Sgiliau
20. Gallai datblygu un neu ragor o’r sgiliau a restrir yn yr adran hon fod yn echblyg yn rhaglen y modiwl. Os felly, dylid nodi natur y sgiliau sydd i’w datblygu. Ar ben hyn, os yw’r sgiliau’n cael eu hasesu’n ffurfiol, dylid nodi hyn fel ie/na. Gweler y rhestr gymeradwy o sgiliau ar ddiwedd y bennod hon.
-
Gwybodaeth Gyffredinol Arall
21. Rhestr Ddarllen a Llyfryddiaeth: Pe byddai amcan o destunau hanfodol a darllen pellach yn cynorthwyo’r drefn cymeradwyo modiwl, dylid ychwanegu hyn yn Lyfryddiaeth Fynegol. Os yw’r Llyfryddiaeth gyfan yn cael ei darparu, dylid cysylltu â’r llyfrgellydd pwnc i drafod ymhellach. Mae canllawiau ynglŷn â Rhestrau Darllen Aspire wedi’u cyhoeddi yn: https://faqs.aber.ac.uk/802.
22. Adnoddau: Dylai gofynion Llyfrgell a TG gynnwys amcangyfrif o ba mor aml y defnyddir TG e.e. oes angen labordy cyfrifiadurol bob wythnos, yn ysbeidiol ac ati? Pa feddalwedd sydd ei angen, pa gyfleusterau argraffu? Ceir rhagor o wybodaeth am ba un ai y byddai o fudd gwneud addysgu sgiliau gwybodaeth yn rhan annatod o fodiwl gan y Llyfrgellydd Pwnc. I gael rhagor o wybodaeth cyfeiriwch at y Datganiad Llythrennedd Gwybodaeth. Dylid ymgynghori â’r Llyfrgellydd Pwnc hefyd wrth ystyried tanysgrifiad newydd i gefnogi astudiaethau’r modiwl, e.e. cyfnodolyn neu gronfa ddata.
-
Tystiolaeth o Graffu Annibynnol
23. Dylai adolygydd sy'n aelod annibynnol o'r staff academaidd ac nad ydyw wedi ymwneud ag ysgrifennu’r modiwl graffu ar gynigion modiwl; dylech enwebu adolygydd gan ymgynghori â’ch Adran a/neu Gyfadran. Dylai’r adolygydd lenwi’r rhan hon o'r ffurflen a chysylltu â’r cynigydd, a ddylai wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r ffurflen a/neu roi ymateb yn y sylwadau. Os yw modiwl yn gyfieithiad uniongyrchol o fodiwl sydd eisoes wedi’i gymeradwyo, nid oes angen cwblhau’r adran hon.
-
Cymeradwyaeth
24. Mae modiwlau’n amodol ar gymeradwyaeth gan y pwyllgor priodol ar lefel gyfadrannol. Ar ôl cwblhau’r broses gymeradwyo fewnol yn y Gyfadran bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trosglwyddo’r data o APEX i’r gronfa ddata modiwlau.
-
Disgrifyddion Lefel
25. Wrth bennu natur y galwadau mae’r modiwl yn eu gwneud ar fyfyrwyr dylid cyfeirio at y disgrifyddion lefel a gytunwyd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth: gweler 3.1.21 y Llawlyfr Ansawdd.
-
Canlyniadau Dysgu
26. Dylai Canlyniadau Dysgu’r modiwl ddilyn y canllawiau canlynol:
- Dylai canlyniad fynegi’r hyn y dylai myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cwblhau’r modiwl.
- Gall y rhestr o ganlyniadau wahaniaethu rhwng canlyniadau ‘penodol’, a asesir yn uniongyrchol a chanlyniadau ‘cyffredinol’ sy’n ehangach eu natur ac nad oes modd eu hasesu’n uniongyrchol gyda’r dulliau asesu mewn unrhyw modiwl unigol.
- Dylid mynegi canlyniad mewn geiriau sy’n golygu bod modd rhagweld y byddai myfyriwr yn gallu ei gyflawni ar raddfa ‘yn llwyr’ i ‘yn rhannol’ a ‘dim o gwbl’.
- Dylai’r gofynion ar fyfyrwyr, fel y’i nodir gan y canlyniadau dysgu arfaethedig, fod yn briodol i lefel y modiwl (gweler disgrifyddion lefel y sefydliad ar gyfer yr hyn a olygir gan ‘lefel 1’ ac ati).
- Dylai fod modd asesu’r canlyniadau ar draws holl ystod y garfan o fyfyrwyr y mae’r modiwl wedi’i gynllunio ar eu cyfer.
- Byddai set o ganlyniadau modiwl fel arfer yn cynnwys amrediad o fathau o gyrhaeddiad myfyrwyr (gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau).
- Ni ddisgwylir y byddai mwy na 8 canlyniad yn cael eu dynodi ar gyfer un modiwl penodol.
-
Geirfa canlyniadau
27. Nid oes geirfa benodol ar gyfer canlyniadau dysgu. Fodd bynnag, mae’n werth cadw’r canlynol mewn cof.
- Dylai berfau a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau fod yn weithredol a dangos, os yw’r canlyniad am gael ei asesu, y gallu i fesur pob canlyniad trwy asesiad ffurfiannol neu grynodol. Er enghraifft os disgwylir i fyfyrwyr ‘ddeall’ cysyniad, gallai fod yn well nodi y dylai myfyrwyr allu ‘dynodi’ nodweddion y cysyniad, ‘disgrifio’ ei werth wrth egluro ffenomen, ‘dangos’ defnydd o’r cysyniad a ‘gwerthuso’ ei arwyddocâd. Gellid ystyried y canlyniadau hyn fel ffordd fesuradwy i fynegi’r ddealltwriaeth y byddem yn disgwyl i fyfyrwyr ei chaffael.
- Mae dealltwriaeth yn cynnwys achosion penodol iawn, yn yr enghraifft hon, o ddynodi, disgrifio a dangos. Fodd bynnag ceir amrywiaeth o lefelau canolradd o ddiffiniadau. Gallai geirfa o’r fath gynnwys ‘dynodi’n feirniadol’, ‘dangos gallu’, ‘gallu cymhwyso/trafod’ a ‘defnyddio amrywiaeth’. Gallai’r rhain hefyd fodloni gofynion mesur. Yn amlwg bydd hyn yn amrywio’n fawr rhwng ac o fewn disgyblaethau.
28. Mae’r tabl isod yn cynnwys rhagor o’r berfau llai mesuradwy a thermau amgen y gellid eu cysylltu’n agosach â dulliau asesu. Yn amlwg, mae’r rhain yn benodol i’r cyd-destun ac mae modd cyfnewid rhai â’i gilydd. Nid yw hon yn rhestr holl gynhwysfawr.
Berf gyffredinol
Berf fesuradwy
Deall
Dangos dealltwriaeth o
Bod yn ymwybodol
Disgrifio, dangos, trafod
Amgyffred
Dadansoddi, Gwerthuso
Cymathu
Egluro, Cyfosod
Sefydlu
Dangos, Dynodi, Rhestru, Nodi, Cyfiawnhau
Gwerthfawrogi
Dadansoddi, Gwerthuso, Cymharu
Ymwybyddiaeth
Cyfathrebu, Egluro
Gwneud
Perfformio
Gwybod
Diffinio, Gwahaniaethu, Gwerthuso
Sgiliau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
Datrys problemau'n greadigol
Cyfleoedd sy'n herio, yn gwneud i'r myfyriwr feddwl drostynt eu hunain a/neu gynnwys dod o hyd i ffyrdd gwahanol o weithio'n greadigol. Yn cynnwys gwneud penderfyniadau, ffyrdd mentrus o feddwl, dulliau amgen, arloesi, menter.
Meddwl beirniadol a dadansoddol (meddylfryd cwestiynu)
Y gallu i gasglu data gofynnol yn gyflym a dadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn gynhwysfawr i lywio penderfyniadau/meddwl. Yn cynnwys llythrennedd gwybodaeth, y gallu i gynllunio ymchwil, casglu data priodol, ystyried persbectifau a safbwyntiau amgen, dod i gasgliadau, bod yn rhesymegol, rhesymu a dadansoddi meintiol, adnabod rhagfarn a chamwybodaeth.
Hyblygrwydd a gwydnwch
Y gallu i ddelio ag amgylchiadau ac amgylcheddau sy'n newid. Addasu i weithio gyda phobl eraill sydd â dewisiadau a blaenoriaethau gwahanol. Addasu i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Yn cynnwys cydnabyddiaeth bod galluoedd yn tyfu dros amser; dysgu drwy gamgymeriadau; derbyn adborth yn gadarnhaol; beirniadaeth adeiladol.
Cymhwysedd digidol
Cysyniad eang sy'n cwmpasu llythrennedd yn y cyfryngau a gwybodaeth, ymchwil ddigidol a datrys problemau, creadigrwydd gydag offer digidol yn ogystal â rheoli dulliau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Yn cynnwys parodrwydd i roi cynnig ar dechnolegau newydd, addasu i ddulliau digidol o weithio, dealltwriaeth o ôl troed digidol a'i effaith.
Adlewyrchu (hunanymwybyddiaeth)
Trwy drafod a thasgau, cyfleoedd i ddeall eu profiadau, eu rhinweddau a'u dyheadau eu hunain. Dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Darparu cyfleoedd i nodi a mynd i'r afael â chryfderau a gwendidau. Yn gysylltiedig ag Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), gan gydnabod datblygu sgiliau a chynnydd personol, cynllunio gyrfa, asesu diddordebau a gwerthoedd, adborth ac asesu.
Cyfathrebu proffesiynol
Gosod cyfathrebu ysgrifenedig, llafar, gweledol, rhifiadol a digidol yng nghyd-destun y gweithle. Yn cynnwys y gallu i ddangos empathi drwy osod eu hunain yn esgidiau pobl eraill, i ddeall eu teimladau, ac i helpu i ddatrys eu problemau, i gydnabod dulliau cyfathrebu priodol sy'n gysylltiedig â chynulleidfaoedd gwahanol, defnyddio dulliau iaith a chyfathrebu'n briodol, defnyddio data meintiol mewn ffyrdd priodol i wella dealltwriaeth, i ystyried cynnwys cyfathrebu a'r cywair a ddefnyddir.
Synnwyr byd go iawn
Dysgu yn seiliedig ar ymchwilio i faterion byd go iawn (Dysgu Seiliedig ar Broblemau/Dysgu Seiliedig ar Achos).
Cyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, ymarferwyr ac entrepreneuriaid.
Profiad – dysgu seiliedig ar ymarfer sy’n seiliedig ar waith neu ar y gymuned.
Datblygu sgiliau mewn: menter, annibyniaeth, gweithio yn rhan o dîm, ymdopi â phwysau, cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, gwneud penderfyniadau, bod yn gyfrifol, cydnabod rhagfarn a chamwybodaeth, addasu, cynllunio, cydlynu a threfnu, cydnabod trosglwyddedd sgiliau, trosi labeli sgiliau yn y byd academaidd i'r rhai a ddefnyddir yn y gweithle. Cyfeirir atynt weithiau fel ymwybyddiaeth fasnachol.
Cydweithio
Cydweithio fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ac a asesir fel cyfanrwydd, trafod, dylanwadu.
Cydweithredol, fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ond a asesir yn unigol
Datblygu arweinyddiaeth drwy gyfleoedd i:
- ysgogi a chyfarwyddo eraill
- cymryd cyfrifoldeb am gyfeiriad a gweithredoedd tîm
- defnyddio blaengaredd, cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth o broblemau.
2.3 Crynodeb o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau1. Yn yr adran hon rhoddir crynodeb o’r drefn ar gyfer cymeradwyo cynlluniau, trefn a ddisgrifir yn fanwl yn adrannau 2.4 - 2.7. Efallai y bydd y siartiau llif datblygu cynlluniau hefyd yn ddefnyddiol i staff.
2. Mae dau lwybr i'r drefn gymeradwyo, y llwybr 'Gweithredol' a'r llwybr ‘Anweithredol’. Dylech ymgynghori â'ch cyswllt Sicrwydd Ansawdd yn y Gofrestrfa Academaidd i weld pa lwybr cymeradwyo sy'n addas i'ch gofynion chi.
3. Y llwybr ‘Gweithredol’ yw'r drefn ar gyfer cynigion sydd wedi eu newid neu eu had-drefnu'n sylweddol, yn ddatblygiadau mewn maes newydd o'n darpariaeth, a datblygiadau sydd ag oblygiadau mewn adnoddau a goblygiadau ar lefel prifysgol y mae angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo’n derfynol; dylai’r adran gyflwyno achos busnes (PAF1/PAF2) i Weithrediaeth y Brifysgol gael ei ystyried, ac SDF 1.1 i’r Pwyllgor Cynllunio Portffolio (PCP). Bydd y Pwyllgor a Grŵp Gweithredol y Brifysgol yn ystyried cynigion o safbwynt strategaeth, dichonoldeb busnes gan gynnwys costau, risgiau (gan gynnwys y risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol, a byddant yn penderfynu a ddylai’r cynigion symud ymlaen i gael eu hystyried o safbwynt academaidd gan y Panel sefydlog Cymeradwyo Cynlluniau.
4. Y llwybr ‘Anweithredol’ yw'r drefn yn achos cynigion yr ystyrir eu bod yn ddatblygiadau mewn maes sy'n bod eisoes, lle nad oes oblygiadau adnoddau ac felly nad oes angen cymeradwyaeth derfynol Gweithrediaeth y Brifysgol; gellir cymeradwyo'r rhain ar lefel y Gyfadran ac felly ni fydd angen i’r Panel sefydlog Cymeradwyo Cynlluniau graffu ymhellach arnynt.
5. Os cynigir Tystysgrif neu Ddiploma annibynnol, bydd angen cymeradwyo hyn fel cynllun astudio newydd ag iddo fanyleb rhaglen a strwythur cynllun.
6. Bydd Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio (PCP) hefyd yn ystyried cynlluniau gradd sy'n newid teitl, yn cael eu gohirio neu eu dileu.
7. Ar gyfer darpariaeth nad yw’n cyd-fynd â’r uchod, dylai adrannau gysylltu â’r tîm Sicrhau a Gwella Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) i drafod craffu mewnol priodol cyn ei ystyried gan unrhyw banel allanol.
8. Tan i gynllun gwblhau'r drefn gymeradwyo yn llwyr, ni ddylid ei hysbysebu ar-lein na'i roi ar UCAS, ond gellir ei farchnata 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ym Mhrosbectws argraffedig y Brifysgol. Gellid marchnata cynllun 'yn amodol ar ei gymeradwyo' ar ddyddiau agored, neu ar wefannau'r adrannau, cyhyd â bod achos boddhaol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio neu banel cymeradwyo lle bo hynny'n briodol, a chyhyd â bod yr holl ddeunydd hysbysebu a chyflwyniadau mewn digwyddiadau yn ei gwneud yn hollol glir fod y cyrsiau hyn yn dal yn amodol ar gael eu cymeradwyo.
9. Er mwyn sicrhau digon o amser am ymgyrch farchnata effeithiol a lansiad llwyddiannus, dylid yn ddelfrydol ddatblygu cynllun trwy ddilyn cylch cynllunio 2 flynedd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynigion gael eu hystyried ar lefel yr adran, yn rhoi amser i adrannau ymgynghori'n allanol, ymgynghori â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, ac i drafod â’r tîm Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr, yn ogystal ag amser i gynigion gael cwblhau’r llwybr cymeradwyo priodol.
Safonau’r Iaith Gymraeg
10. Ers 1 Ebrill 2018 mae Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg sydd wedi disodli’r Cynllun Iaith Gymraeg. Cyfrifoldeb adrannau academaidd yw dangos sut y mae cynnig i gyflwyno, diwygio, gohirio neu ddiddymu cynllun astudio yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg, ac yn benodol Safon 104. Ceir manylion pellach ar dudalennau gwe Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg: Prifysgol Aberystwyth https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/bilingual-policy/.
Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
11. Wrth ddatblygu’r cwricwlwm, bydd adrannau academaidd yn cyfeirio at amcanion strategol y Brifysgol ac yn benodol Is-gynllun y Gymraeg a’i Diwylliant 2019-2023. Gweler Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg am fanylion pellach, yn cynnwys yr egwyddorion a’r mesurau llwyddiant mewn perthynas â’r ddarpariaeth academaidd: https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/policies/.
2.4 Y Llwybr Cymeradwyaeth y Weithrediaeth1. Mae'r adran hon yn disgrifio'r drefn i gymeradwyo cynlluniau gradd a ddysgir a chynlluniau astudio eraill sy'n arwain at ddyfarniadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n berthnasol i gynigion am gynlluniau newydd. Cymeradwyir pob cynllun am gyfnod o bum mlynedd, ac ar ôl hynny rhaid iddynt fod yn destun Adolygiad Adrannol Cyfnodol (Adran 2.10).
2. Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio, sy'n is-bwyllgor o'r Bwrdd Academaidd, sy'n arolygu darpariaeth cynlluniau gradd y Brifysgol. Mae’r Pwyllgor hwn yn gyfrifol am gadw golwg gyffredinol ar y cynigion am gynlluniau newydd, ac am gynlluniau sy'n cael eu gohirio neu eu dileu. Ystyrir cynigion am gynlluniau newydd gan Banel Cymeradwyo Cynlluniau sefydlog, sy'n adrodd i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio.
3. Cynlluniwyd y drefn gymeradwyo ar sail egwyddorion arweiniol Cod Ansawdd y DU, ac i gydymffurfio â’r arferion craidd a chyffredin a amlinellir ynddo. Diben hyn yw sicrhau'r Brifysgol bod yr adrannau academaidd, wrth ddatblygu cynlluniau astudio newydd, wedi rhoi ystyriaeth gywir i'r materion canlynol:
(i) Cyfeirbwyntiau allanol, gan gynnwys unrhyw ddatganiadau meincnodi pwnc perthnasol a'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ)
(ii) Cyngor gan arbenigwyr pwnc allanol (er enghraifft, yr arholwr allanol cyfredol neu aelodau o gorff cynghori allanol) a, lle bo'n briodol, gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) a chyflogwyr
(iii) Pa mor gydnaws yw'r cynnig yng nghyd-destun y ddarpariaeth bresennol ac amcanion a chenadwri'r sefydliad?
(iv) Gofynion adnoddau, gan gynnwys staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw adnoddau pwnc-benodol (e.e. cyfleusterau labordy)
(v) Lefel debygol y galw.
Yr amserlen a'r drefn cymeradwyo
4. Os yw adrannau academaidd yn bwriadu cyflwyno cynllun astudio newydd, neu wneud newidiadau sylweddol i gynllun sy’n bodoli eisoes, rhaid caniatáu digon o amser ar gyfer denu myfyrwyr a hysbysebu. Rhaid i staff sy’n datblygu cynigion gydlynu â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran neu'r Cyfadrannau perthnasol, y Swyddfa Gynllunio, y tîm Marchnata a Denu Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Gwybodaeth yng nghamau cynnar y gwaith datblygu.
5. Mae'r amserlen ar gyfer marchnata a chymeradwyo (cylch cynllunio dwy flynedd) wedi'i chyhoeddi ar-lein ac mae'n cael ei diweddaru'n flynyddol: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/. Rhaid cyflwyno'r cynigion i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio ac mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno’r papurau i'w gweld ar-lein: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/. Os gwneir cynnig am gynllun newydd nad yw'n cyd-fynd â'r cylch dwy flynedd, bydd Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn penderfynu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno'r cynllun yn gynharach.
6. Defnyddir llwybr cymeradwyaeth y weithrediaeth ar gyfer cynigion yr ystyrir eu bod gyfystyr â newidiadau neu ailstrwythuro sylweddol, datblygiad mewn maes lle mae’r ddarpariaeth yn newydd, a lle ceir goblygiadau o ran adnoddau neu oblygiadau ar lefel y Brifysgol y mae angen i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol gytuno arnynt. Rhennir y drefn yn ddau gam:
Cam 1
SDF1.1, PAF1/PAF2 – Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol yn ystyried yr achos busnes a’r effaith ar y portffolio academaidd cyffredinol
7. Rhaid i adrannau gyflwyno’r dogfennau canlynol i gefnogi'r cynnig cychwynnol, a hynny i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio ac i Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith papur i'w gweld fan hyn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/. Dylai'r adrannau ymgynghori â chyswllt SA y Gofrestrfa Academaidd cyn cyflwyno cynnig i benderfynu ar y llwybr cymeradwyo mwyaf priodol. Dylai adrannau ymgynghori â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, yr Adran Gynllunio, Marchnata, Denu Myfyrwyr, Datblygu a Rhyngwladol, Gwasanaethau Gwybodaeth, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlenni, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a'r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig; bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn ddarparu datganiad byr o fewn y Ffurflen Datblygu Cynllun berthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer pob un o'r adrannau hyn yn yr adran Canllawiau ym mhob ffurflen SDF.
(i) Blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 1: Cynnig am Gynllun Newydd neu Gynllun a Ad-drefnwyd: Dim ond SDF1.1 sydd ei hangen ar gyfer ystyriaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio, ac mae rhagor o gyfarwyddiadau i'w cael ar y ffurflen
(iii) Ffurflen Gyllid Gychwynnol (PAF1/PAF2): Dylai'r Cyfadrannau/Adrannau gysylltu â'r Adran Gynllunio mewn da bryd cyn cyflwyno'r cynnig. Ar ôl y drafodaeth fanwl hon, bydd yr Adran Gynllunio yn darparu templed ar gyfer y ffurflenni hyn i’w hystyried gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol; dim ond trwy gysylltu â'r Adran Gynllunio y gellir cael y ffurflenni hyn (https://www.aber.ac.uk/cy/pag/).
8. Bydd Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol yn ystyried cynigion yng nghyd-destun y strategaeth, hyfywedd busnes (gan gynnwys costau), risg (gan gynnwys risg i enw da), niferoedd myfyrwyr ac ystyriaethau ymarferol, a byddant yn penderfynu a ddylent symud ymlaen i gael eu hystyried o safbwynt academaidd gan y Panel Cymeradwyo Cynlluniau sefydlog, eu cyfeirio'n ôl i'r Adran i'w trafod ymhellach, neu eu gwrthod. Dylai’r Adran ymgynghori â Gweithrediaeth y Gyfadran fel sy'n briodol, gan gynnwys y Deon Cysylltiol (Dysgu ac Addysgu) a'r Deon Cysylltiol (Darpariaeth Academaidd cyfrwng Cymraeg). Os yw’r cynnig yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth mewn meysydd pwnc eraill, dylai’r Adran ymgynghori hefyd â’r adrannau eraill.
9. Caiff yr Adrannau eu hysbysu ynglŷn â phenderfyniad Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol.
Marchnata’r cynllun
10. Gellir hysbysebu’r cynllun fel un sy’n ‘amodol ar gael ei gymeradwyo’ ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol yn dilyn cymeradwyaeth Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Ni chaniateir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein hyd nes eu bod wedi cwblhau’r broses gymeradwyo yn llawn, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i hysbysebu’r cynllun fel un sy’n ‘amodol ar gael ei gymeradwyo’ mewn deunyddiau wedi’u hargraffu ac ar-lein yn ogystal ag ym mhrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod am y penderfyniad i’r adran(nau) sy’n ei gynnig ac i’r adrannau gwasanaeth perthnasol.
Cam 2
SDF1.2 a’r gwaith papur sy’n weddill ynghylch y cynnig – Y Panel Cymeradwyo Cynllunio sefydlog yn ystyried y rhesymeg a’r trosolwg academaidd.
11. Pan geir cymeradwyaeth i symud ymlaen i gam nesaf y broses gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Grŵp Gweithredol y Brifysgol, bydd y Panel Cymeradwyo Cynlluniau yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, cynllun a dull cyflwyno’r maes llafur, profiad y myfyrwyr, adnoddau dysgu, trefniadau cymorth a gweinyddu, ac a ddylid cymeradwyo’r cynnig yn ffurfiol ai peidio (gweler y dyddiadau yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/dev-review/). Ni chaiff y panel cymeradwyo wrthod y cynnig ac eithrio ar sail sicrhau ansawdd.
12. Rhaid i'r adrannau lenwi SDF1.2 a’r gwaith papur sy’n weddill ar gyfer y cynnig a’u cyflwyno i’r Panel Cymeradwyo Cynlluniau ynghyd ag SDF1.1:
(i) Blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Manylion y rhaglen, gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio ar sail asesiadau (SDF9)
(iii) Tystiolaeth o ymgynghori allanol
(iv) Tystiolaeth o ymgynghori â myfyrwyr / cyn-fyfyrwyr
(v) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol
(vi) Ffurflen Enwebu Aseswr Allanol (SDF7).
13. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cysylltu â'r Aseswr Allanol a bydd angen i'r Aseswr Allanol gwblhau adroddiad ysgrifenedig ymlaen llaw i'w ystyried yng nghyfarfod y panel cymeradwyo: SDF8 Adroddiad yr Aseswr Allanol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofyn am yr adroddiad ar ôl i'r Aseswr Allanol dderbyn y gwahoddiad. Ni fydd Aseswyr Allanol yn cael eu gwahodd i'r Panel oni bai bod materion yn codi o'r adroddiad sydd angen eu trafod ymhellach, ac yna mae’n bosibl yr ymgynghorir â hwy trwy gyfrwng fideogynadledda.
Canlyniad y panel cymeradwyo
14. Yn dilyn cyfarfod y panel, bydd Ysgrifennydd y Panel (aelod o dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) yn paratoi cofnodion y cyfarfod mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd.
15. Dylai'r Adran sy'n cyflwyno'r cynnig lenwi blaenddalen pwyllgor mewn ymateb i'r cofnodion, gan roi manylion y diwygiadau a wnaed i'r cynnig gwreiddiol o ganlyniad i adborth y Panel Cymeradwyo Cynlluniau. Ni ddylid gwneud newidiadau pellach i SDF1.1 nac SDF1.2 oni bai bod y Panel yn argymell hynny. Bydd blaenddalen y pwyllgor a chofnodion y panel cymeradwyo'n cael eu cyflwyno i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran ac i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio. Bydd cofnodion Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Academaidd.
Paneli cymeradwyo cynlluniau
16. Bydd gan y Panel Cymeradwyo Cynlluniau sefydlog aelodaeth o rhwng 12 ac 16 aelod o’r staff academaidd, a bydd pob cyfadran yn enwebu aelodau i wasanaethu ar y panel am gyfnod o hyd at 4 blynedd fel arfer. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys y Deon Cysylltiol (Dysgu ac Addysgu) ond bydd cworwm o 4 i 5, yn cynnwys cynrychiolydd o'r Gofrestrfa Academaidd a chynrychiolydd myfyrwyr, ac ni fyddai angen i'r holl aelodau cyfadrannol a enwebwyd fod yn bresennol ym mhob cyfarfod. Deon Cysylltiol fydd yn cadeirio'r Panel fel arfer.
17. Bydd y Panel sefydlog fel arfer yn cyfarfod 5-6 gwaith rhwng mis Hydref a mis Ebrill. Ystyrir cynigion i gymeradwyo cynlluniau yn y cyfarfodydd hyn a bydd angen i adrannau gynllunio'n unol â hynny, ond gellid trefnu cyfarfodydd ychwanegol pe bai angen.
18. Nid oes angen i Aseswyr Allanol ddod i'r cyfarfodydd ond rhaid iddynt gyflwyno adroddiad ysgrifenedig. Gall y panel ofyn am sylwadau pellach lle bo hynny'n briodol neu gellir gwahodd yr Aseswr Allanol i fod yn bresennol trwy gyfrwng fideogynadledda os oes materion yn codi yn ei adroddiad ysgrifenedig sydd angen eu trafod yn fanwl ymhellach.
19. Ysgrifennydd y Panel (aelod o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd fel arfer) fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion, ac am nodi penderfyniadau ac unrhyw argymhellion. Bydd y cofnodion hyn yn mynd i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig er mwyn i unrhyw gamau pellach gael eu cymryd os oes angen, a chânt hefyd eu cyflwyno i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn gofnod o'r penderfyniadau a wnaed.
20. Aelodau'r Panel Cymeradwyo Cynlluniau fydd:
a. Y Cadeirydd, i’w ddewis o'r tu allan i’r adran academaidd sy’n cyflwyno’r cynnig, ac a fydd fel arfer yn Ddeon Cysylltiol (Dysgu ac Addysgu). Dylai'r Cadeirydd fod yn unigolyn sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynllun a gynigir, ac fe'i dewisir gan y Gofrestrfa Academaidd.
b. O leiaf un aelod o staff academaidd, sydd ag annibyniaeth a phellter beirniadol addas oddi wrth y cynnig.
c. Cynrychiolydd myfyrwyr, i ddod o gronfa a enwebir gan Undeb y Myfyrwyr, Myfyriwr-Adolygydd fel arfer.
d. Aelod o staff o Dîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd, a fydd hefyd yn drafftio adroddiad y panel.
21. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn ystyriol o’r angen am gynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg ar baneli.
22. Gwahoddir adrannau academaidd i enwebu cynrychiolydd i gyflwyno'r cynnig i gyfarfod y panel. Yn achos cynlluniau traws-adrannol, enwebir cynrychiolydd o bob adran academaidd sy’n rhan o’r cynllun gan eu hadrannau.
Swyddogaeth y Panel Cymeradwyo Cynlluniau
23. Panel sefydlog yw'r Panel Cymeradwyo Cynlluniau ac mae'n adrodd i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio. Y Panel sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau terfynol ynglŷn â chymeradwyo cynlluniau a gynigir, ond gall gyfeirio penderfyniadau’n ôl i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio neu ymlaen i'r Bwrdd Academaidd os oes agweddau sylweddol sy'n peri pryder neu faterion ac iddynt ystyriaethau ehangach i'r Brifysgol. Bydd Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn cadw golwg gyffredinol ar ddull gweithredu'r Panel Cymeradwyo Cynlluniau ac yn monitro effeithlonrwydd y prosesau Sicrhau Ansawdd.
24. Bydd y Panel yn sicrhau bod tystiolaeth o ddigon o ymgynghori allanol wrth ddatblygu'r cynllun, er enghraifft ag arholwyr allanol cyfredol, ymgynghorwyr allanol yr adran, a chynrychiolwyr o gyrff proffesiynol neu achredu. Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth lawn i farn yr aseswr allanol, a fydd yn gorfod cyflwyno adroddiad ysgrifenedig (SDF8) ymlaen llaw i'r panel ei ystyried.
25. Dyma fydd trefn cyfarfodydd y panel cymeradwyo:
(i) Croeso gan y Cadeirydd
(ii) Crynodeb o'r cynllun gan yr adran(nau) academaidd sy'n ei gynnig
(iii) Trafodaeth gyffredinol, a fydd yn ystyried y cwestiynau canlynol ac yn ystyried anghenion yr holl fyfyrwyr:
- A oes tystiolaeth fod galw am y cynllun ac a yw'r gofynion mynediad ar lefel briodol?
- A yw amcanion a chanlyniadau dysgu'r cynllun yn briodol, yn arbennig yng nghyswllt y meincnodau pwnc perthnasol, y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, a Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru?
- A yw cynnwys a chynllun y maes llafur yn briodol ar gyfer cyflawni’r amcanion dysgu a fwriedir ar gyfer y cynllun?
- A yw'r maes llafur wedi'i drefnu fel bod y gofynion ar y dysgwr yn nhermau her ddeallusol, sgiliau, gwybodaeth, cysyniadoli, ac annibyniaeth wrth ddysgu yn cynyddu'n raddol?
- A yw'r dulliau asesu yn addas i fesur graddfa cyflawni'r canlyniadau a fwriedir?
- A oes adnoddau digonol, h.y. staff, llyfrgell, TG, ac unrhyw ofynion arbenigol, i ddarparu'r cynllun yn effeithiol?
- A oes gan y cynllun unrhyw nodweddion arbennig a fydd ag oblygiadau o ran ei hyfywedd, ei reoli neu ei gyflwyno, neu o ran rheoliadau'r Brifysgol?
(iv) Trafodaeth gan y panel, ac ni fydd cynrychiolydd yr adran(nau) sy'n cynnig y cynllun yn bresennol ar gyfer y drafodaeth hon
(v) Penderfyniad.
Penderfyniadau'r Panel Cymeradwyo Cynlluniau
26. Y dewisiadau isod fydd gan y Panel Cymeradwyo wrth ddod i benderfyniad:
(i) Cymeradwyo'n ddiamod
(ii) Cymeradwyo gyda mân newidiadau (i'w cymeradwyo gan Gadeirydd y Panel)
(iii) Cymeradwyo'n amodol: bydd angen i'r adran sy'n cyflwyno'r cynnig roi ymateb i Gadeirydd y Panel, a fydd hefyd yn cael ei gadarnhau gan yr aseswr allanol
(iv) Cyfeirio'r cynnig yn ôl i'r adran(nau) academaidd. Yn yr achos hwn, disgwylir y byddai angen newidiadau sylweddol cyn ailgyflwyno'r cynnig
(v) Gwrthod (ar sail sicrhau ansawdd yn unig).
27. Bydd y Panel Cymeradwyo’n diffinio camau gweithredu fel argymhellion neu amodau:
a. Argymhellion: dylai’r rhain fod yn feysydd i’r adran sy’n cyflwyno’r cynnig eu hystyried, neu’n fân gywiriadau, ond ni fyddant yn peri oedi o ran cymeradwyo’r cynnig.
b. Amodau: dylid datgan yr amodau’n glir os yw cymeradwyo’r cynnig yn ddibynnol ar gyflawni amodau penodol o fewn amserlen a nodir. Ni fydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo hyd nes bod yr amodau hyn yn cael eu cyflawni.
28. Bydd Ysgrifennydd y Panel Cymeradwyo yn paratoi cofnodion y cyfarfod, yn nodi'r penderfyniad a wnaed, a llofnodir y cofnodion gan y Cadeirydd. Gwahoddir yr adran academaidd sy'n cynnig y cynllun i lenwi blaenddalen pwyllgor, a fydd yn cael ei hadolygu gan Gadeirydd y Panel, a'r Aseswr Allanol os oes angen. Os yw'r Cadeirydd yn hapus nad oes unrhyw agwedd sy'n peri pryder, ystyrir bod penderfyniad y panel yn un terfynol, a rhoddir gwybod amdano i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio. Os oes unrhyw agweddau’n peri pryder, cyfeirir y penderfyniad terfynol at Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio neu'r Bwrdd Academaidd, gan ddibynnu ar lefel y materion a godwyd.
Marchnata a Chyflwyno
29. Bydd y cymal ‘yn amodol ar gael ei gymeradwyo’ yn cael ei ddileu a bydd y cynllun yn cael ei hysbysebu ar-lein ac ar dudalennau chwilio am gyrsiau wedi iddo gwblhau’r broses gymeradwyo ar ei hyd. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod am y penderfyniad i'r adran(nau) a gynigiodd y cynllun ac i'r adrannau gwasanaeth perthnasol.
2.5 Y Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth1. Mae’r llwybr cymeradwyo ‘Di-Weithrediaeth’ ar gyfer cynigion lle nad oes goblygiadau o ran adnoddau ac felly ni fydd angen cymeradwyaeth gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Dylai cynigion a ystyrir drwy’r llwybr cymeradwyo di-weithrediaeth gynnwys:
(i) Darpariaeth newydd mewn maes sy'n bod eisoes (yn seiliedig ar ddarpariaeth modiwl sydd eisoes yn bod)
(ii) Cyfuniadau Prif Bwnc/Is-bwnc ac Anrhydedd Cyfun newydd.
2. Bydd cynigion sy’n dilyn y llwybr di-weithrediaeth yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a gallant gael eu cymeradwyo gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran berthnasol (is-grŵp o Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran) a fydd yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.
3. Dylai adrannau gysylltu â chyswllt SA y Gofrestrfa Academaidd cyn cyflwyno cynnig i benderfynu ar y llwybr cymeradwyo mwyaf priodol. Dylai adrannau ymgynghori â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, yr Adran Gynllunio, Marchnata, Denu Myfyrwyr, Datblygu a Rhyngwladol, Gwasanaethau Gwybodaeth, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlenni, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a'r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig; bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn ddarparu datganiad byr o fewn y Ffurflen Datblygu Cynllun berthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer pob un o'r adrannau hyn yn yr adran Canllawiau ym mhob ffurflen SDF.
Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio
4. Bydd pob cynnig sy’n dilyn y llwybr di-weithrediaeth yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a fydd yn penderfynu a ddylai’r cynnig fynd ymlaen i gael ei ystyried o safbwynt academaidd gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran, cael ei gyfeirio’n ôl i’r Adran i’w drafod ymhellach, neu ei wrthod.
Marchnata’r cynllun
5. Gellir hysbysebu cynllun ‘yn amodol ar ei gymeradwyo’ ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol wedi iddo gael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio. Ni cheir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein tan i’r drefn gymeradwyo gael ei chwblhau, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i gael hysbysebu’r cynllun ‘yn amodol ar ei gymeradwyo’ mewn deunydd print ac ar-lein yn ogystal â phrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn cyfleu’r penderfyniad i’r adran(nau) sy’n cyflwyno’r cynnig ac i’r adrannau gwasanaeth perthnasol.
Ystyriaeth gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran
6. Unwaith y ceir cymeradwyaeth i fynd ymlaen i gam nesaf y broses gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio, bydd Panel Cymeradwyo’r Gyfadran yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, cynllun a dull cyflwyno'r maes llafur, ac a ddylid cymeradwyo'r cynnig yn ffurfiol ai peidio, mewn cyfarfod a drefnir yn ôl yr angen. Ni chaiff Panel Cymeradwyo'r Gyfadran wrthod cynnig ac eithrio ar sail Sicrhau Ansawdd.
7. Bydd aelodaeth y Panel yn cynnwys o leiaf dau gynrychiolydd academaidd o’r gyfadran, nad ydynt wedi bod yn ymwneud â datblygu na chymeradwyo’r cynnig cyn cam Panel y Gyfadran; fel arfer bydd Deon Cysylltiol yn aelod o’r Panel. Rhaid i’r Panel hefyd gynnwys cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr a chyswllt Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd a fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion yn y cyfarfod. Gellir gwahodd aelodau eraill os bernir bod hynny’n briodol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofalu am gynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg ar baneli.
8. Cymeradwyaeth gan Banel Cymeradwyo'r Gyfadran fydd cam olaf y broses gymeradwyo. Bydd nodiadau’r Panel yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran gyda dogfennau'r cynnig er gwybodaeth yn unig, ac i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn gofnod o'r penderfyniadau a wnaed.
Darpariaeth newydd mewn maes sy’n bod eisoes
9. Dylai adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig datblygu cynlluniau newydd mewn maes neu o fewn darpariaeth sy’n bod eisoes, er enghraifft, ar sail modiwlau sy’n bod eisoes a lle na cheir unrhyw oblygiadau o ran adnoddau. Dylai'r Adran lenwi'r dogfennau canlynol a chânt eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Phanel Cymeradwyo’r Gyfadran. Ceir rhagor o ganllawiau manwl ar y ffurflen SDF.
(i) blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 2 (SDF2)
(iii) Manylion y rhaglen(ni), gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio ar sail asesiadau
(iv) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
Creu cyfuniadau Prif Bwnc/Is-Bwnc ac Anrhydedd Cyfun newydd
10. Dylai adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig creu cynllun Prif Bwnc/Is-bwnc neu Anrhydedd Cyfun newydd. Sylwer mai dim ond i uno dwy elfen prif bwnc, is-bwnc neu elfennau ar y cyd sy’n bod eisoes ac sydd eisoes wedi’u cymeradwyo y dylid defnyddio’r llwybr hwn. Dylai adrannau ddilyn y llwybr Darpariaeth Newydd mewn Maes sy’n bod Eisoes neu lwybr cymeradwyaeth y Weithrediaeth er mwyn creu elfennau prif bwnc, is-bwnc neu elfennau ar y cyd newydd. Dylai'r Adran lenwi'r dogfennau canlynol a chânt eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Phanel Cymeradwyo’r Gyfadran. Ceir rhagor o ganllawiau manwl ar y ffurflen SDF.
(i) blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 4 (SDF4).
2.6 Mân newid neu ad-drefnu1. Dylai adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig mân newid neu ad-drefnu i gynllun sy’n bod eisoes. Dylai’r Adran lenwi’r dogfennau canlynol i’w hystyried gan Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran. Ceir canllawiau manwl pellach yn y Ffurflen Datblygu Cynllun:
(i) blaenddalen pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 3 (SDF3)
(iii) ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
2. Dylai adrannau academaidd roi ystyriaeth fanwl i oblygiadau unrhyw fân newidiadau a wneir i'w cynlluniau cyfredol, a allai godi o ganlyniad i'r monitro blynyddol neu i adborth allanol, ac ymgynghori â myfyrwyr fel yr amlinellir yn Adran 2.1 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Dylai'r adrannau academaidd ymgynghori hefyd â Thîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd i bennu pa lwybr cymeradwyo ddylid ei ddilyn. Os na fydd Pwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran yn fodlon â lefel y manylder a roddwyd, neu os yw o'r farn bod y newidiadau a gynigir yn fwy na mân ddiwygiadau, efallai y bydd yn mynnu bod yr adran(nau) dan sylw yn cyflwyno cynnig i ad-drefnu cynllun trwy ffurflen SDF1 neu SDF2.
3. Er mwyn sicrhau nad yw cynlluniau gradd yn newid o ganlyniad i ddiwygiadau blynyddol yn cronni, i'r graddau nad ydynt bellach yn ddilys yng nghyswllt y manylion gwreiddiol, rhaid i'r holl fân ddiwygiadau i gynlluniau gael eu monitro gan y cyfadrannau a'u hadrodd i'r Bwrdd Academaidd trwy gyfrwng y Monitro Blynyddol ar Gynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs. Mae pob cynllun hefyd yn mynd trwy broses ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth, yn rhan o’r Adolygiad Adrannol Cyfnodol, bob pum mlynedd.
4. Mae modd cymeradwyo mân newidiadau i gynllun yn ystod yr ail-ddilysu cyfnodol o’r ddarpariaeth, fel yr amlinellir yn Adran 2.10 y Llawlyfr Ansawdd.
5. I gynorthwyo adrannau i asesu lefel y newidiadau sy'n cael eu cynnig a'r drefn gymeradwyo briodol, dylid gofyn am gyngor Tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd. Bydd mân ddiwygiadau fel arfer yn ymwneud ag agweddau tebyg i'r rhai isod:
(i) Dim newid gwirioneddol i amcanion y cynllun fel ag y mae
(ii) Dim newid gwirioneddol i nifer y modiwlau craidd na chyfyngu ar ddewis myfyrwyr
(iii) Dim newid gwirioneddol i ganlyniadau dysgu, cynnwys, na dulliau asesu'r cynllun fel ag y mae
(iv) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar unrhyw lefel yn Rhan Dau mewn cynllun israddedig
(v) Dim newidiadau sy'n effeithio dros 60 o gredydau ar gynllun uwchraddedig trwy gwrs.
6. Efallai y bydd y Gofrestrfa Academaidd yn penderfynu bod angen ymgynghori’n allanol os yw’r cynllun yn sylweddol wahanol i ddarpariaeth sydd eisoes yn bod ar y lefel honno.
2.7 Gohirio a Dileu Cynllun Astudio a Newid Teitl CynllunGohirio cynllun astudio
1. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ohirio cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau sicrhau hefyd bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer y disgwyliad yw mai dim ond am un flwyddyn y bydd cynllun yn cael ei ohirio, ac ar ôl hynny y bydd ar gael eto yn awtomatig ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr ac i'w weld ar dudalennau chwilio am gyrsiau. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio, a dylai'r adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Pwyllgor. Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.
Dileu cynllun astudio
2. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ddileu cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau sicrhau hefyd bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer, disgwylir i gynllun gael ei ddiddymu'n raddol dros gyfnod er mwyn i'r Brifysgol gyflawni ei hymrwymiad i fyfyrwyr cofrestredig. Fel eithriad, lle bo angen ad-drefnu ar frys, bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lle mewn man arall i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol ac sy'n dymuno cwblhau'r cwrs astudio y cawsant eu derbyn arno'n wreiddiol. Os bydd rhaglen israddedig yn cael ei dileu hanner ffordd trwy gylch derbyn, bydd confensiynau arferol UCAS yn gweithredu yn achos myfyrwyr a wnaeth gais am fynediad ar y cwrs hwnnw. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio, a dylai'r adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio. Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.
3. Nid ar gyfer cynlluniau cyfrwng Cymraeg yn unig y mae Adran 2, oherwydd gall dileu cynllun gael effaith hefyd ar fodiwlau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; dylid ei llenwi ar gyfer pob cynllun. Rhaid i adrannau hefyd lenwi Adran 2 mewn ymgynghoriad â Deon Cysylltiol y Gyfadran (Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg), a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â'r Grŵp Datblygu Cyfrwng Cymraeg cyn cyflwyno'r cynnig i’r Pwyllgor Cynllunio Portffolio.
4. Dylai'r adrannau gadw mewn cof y bydd y Pwyllgor Cynllunio Portffolio yn archwilio cynigion i ohirio neu ddileu cynllun a goblygiadau’r penderfyniad yng ngoleuni arweiniad CMA ynglŷn â Chyfraith Defnyddwyr.
5. Gall y Pwyllgor Cynllunio Portffolio gynnig gohirio neu ddileu cynlluniau'n flynyddol yn seiliedig ar ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad. Bydd y PCP yn gwahodd adrannau i weithredu ar sail yr adroddiad hwn i ddileu neu ohirio cynlluniau fel y bo'n briodol. Gwahoddir cyfadrannau i ddarparu rhesymeg gadarn i’r PCP ar gyfer cadw unrhyw gynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. Dylai cyfadrannau ystyried cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mewn ymgynghoriad â Deon Cysylltiol y Gyfadran (Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg) a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â'r Pwyllgor Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg, a chadarnhau unrhyw effaith ar y ddarpariaeth. Bydd gan y PCP yr awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol gan ystyried yr adborth hwn. Ni fyddai angen dogfennau cymeradwyo pellach a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y PCP.
Newid teitl cynllun
6. Y Pwyllgor Cynllunio Portffolio fydd yn ystyried newidiadau i deitl cynllun. Dylai'r Adran lenwi'r canlynol i'w hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio:
(i) Blaenddalen Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 6 (SDF6).
Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.
2.8 Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs1. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i'r drefn flynyddol o fonitro'r holl gynlluniau a ddysgir o fewn i'r cyd-destun a osodir gan God Ansawdd y Deyrnas Gyfunol. Y Bwrdd Academaidd sy'n gyfrifol am arolygu'r drefn hon.
2. Diben y Monitro Blynyddol yw darparu dull diogel i roi sicrwydd i'r Brifysgol bod y cynlluniau'n cyflawni eu hamcanion ac i nodi meysydd o arfer da, a lledaenu'r wybodaeth hon er mwyn gwella'r ddarpariaeth.
3. Yr adran academaidd sydd bennaf gyfrifol am fonitro pob cynllun israddedig ac uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs yn flynyddol, ac mae'r adran yn adrodd yn ôl i'r gyfadran berthnasol. Mae'n bwysig nabod materion neu bryderon sy'n benodol i gynllun arbennig neu'n gyffredin i nifer ohonynt, yna ystyried y materion hynny, adrodd yn ôl amdanynt a chymryd y camau priodol. Mae hyn yn gymwys yn achos pryderon yn gysylltiedig â modiwlau'r adran ei hun neu fodiwlau adran arall neu bartner-ddarparwr sy'n rhan hanfodol o'r cynllun dan sylw.
4. Cydlynydd y cynllun, neu unigolyn cyfatebol, ddylai lenwi'r ffurflen AMTS1, gan ddibynnu ar ddull grwpio'r cynlluniau. Mae'r holl gynlluniau astudio a ddysgir yn cael eu monitro'n flynyddol (mae hyn yn cynnwys cynlluniau israddedig, cynlluniau uwchraddedig a chynlluniau rhyddfraint), a rhaid llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer cynlluniau israddedig, uwchraddedig a rhyddfraint. I gynorthwyo â'r drefn, bydd pecynnau data Monitro Blynyddol yn cael eu darparu i gynlluniau lle mae'r niferoedd yn arwyddocaol yn ystadegol.
5. Wrth ystyried adroddiadau'r AMTS2, gall y cyfadrannau ofyn i'r adrannau am eglurhad pellach ynglŷn â materion a godwyd neu ynglŷn â chamau i'w cymryd. Bydd materion sydd angen eu hystyried ar lefel Prifysgol yn cael eu cyfeirio at y Bwrdd Academaidd. Ar ben hyn, gall Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol ofyn am eglurhad pellach gan gyfadrannau ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â phartneriaethau a chytundebau rhyddfraint.
6. Gofynnir i gydlynwyr y cynlluniau gyflwyno'u hadroddiadau AMTS1 i'r gyfadran fel tystiolaeth ffurfiol. Cedwir ffurflenni AMTS1 o flynyddoedd academaidd blaenorol ar gyfer yr Arolwg Cyfnodol o Gynlluniau ac unrhyw ddigwyddiad i ail-ddilysu cynllun unigol. Adroddiad cyfunol ar lefel y gyfadran yw adroddiad AMTS2. Eithriad fydd adrodd yn ôl a dylid gwneud sylwadau ar faterion sydd o arwyddocâd arbennig. Dylai hyn gynnwys llwyddiant, arfer da a dyfeisgarwch, peryglon i ansawdd a heriau, a dylid dethol materion i'w dwyn i sylw'r brifysgol.
7. Ceir cyfarwyddiadau ychwanegol yn y templedi AMTS (Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs) sydd i'w gweld ar diwedd y bennod hon.
2.9 Adolygiad Blynyddol o Fanylebau RhaglenDylai’r Adrannau gynnal adolygiad blynyddol o fanylebau eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu diweddaru a’u bod yn parhau i fod yn ddilys; gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn bresennol, ond gofynnir i’r Adrannau anfon unrhyw newid ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) erbyn diwedd Semester 2 yn ystod pob sesiwn academaidd. Mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (mae’r dyddiadau a’r terfynau amser ar gyfer papurau ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/). Bydd fersiynau PDF o fanylebau’r rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau pob sesiwn academaidd ar gyfer y sesiwn dan sylw.
2.10 Adolygiad Adrannol, yn cynnwys ail-ddilysu cyfnodol o'r ddarpariaeth1. Mae'r Adolygiadau Cyfnodol yn rhoi cyfle i'r adran, y gyfadran a'r brifysgol i gloriannu pa mor effeithiol yw gweithdrefnau'r adrannau o ran rheoli, dysgu, addysgu, gwella, sicrwydd ansawdd a monitro perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol, ac yn rhoi cyfle i'r Brifysgol ei sicrhau ei hun, a bod mewn sefyllfa i ddangos i gyrff allanol, bod y gwaith o reoli ansawdd a safonau yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus.
2. Gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Academaidd, bydd y Tîm Adolygu ar ran y Brifysgol, yn archwilio adrannau bob 5 -6 mlynedd, i weld a yw'r prosesau a'r dulliau perthnasol ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau yn eu lle, yn gweithredu'n effeithiol ac effeithlon, a bod y gwelliannau a argymhellir i'r dysgu a'r addysgu yn cael eu rhoi ar waith. Caiff unrhyw ddarpariaeth gydweithrediadol ei chynnwys yn rhan o'r archwiliad ansawdd.
3. Dylid annog cynrychiolwyr myfyrwyr yr adran i gymryd rhan gyflawn ym mharatoadau’r adran am yr archwiliad; gall cynrychiolwyr myfyrwyr gyflwyno’u dogfen hunan-werthuso eu hunain fel atodiad i gyflwyniad yr adran.
Manylion y drefn
4. Rhoddir ystyriaeth i’r canlynol mewn adolygiad: cynlluniau a modiwlau israddedig ac uwchraddedig; darpariaeth ymchwil uwchraddedig; darpariaeth gydweithrediadol; systemau adborth; trefn cydymffurfio â phrosesau sicrhau ansawdd; datblygu staff a hyfforddiant.
5. Fel arfer, bydd arolwg yn para hyd at ddau ddiwrnod ac yn cynnwys:
- Archwilio dogfen hunanwerthuso, cofnodion pwyllgorau perthnasol a'r holl ddogfennau eraill sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn Adran
- Cyfarfod(ydd) gyda'r Pennaeth Adran a staff sydd â chyfrifoldeb am wahanol agweddau o addysgu a dysgu (e.e. arholiadau, cymorth i fyfyrwyr, derbyn myfyrwyr)
- Cyfarfod(ydd) gyda chynrychiolwyr myfyrwyr, israddedig, uwchraddedig trwy gwrs ac uwchraddedig ymchwil
- Cyfarfod(ydd) gyda staff eraill sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd a/neu addysgu a dysgu (e.e. aelodau newydd o staff / gweinyddwyr
- Ail-ddilysu'r ddarpariaeth.
NODER: fel rheol byddai aelod o staff ond yn cyfrannu at un o’r grwpiau oni bai eu bod yn cyflawni rolau gwahanol iawn o fewn yr adran.
Aelodau'r Panel
6. Cadeirir yr Arolwg fel arfer gan Ddirprwy Is-Ganghellor (Dirprwy Is-G Dysgu ac Addysgu neu Ddirprwy Is-G Cysylltiol y Gyfadran. Rhoddir hyfforddiant ac arweiniad priodol i aelodau'r panel. Trafodir â Chadeirydd y Bwrdd Academaidd ynglŷn â'r aelodaeth, yn arferol dylid cynnwys:
- Cadeirydd (fel arfer y Dirprwy Is-G (Dysgu ac Addysgu) neu un o Dd. Is-G y Cyfadrannau)
- Deon Cysylltiol
- Pennaeth Adran
- Asesydd Academaidd Allanol (arbenigwr pwnc academaidd ac os yw’n briodol, arbenigwr o ddiwydiant)
- Cofrestrydd Academaidd neu gynrychiolydd
- Cynrychiolydd myfyrwyr
- Bydd Ysgrifennydd y panel yn aelod o'r Gofrestrfa Academaidd
7. Gwahoddir adrannau i enwebu hyd at tri chydweithiwr proffesiynol o'r Deyrnas Unedig a allai weithredu fel Asesydd Allanol a thelir ffi a threuliau iddynt. Ni ddylai Asesydd Allanol fod yn Arholwr Allanol cyfredol yn yr Adran a gorau oll os bydd yn meddu ar wybodaeth am brosesau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd. Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Tîm Archwilio fydd yn dewis yr Asesydd Allanol mewn ymgynghoriad â'r Adran.
Amserlen Enghreifftiol
8. Amserlen enghreifftiol yw'r canlynol. Gall y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd gyfarfod â myfyrwyr cyn y prif ddigwyddiad, a chyflwyno crynodeb ysgrifenedig o’r drafodaeth i’w ystyried gan Banel yr Adolygiad:
Amser
Digwyddiad
DIWRNOD 1
12.30yp
CINIO gwaith Y Panel yn cwrdd yn Breifat
1.30yp
Cyfarfod gyda Phennaeth yr Adran
2.30yp
Y Panel yn cwrdd yn Breifat
3.00yp
Cyfarfod ag uwch staff academaidd sydd â swyddi allweddol yn yr adran
4.00yp
Y Panel yn cwrdd yn Breifat
4.15yp
Cyfarfod â myfyrwyr (os na chasglwyd adborth eisoes trwy ddull gwahanol )
5.15yp
Y Panel yn cwrdd yn Breifat
5.30yp
Cloi
I’w gadarnhau
Pryd gyda'r nos – Aseswr/Aseswyr Allanol gyda Phennaeth yr Adran a Chadeirydd y Panel
DIWRNOD 2
9.0yb
Y Panel yn cwrdd yn Breifat
9.30yb
Cyfarfodydd gydag arweinwyr cynlluniau (canolbwyntio ar ailddilysu'r ddarpariaeth)
10.30yb
Y Panel yn cwrdd yn Breifat
11.00yb
Cyfarfod â staff eraill yn cynnwys staff gweinyddol a staff rhan-amser sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd a/neu ddysgu ac addysgu
12.00yp
Y Panel yn cwrdd yn Breifat – penderfynu ar ganmoliaeth/argymhellion dros dro
12.30yp
Rhoi adborth i Bennaeth yr Adran
1.00yp
Cloi
9. Bydd Adolygiad Adrannol yn ystyried:
Cynlluniau a Modiwlau Israddedig ac Uwchraddedig
(i) Safonau addysgu a dysgu mewn modiwlau
(ii) Dulliau asesu o ran eu perthynas â:
- canlyniadau dysgu
- cynnwys y cwrs
- strategaethau dysgu
- sgiliau trosglwyddadwy
(iii) Dilyniant a Chyflawniad Myfyrwyr
(iv) Cymorth a Chanllawiau i Fyfyrwyr
(v) Cynrychiolaeth myfyrwyr
(vi) Adnoddau Addysgu a Dysgu
(vii) Dilyniant rhwng gwahanol lefelau o gyrsiau israddedig (Lefel 0 hyd at lefel M yn achos cynlluniau Meistr Integredig) a’r berthynas rhwng modiwlau israddedig ac uwchraddedig.
(viii) Natur gyfannol y cwrs (gan gynnwys Cyd Anrhydedd)
(ix) Arloesi o ran addysgu a dysgu e.e. Rhith Amgylchedd Dysgu / VLE
(x) Llawlyfrau Myfyrwyr a gwybodaeth arall a ddarperir i fyfyrwyr
(xi) Unrhyw gynlluniau Rhyddfraint, cydweithrediadol neu ddysgu o bell
(xii) Addysgu cyfrwng Cymraeg (os yw’n gymwys)
(xiii) Lleoliadau neu brofiad gwaith (os yw’n gymwys)
(xiv) Cyfnewid ac Erasmus
(xv) Cymorth, hyfforddiant, goruchwylio a monitro myfyrwyr ymchwil.
Systemau Adborth:
(i) Adroddiadau Arholwyr Allanol
(ii) Adborth gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (os yw’n gymwys)
(iii) Gwerthusiadau myfyrwyr o Fodiwlau a Chynlluniau, adroddiadau ar arolwg ar brofiad syfyrwyr, Rho Wybod Nawr
(iv) Monitro Blynyddol Cynlluniau Trwy Gwrs
(v) Dangosyddion Perfformiad Allweddol gan gynnwys Canlyniadau’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol
Cydymffurfio:
Bydd yr Adolygiad hefyd yn sicrhau bod Adrannau’n cydymffurfio â Rheoliadau’r Brifysgol a Llawlyfr Ansawdd Academaidd y Brifysgol, ac yn ymgysylltu â pholisïau’r Brifysgol a’u gweithredu, gan gynnwys, er enghraifft, Strategaeth Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol.
Darpariaeth a chymorth Ymchwil Uwchraddedig
Datblygu a Hyfforddi Staff:
(i) Hyfforddiant ac ymgynefino â’r Brifysgol a’r Adran, a datblygu staff
(ii) Trefn arsylwi gan Gymheiriaid.
10. Gall y Gofrestrfa Academaidd wahodd yr adran i ofyn i un neu fwy o’r arholwyr allanol cyfredol gyflwyno Adroddiad ysgrifenedig, yn ogystal ag adroddiad arferol yr arholwr allanol cyn cyfarfod y panel.
11. Bydd rhaid i'r Panel ystyried y meysydd canlynol, yn unol â'r Cyngor a Chyfarwyddyd yng Nghod Ansawdd Addysg Uwch y DU:
(i) Sicrhau bod y cynlluniau a arolygir yn parhau'n gyfoes a dilys, yng ngoleuni'r wybodaeth sy'n datblygu yn y ddisgyblaeth ac unrhyw newidiadau sydd wedi crynhoi yn y cyfnod ers i'r cynllun gael ei gymeradwyo'n wreiddiol / ers yr arolwg blaenorol
(ii) Cloriannu'r raddfa y mae'r myfyrwyr yn cyflawni canlyniadau dysgu'r cynllun, gan gyfeirio'n briodol at adroddiadau AMTS blaenorol a setiau data, ac adroddiadau arholwyr allanol
(iii) Sicrhau bod y cwricwlwm a'r drefn asesu yn dal i fod yn effeithiol yng nghyswllt canlyniadau dysgu'r cynllun
(iv) Nodi unrhyw wendidau, a gwneud argymelliadau ynglŷn â chamau gweithredu priodol.
Dogfennau
12. Bydd disgwyl i adrannau eu gwerthuso’u hunain yn erbyn cyfres o ddatganiadau cysylltiedig ag ansawdd a safonau addysgu a dysgu, gan ddefnyddio templed Hunanwerthuso sy’n cynnwys dangosyddion perfformiad allweddol. Mae’r datganiadau’n cwmpasu’r meysydd canlynol: cynlluniau academaidd, addysgu a dysgu, asesu ac adborth, myfyrwyr ymchwil, cyfranogiad a phrofiad myfyriwr, datblygu staff academaidd, darpariaeth gydweithredol ac arholwyr allanol.
13. Dylid defnyddio’r adran sylwadau i gyfeirio at dystiolaeth ategol a nodi camau gweithredu ar gyfer cyfoethogi ansawdd a nodi’r camau mae’r adran wedi dynodi sydd angen eu cymryd i gyfoethogi ansawdd a/neu wella perfformiad.
14. Bydd y Tîm Rheoli Ansawdd canolog yn gweithio gydag adrannau i grynhoi dogfennau atodol, ac yn cyhoeddi'r wybodaeth hon ar safle SharePoint y Gofrestrfa Academaidd cyn cyfarfod yr Arolwg.
Ynghyd â’r Ddogfen Hunanwerthuso hon, bydd y dystiolaeth ategol ganlynol yn cael ei huwchlwytho; oni nodir yn wahanol, bydd hyn yn cael ei uwchlwytho gan y Tîm Sicrwydd Ansawdd:
I'w ddarparu gan yr adran:
- Rolau a Chyfrifoldebau oddi mewn i Strwythur yr Adran: manylion cyfrifoldebau’r pwyllgorau sy'n ymwneud ag Addysgu ac Ymchwil, a phwy sy’n rhan ohonynt, a rhestr o rolau a chyfrifoldebau staff allweddol.
- Cofnodion diweddaraf pwyllgor yr adran (neu bwyllgor gweithredol arall), pwyllgor Dysgu ac Addysgu a/neu bwyllgorau sy'n ymdrin â darpariaeth gydweithredol neu ddysgu gwasgaredig arall.
- Dogfennau strategaeth yr adran lle bo hynny'n briodol: e.e., Strategaeth Addysgu a Dysgu, Strategaeth Cyflogadwyedd, Cynllun Gweithredu’r Grŵp Dysgu trwy Gyfrwng Technoleg
I'w ddarparu gan y Swyddfa Gynllunio:
- Pecyn data gan gynnwys ystadegau, y Dashfwrdd Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Bydd y copïau diweddaraf o'r canlynol yn cael eu huwchlwytho gan y Tîm Sicrwydd Ansawdd:
- Adroddiadau Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs ac adroddiadau Arholwyr Allanol
- Adroddiad gan Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (lle bo'n berthnasol)
- Cynllun Gweithredu’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
- Cofnodion y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr
- Canlyniadau gwerthuso modiwlau gan fyfyrwyr
- Llawlyfr(au) yr adran
- Manylebau rhaglenni ar gyfer pob cynllun i'w ail-ddilysu
- Adroddiadau cyfrif myfyrwyr ar fodiwlau a chynlluniau
Gall y Panel Adolygu ofyn am wybodaeth ychwanegol os oes angen ymchwilio ymhellach ar rai materion.
Canlyniad ymweliad yr Arolwg Adrannol Cyfnodol
15. Yn dilyn yr ymweliad, cynhyrchir adroddiad a fydd yn amlygu meysydd o arfer da ac yn cyflwyno argymhellion i’r adran, y gyfadran a’r brifysgol. Gall y Dirprwy Is-Ganghellor hefyd wahodd yr Asesydd Allanol i gyflwyno adroddiad ysgrifenedig. Bydd y pennaeth adran yn cael cyfle i wneud sylwadau ar gywirdeb ffeithiol yr adroddiad drafft ond ni fydd disgwyl iddo ymateb yn llawn i gynllun gweithredu tan yn ddiweddarach.
16. Bydd y panel yn penderfynu ar un o'r argymelliadau canlynol yn achos pob cynllun neu grŵp o gynlluniau sy'n cael eu hail-ddilysu:
(i) Ail-ddilysu'n ddiamod
(ii) Ail-ddilysu amodol, yn amodol ar wneud mân newidiadau o fewn cyfnod penodedig
(iii) Diwygiadau sylweddol, ac efallai y bydd yn rhaid eu cyflwyno i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (MAyG) berthnasol
(iv) Dileu neu ohirio.
Os mai dileu neu ohirio yw'r penderfyniad, gofynnir i'r adran lenwi'r dogfennau perthnasol a gofyn am gymeradwyaeth trwy Bwyllgor MAyG, a gwneud y trefniadau priodol i sicrhau bod pob ymgeisydd sydd eisoes wedi dechrau ar y cynllun yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.
17. Disgwylir i adrannau ymateb i faterion sy'n cael eu nodi yng nghyswllt ail-ddilysu cynlluniau o fewn cyfnod amser penodedig, i'w adolygu gan y Cadeirydd. Os yw'r Cadeirydd yn hapus nad oes unrhyw agwedd sy'n peri pryder, ystyrir bod penderfyniad y panel yng nghyswllt ail-ddilysu cynlluniau yn un terfynol, ac adroddir hynny wrth y gyfadran. Os oes agweddau’n peri pryder, cyfeirir y penderfyniadau terfynol at y Gyfadran a/neu'r Bwrdd Academaidd.
18. Os mai dileu neu ohirio yw'r penderfyniad, gofynnir i'r adran lenwi'r dogfennau perthnasol a gofyn am gymeradwyaeth trwy Bwyllgor MAyG, a gwneud y trefniadau priodol i sicrhau bod pob ymgeisydd sydd eisoes wedi dechrau ar y cynllun yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.
19. Gofynnir i'r adran gyflwyno Cynllun Gweithredu o fewn tri mis i gyhoeddi adroddiad, yn nodi sut y bwriedir rhoi argymhellion y Panel Adolygu ar waith, ac yna rhoi adroddiadau cynnydd i’r Gyfadran ar yr argymhellion a nodir yn y Cynllun Gweithredu.
20. Cyflwynir yr Adroddiad a'r Cynllun Gweithredu i'r Bwrdd Academaidd. Os nad yw'r Bwrdd Academaidd yn fodlon â'r cynnydd neu â'r modd y mae'r camau gweithredu'n cael eu cyflawni, gall ofyn am y canlynol:
(i) Ymweliad â'r adran i drafod y camau gweithredu'n fanylach
(ii) Cynnal archwiliad mewnol dilynol o fewn i amserlen y cytunir arni.
2.11 Achrediad gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSR)1. Cyrff PSR sy'n gosod safonau ac yn rheoleiddio safonau mynediad i broffesiynau arbennig. Mae'r Brifysgol yn ymwneud â nifer o'r cyrff hyn trwy achrediad ffurfiol o rai o'r cynlluniau astudio ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Yn rhan o'i gyfrifoldebau am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, y Bwrdd Academaidd sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r holl waith adolygu, dilysu ac achredu allanol sy'n ymwneud â'r gweithgareddau dysgu yn y Brifysgol.
2. Mae Adrannau'n cadw elfen o gyfrifoldeb am gysylltu â'r cyrff ynglŷn ag achrediadau cychwynnol a rheoli'r cynlluniau achrededig yn eu meysydd. Mae adroddiadau'r Cyrff PSR yn darparu adborth allanol pwysig ynghylch ansawdd a safonau cynlluniau a disgwylir i adrannau eu hystyried yn drwyadl yn rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (gweler adran 6 y ffurflen AMTS1).
3. Rhaid i adrannau gadarnhau a yw'n fwriad gwneud cais am achrediad i gynlluniau newydd yn rhan o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau. Dylid cael achrediad cychwynnol i gynlluniau newydd cyn gynted ag y gellir ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo'n derfynol, a rhaid rhoi gwybod i'r Bwrdd Academaidd am ganlyniad yr ymarfer achredu.
4. Rhaid i Gyfadrannau sicrhau bod copïau o'r canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd i'w hystyried gan y Bwrdd Academaidd: pob gohebiaeth a dogfen a gyflwynwyd i Gorff PSR i ddiben achredu; gohebiaeth ac adroddiadau sy'n deillio o ymarfer achredu, ac ymateb neu gynlluniau gweithredu'r adran. Dylid eu hanfon at qaestaff@aber.ac.uk
5. Bydd yr adroddiad sy’n deillio o arolwg Cyrff PSR yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Academaidd. Diben gwneud hynny yw sicrhau y gellir rhoi sylw i unrhyw wendidau a nodwyd yng ngweithdrefnau'r Brifysgol, bod adrannau'n ymateb i unrhyw fater a godir gan y Cyrff PSR, a bod arfer da yn cael ei ledaenu'n ehangach yn y Brifysgol. Bydd y Bwrdd Academaidd yn dilyn a monitro unrhyw weithredu sy'n deillio o adroddiadau Cyrff PSR, ac efallai y byddant yn mynnu bod adrannau'n paratoi cynlluniau gweithredu mewnol i ymateb i'r adroddiadau.
6. Bydd y Bwrdd Academaidd yn cadw cofrestr o'r holl gynlluniau sy'n cael eu hachredu gan Gyrff PSR. Gwahoddir Deoniaid Cysylltiol y Cyfadrannau i adolygu a chadarnhau cywirdeb y gofrestr yn flynyddol. Mae disgwyl hefyd i Gyfadrannau roi gwybod i'r Bwrdd Academaidd am unrhyw newidiadau i statws achrediad cynlluniau.
7. Mae adrannau’n gyfrifol am gyhoeddi manylion llawn achrediad cynlluniau ar gyfer myfyrwyr, a rhaid iddynt roi gwybod i ymgeiswyr a myfyrwyr am statws y cynlluniau astudio yng nghyswllt achrediad gan Gyrff PSR.
8. Os gwneir newidiadau i'r dull astudio, neu os sefydlir trefn gydweithrediadol newydd ar gyfer cynllun astudio, rhaid i'r adran berthnasol gysylltu â'r Cyrff PSR i weld a yw'r ddarpariaeth ddiwygiedig yn dod o fewn cwmpas y trefniadau achredu cyfredol. Rhaid rhoi gwybod i fyfyrwyr am statws y ddarpariaeth newydd neu ddiwygiedig.
2.12 Panel Cymeradwyo Cynlluniau: dyddiadau a dyddiadau cau ar gyfer papurauBydd Panel Cymeradwyo Cynlluniau yn cael ei gynnull i ystyried cynnig pan fydd wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio i symud ymlaen i gam nesaf y broses gymeradwyo. Bydd angen cyflwyno papurau i’w hystyried gan y Panel bythefnos fan bellaf cyn cyfarfod y Panel. Cysylltwch â’r Tîm Sicrhau Ansawdd i gael rhagor o arweiniad ar amseriad cynnull paneli cymeradwyo.
2.13 Arweiniad ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg2.13.1 Arweiniad ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd
1. Rydym yn hysbysebu canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob un o’n cynlluniau gradd lle mae’n bosib astudio o leiaf un modiwl yn Gymraeg. Mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar ein gwefan ac yn ein prosbectws dwyieithog, felly mae’n bwysig ei bod yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r rheolau hysbysebu. Dylid sicrhau bod canran cyfrwng Cymraeg wedi nodi ar AStRA ar gyfer pob cynllun gradd. AStRA sy’n bwydo’r wybodaeth ar ein gwefan. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn diweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
2. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer cynlluniau gradd.
(i) Cynlluniau a addysgir 100% drwy’r Gymraeg.
C1) A yw’r bosib dilyn llwybr ar y radd lle mae bob modiwl a astudir yn cael ei ddysgu yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg? (Modiwl sy’n cael ei ddysgu yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg yw modiwl lle mae’r holl oriau cyswllt yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg: h.y. mae pob darlith, seminar, tiwtorial, gweithdy, sesiwn mewn labordy, ayyb, yn digwydd drwy’r Gymraeg). Mae hyn yn golygu bod angen i bob modiwl craidd fod ar gael yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg a hefyd bod digon o fodiwlau opsiynol ar gael yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg i fyfyriwr ddewis dilyn bob modiwl ar ei radd 100% drwy’r Gymraeg ymhob blwyddyn astudio.
A1) Os felly, mae’r cynllun gradd yn cael ei ystyried yn gynllun gradd 100% drwy’r Gymraeg. D.S. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes disgwyl i’r myfyrwyr ddarllen testunau yn Saesneg neu iaith arall fel rhan o’r cynllun gradd.
(ii) Cynlluniau gradd a addysgir yn rhannol yn Gymraeg.
C1) A yw rhai o’r oriau cyswllt ar o leiaf un modiwl craidd ar y cynllun gradd yn cael eu dysgu yn Saesneg? (E.e. mae seminarau ar gael yn Gymraeg ond mae’r darlithoedd yn Saesneg).
A1) Os felly, mae’r cynllun gradd yn cael ei ystyried yn gynllun gradd a addysgir yn rhannol yn Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C2) A oes rhaid i fyfyriwr ddewis o leiaf un modiwl opsiynol a addysgir yn gyfan gwbl yn Saesneg neu o leiaf un modiwl opsiynol sy’n cynnwys rhai oriau cyswllt cyfrwng Saesneg ar y cynllun gradd? (H.y. does dim digon o fodiwlau sy’n cael eu dysgu yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg i fyfyriwr astudio 120 credyd ymhob blwyddyn astudio, felly i gyrraedd 120 credyd, mae rhaid iddo/i ddewis modiwl(au) a addysgir yn rhannol neu’n gyfan gwbl yn Saesneg).
A2) Os felly, mae’r cynllun gradd yn cael ei ystyried yn gynllun gradd a addysgir yn rhannol yn Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
C3) Sut mae cyfrifo canran ar gyfer cynlluniau gradd a addysgir yn rhannol yn Gymraeg?
- Mae gan bob modiwl ganran cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i gyfrifo nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl. Er enghraifft, os yw modiwl yn fodiwl 20 credyd ac mae ei ganran cyfrwng Cymraeg yn 90%, mae 18 credyd cyfrwng Cymraeg ar gael ar y modiwl. Mae canrannau cyfrwng Cymraeg modiwlau wedi’u cofnodi ar AStRA.
- Dewiswch y llwybr gyda’r nifer fwyaf o gredydau cyfrwng Cymraeg. Mae angen adio nifer y credydau cyfrwng Cymraeg ar bob modiwl ar y llwybr hwnnw a rhannu’r cyfanswm gyda 360 ar gyfer gradd 3 blynedd, 480 ar gyfer gradd 4 blynedd neu 240 ar gyfer gradd 2 flynedd (e.e. gradd sylfaen).
- Ni ddylid cynnwys modiwlau craidd yn unig.
- Ni ddylid cynnwys bob modiwl opsiynol cyfrwng Cymraeg os nad oes modd dilyn bob un (h.y. mae rhaid dewis rhyngddynt).
- Os oes modd dewis rhwng modiwlau gyda gwahanol ganrannau cyfrwng Cymraeg, dylid dewis y modiwl gyda’r canran cyfrwng Cymraeg uchaf.
- Yn rhan 2, dylid osgoi cynnwys opsiynau cyfrwng Cymraeg o bynciau eraill er mwyn cynyddu canran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd oni bai eu bod yn yr un maes. Dylai’r llwybr cyfrwng Cymraeg yn rhan 2 fod yn llwybr ym mhwnc y cynllun gradd. Byddai cynnwys dewis agored o hyd at 20 credyd y flwyddyn yn dderbyniol. Yn draddodiadol, mae rhai adrannau yn disgwyl i fyfyrwyr rhan 1 astudio hyd at 60 credyd y tu allan i’w pwnc. Os yw’n bosib dilyn y credydau hyn drwy’r Gymraeg, dylid eu cynnwys yng nghanran cyfrwng Cymraeg y cynllun gradd.
- Ni ddylid cynnwys blwyddyn ryng-gyrsiol, blwyddyn dramor neu flwyddyn mewn diwydiant, hyd yn oed os bydd y flwyddyn yn cario credydau ac mae’n bosib ei dilyn drwy’r Gymraeg.
3. Enghreifftiau
(i) Enghraifft 1: L255 Gwleidyddiaeth Ryngwladol (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Cymraeg]
Blwyddyn
1
2
3
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
GW12420 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 1: Cysyniadau Canolog a Sgiliau
18
GW20120 Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau
18.6
GW30040 Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
30
GW12620 Y Tu ôl i'r Penawdau
18
GW12520 Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol 2: Heriau byd-eang
17.6
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
60
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
20
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
40
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
GW12820 Llunio’r Byd Modern: Rhyfel, Heddwch a Chwyldro ers 1789
18.4
GQ20920 Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol
20
GQ30920 Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol
20
GW10320 Rhyfel Strategaeth a Chuddwybodaeth
17.2
GQ23720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer
20
GQ33720 Amlddiwylliannedd mewn Polisi ac Ymarfer
20
GW12920 Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain
17.6
GQ23420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
20
GQ33420 Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed
20
Cyfanswm y credydau opsiynol sydd ei angen
60
Cyfanswm y credydau opsiynol sydd ei angen
100
Cyfanswm y credydau opsiynol sydd ei angen
80
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1
- 8
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2
- 6
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3
90
Cyfanswm dros 3 blynedd: 275.4 credyd cyfrwng Cymraeg = 76.5%
(ii) Enghraifft 2: D4N1 Agriculture with Studies (2018/19) [Cynllun gradd dynodedig cyfrwng Saesneg]Blwyddyn
1
2
3
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau craidd ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
BG11400/10
Cyflwyniad i Systemau Cynhyrchu Da Byw
10
BG20400/20
Systemau Cynhyrchu Da Byw
20
BG34010
Taith Astudio Amaethyddol a'r Amgylchedd Gwaith
2.5
BG12410
Sgiliau Astudio a Chyfathrebu
10
BG25620
Dulliau Ymchwil
10
BG32300/30
Traethawd Estynedig
30
BG11110
Y Diwydiant Amaethyddol - Sgiliau Cynllun-Benodol
7.5
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
70
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
80
Cyfanswm nifer y credydau craidd sydd ei angen
60
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
Modiwlau opsiynol ar gael drwy’r Gymraeg
Credydau cyfrwng Cymraeg ar y modiwlau
MR10500/20
Cyflwyniad i Reolaeth
20
MR30720
Rheolaeth Marchnata
13.4
BG30800/20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
20
MR10600/20
Cyflwyniad i'r Amgylchedd Busnes
20
MR33120 - Ymddygiad Sefydliadol
13.4
MR34020
Strategaeth Busnes
13.4
MR10120
Egwyddorion Marchnata
13.4
BG21920
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd
20
BG10810
Datblygu a Rheoli Cynefinoedd ym Mhrydain
10
Cyfanswm nifer y credydau opsiynol sydd ei angen
50
Cyfanswm nifer y credydau opsiynol sydd ei angen
40
Cyfanswm nifer y credydau opsiynol sydd ei angen
60
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 1 (llwybr gyda’r % cyfrwng Cymraeg uchaf)
- 5
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 2 (llwybr gyda’r % cyfrwng Cymraeg uchaf)
- 4
Cyfanswm credydau cyfrwng Cymraeg blwyddyn 3
- 9
Cyfanswm dros 3 blynedd: 206.8 credyd cyfrwng Cymraeg = 57.4%
2.13.2 Arweiniad ar gyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg1. Er mwyn i adrannau cyrraedd eu targedau o ran cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg mae angen sicrhau:
- Bod cod modiwl cyfrwng Cymraeg ar gyfer unrhyw fodiwl ag iddo elfen o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Bod yr adran yn nodi canran cyfrwng Cymraeg ar gyfer pob modiwl â chod modiwl cyfrwng Cymraeg yn y maes priodol yng nghofnod y modiwl yn AStRA
- Mynd i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (oriau cyswllt Cymraeg.
2. Os nad oes cod modiwl cyfrwng Cymraeg gan fodiwl a chanran cyfrwng Cymraeg ar gofnod y modiwl, nid oes modd i’r system gyfrifiadurol adnabod y myfyrwyr ar y modiwl fel myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg a byddant yn ymddangos fel myfyrwyr cyfrwng Saesneg yn y data y mae HEFCW yn ei ddefnyddio i fesur ein cyrhaeddiad o ran targedau ar gyfer cynyddu nifer y myfyrwyr cyfrwng Cymraeg. Bydd hyn yn peryglu ein gallu i ddenu buddsoddiad pellach yn y maes. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn ddiweddaru AStRA ar sail data a ddarperir gan adrannau academaidd.
3. Cyfrifo canrannau cyfrwng Cymraeg
(i) Modiwlau a addysgir 100% drwy’r Gymraeg
C1) Ai Cymraeg yw cyfrwng yr holl oriau cyswllt, h.y. mae pob darlith, seminar, tiwtorial, gweithdy, sesiwn mewn labordy, ayyb, yn digwydd drwy’r Gymraeg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl 100% drwy’r Gymraeg. D.S. Mae hyn yn wir hyd yn oed os oes disgwyl i’r myfyrwyr ddarllen testunau yn Saesneg neu iaith arall fel rhan o’r modiwl.
C2) A yw’n fodiwl iaith Gymraeg sy’n cyflwyno myfyrwyr i Gymraeg ar gyfer dechreuwyr?
A2) Dylid cofnodi’r modiwl yn 100% cyfrwng Cymraeg.
(ii) Modiwlau a addysgir yn rhannol yn Gymraeg
C1) A yw rhai o’r oriau cyswllt ar y modiwl, e.e. seminarau, yn Gymraeg, a rhai o’r oriau cyswllt, e.e. darlithoedd, yn Saesneg?
A1) Os felly, mae’r modiwl yn cael ei ystyried yn fodiwl a addysgir yn rhannol yn Gymraeg a bydd ei ganran cyfrwng Cymraeg yn llai na 100%.
Yn yr achos hwn, mae angen edrych ar gyfanswm yr oriau a dreulir ar y modiwl.
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl = Nifer yr oriau astudio drwy’r Gymraeg
Cyfanswm yr oriau astudio
C2) Beth yw cyfanswm yr oriau astudio?
A2) Mae 1 credyd yn cyfateb i 10 awr o astudio. E.e. cyfanswm yr oriau astudio ar fodiwl 10 credyd yw 100 awr.
C3) Faint o oriau astudio drwy’r Gymraeg sydd gan fodiwl?
A3) Dylech chi gynnwys unrhyw oriau a dreulir:
- Yn mynychu dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (oriau cyswllt cyfrwng Cymraeg)
- Yn gwneud gweithgareddau eraill hunan-gyfeiriedig cyfrwng Cymraeg (e.e. gwaith cartref ar gyfer seminar)
- Yn gwneud gwaith cwrs asesedig (e.e. ysgrifennu traethawd, ysgrifennu adroddiad, gwneud taflenni gwaith, ayyb); [D.S. Ar fodiwlau ag iddynt god modiwl cyfrwng Cymraeg, mae disgwyl i fyfyrwyr allu cyflwyno eu gwaith yn Gymraeg a derbyn adborth yn yr iaith. Ni ddylid cyfieithu gwaith i’w farcio ar fodiwlau cyfrwng Cymraeg.]
- Yn gwneud unrhyw ymarferon drwy’r Gymraeg nad ydynt yn cyfrif tuag at farc terfynol y modiwl
- Yn adolygu ar gyfer arholiad(au)
- Yn ymarfer ar gyfer perfformiad cyfrwng Cymraeg (e.e. drama, sioe gerdd).
4. Os nad ydych yn siŵr faint o oriau y mae’r myfyrwyr i fod i dreulio ar y gwahanol weithgareddau ar fodiwl, mae dadansoddiad ar gael ar ffurflen ddilysu wreiddiol y modiwl. Ar gyfer modiwlau a ddilyswyd rhai blynyddoedd yn ôl, bydd copi o’r ffurflen hon ar gael yng nghofnodion cyfarfod y deoniaid/athrofa lle cymeradwywyd y modiwl. Maent ar gael gan y Gofrestrfa.
5. Enghreifftiau
(i) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
0
10 + 20
Pecyn dysgu hunan-gyfeiriedig
0
20
Arholiad a thraethawd
5
25
Cyfanswm
23 (25%)
75 (75%)
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 75%
Noder mai dim ond 50% o’r oriau cyswllt sydd yn Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 50% yn rhy geidwadol oherwydd bod nifer o weithgareddau eraill cyfrwng Cymraeg sy’n rhan o’r modiwl y tu hwnt i’r oriau cyswllt cyfrwng Cymraeg.
Noder mai dim ond 10% o oriau tybiannol y modiwl sy’n oriau dynodedig cyfrwng Saesneg, sef y deg awr o ddarlithoedd cyfrwng Saesneg. (Mae’n fodiwl 10 credyd ac felly mae’n tybio 100 awr o astudio). Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 90% yn rhy hael gan fod hanner yr oriau cyswllt yn Saesneg ac felly mae’n rhesymol i ragdybio bydd rhai oriau tybiannol cyfrwng Saesneg yn gysylltiedig â’r oriau cyswllt cyfrwng Saesneg.
Mae’r Coleg yn argymell y byddai nodi canran rhwng 70% ac 80% yn rhesymol, gan ddibynnu ar union gyd-destun y modiwl a’r pwnc a’r amrediad o weithgareddau dysgu a pharatoi ar gyfer y seminarau (Cylchlythyr 16/03).
(ii) Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
5 + 10
0
Tiwtorialau unigol + paratoi
0
5 + 10
Arholiad a thraethawd
5
20
Cyfanswm
40 (53%)
35 (47%)
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 47%
(iii) Modiwl 10 credyd (lle mae’r myfyriwr yn cyflwyno ei asesiadau yn Saesneg):
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
10 + 10
0
Seminarau + paratoi
5 + 10
0
Tiwtorialau unigol + paratoi
0
5 + 10
Arholiad a thraethawd
20
5
Cyfanswm
55 (73%)
20 (27%)
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 20%Noder mai 25% o’r oriau cyswllt sydd yn Gymraeg. Fodd bynnag, ystyrir canran cyfrwng Cymraeg o 25% yn rhy hael oherwydd bod y gweithgareddau eraill sy’n rhan o’r modiwl y tu hwnt i’r oriau cyswllt yn rhai cyfrwng Saesneg.
6. Modiwlau sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith
C1) A yw’r modiwl yn cael ei ddysgu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae elfen o leoliad gwaith lle gallai’r cyswllt iaith Gymraeg amrywio’n ddibynnol ar y cyflogwr, a hyd yn oed mewn rhai achosion o ddydd i ddydd?
A1) Gallwn wneud penderfyniad rhesymol ynglŷn â chanran gyfartalog yr elfen hon o’r modiwl a gynhaliwyd yn Gymraeg, a rhoi’r un canran i’r holl fyfyrwyr ar y modiwl (er bod rhai myfyrwyr mewn gwirionedd wedi astudio canran ychydig yn uwch na'r cyfartaledd a bod eraill wedi astudio canran ychydig yn is).
7. Modiwl cyfrwng Saesneg sy’n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd
C1) A yw’r modiwl yn cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg mewn darlithoedd er bod y darlithoedd, seminarau ac unrhyw ddosbarthiadau eraill sy’n rhan o’r modiwl yn Saesneg? Enghraifft o hyn fyddai modiwl sy’n paratoi myfyrwyr i gyflwyno’r Gymraeg fel rhan o’r cwricwlwm cynradd yng Nghymru.
A1) Os felly, mae’r Coleg yn awgrymu na ellir cofnodi mwy na 10% o’r modiwl yn gyfrwng Cymraeg yn rhesymol.
8. Enghraifft
Modiwl 10 credyd:
Oriau o weithgaredd
Saesneg
Cymraeg
Darlithoedd + darllen
15 + 20
5* + 5
Seminarau + paratoi
10 + 20
0
Arholiad a thraethawd
25
0
Cyfanswm
90 (90%)
10 (10%)
*Mae’r modiwl yn cynnwys pum darlith cyfrwng Saesneg sy’n cyflwyno elfen o ddeunydd cyfrwng Cymraeg.
Canran cyfrwng Cymraeg y modiwl a awgrymir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: 10%
9. Mae’r Coleg yn fodlon darparu arweiniad ar fodiwlau penodol. Dylid cysylltu â’r Swyddog Cangen i wneud cais am arweiniad.
Diweddarwyd Adran 2: Medi 2023
2.14 Furflenni Templed-
Cymeradwyo Modiwlau
Dylid gwneud cynigion ar gyfer modiwlau newydd a modiwlau wedi'u hailstrwythuro ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX sydd ar gael trwy myadmin.aber.ac.uk.
-
Cymeradwyo Cynlluniau
Amserlen o'r Ddyddiadau Cau Allweddol a llifsiartiau
- Crynodeb o'r Weithdrefn - llifsiart
- Amserlen Atal Cynllun dros Dro / Tynnu Cynllun yn Ôl
- Cynigion – Cylch Cynlluniau Dwyflynyddol
- Llinell amser ar gyfer gohirio/dileu cynllun a gynigiwyd gan y PCP yn dilyn adolygiad blynyddol o ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad
- Llifsiart Cymeradwyo ac Adolygu Cynlluniau
Llwybr Cymeradwyo drwy'r Weithrediaeth
- Llwybr Cymeradwyo drwy'r Weithrediaeth - Llifsiart
- SDF 1.1 Llwybr Cymeradwyo drwy’r Weithrediaeth – Cymeradwyaeth Strategol (Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Gweithrediaeth y Brifysgol)
- SDF 1.2 Llwybr Cymeradwyo drwy’r Weithrediaeth – Trosolwg Academaidd
Llwybr Cymeradwyo heb fynyd drwy'r Weithrediaeth
- Llwybr Cymeradwyo heb fynd drwy’r Weithrediaeth – llifsiart
- SDF 2 Llwybr Cymeradwyo heb fynd drwy’r Weithrediaeth
- SDF4 Llwybr Cymeradwyaeth Di-Weithrediaeth – Cyd-Anrhydedd neu Brif-Bwnc/Is-Bwnc newydd
Mân Newid Neu Ad-Drefnu
Tynnu yn ôl, Atal dros Dro, a Newid Teitlau Cynlluniau Gradd
Allanol
Manyleb Rhaglen
- SDF 9.1 - Manyleb Rhaglen yn Cynnwys Mapio Canlyniadau Dysgu
- SDF 9.2 Templed Manyleb Rhaglen I Gynlluniau Rhyng-gwrs (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
- SDF9.3 - Templed Manyleb Rhaglen i Gynlluniau Rhyng-Gwrs (Gyda blwyddyn Integredig yn astudio dramor)
-