Geirfa canlyniadau
27. Nid oes geirfa benodol ar gyfer canlyniadau dysgu. Fodd bynnag, mae’n werth cadw’r canlynol mewn cof.
- Dylai berfau a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau fod yn weithredol a dangos, os yw’r canlyniad am gael ei asesu, y gallu i fesur pob canlyniad trwy asesiad ffurfiannol neu grynodol. Er enghraifft os disgwylir i fyfyrwyr ‘ddeall’ cysyniad, gallai fod yn well nodi y dylai myfyrwyr allu ‘dynodi’ nodweddion y cysyniad, ‘disgrifio’ ei werth wrth egluro ffenomen, ‘dangos’ defnydd o’r cysyniad a ‘gwerthuso’ ei arwyddocâd. Gellid ystyried y canlyniadau hyn fel ffordd fesuradwy i fynegi’r ddealltwriaeth y byddem yn disgwyl i fyfyrwyr ei chaffael.
- Mae dealltwriaeth yn cynnwys achosion penodol iawn, yn yr enghraifft hon, o ddynodi, disgrifio a dangos. Fodd bynnag ceir amrywiaeth o lefelau canolradd o ddiffiniadau. Gallai geirfa o’r fath gynnwys ‘dynodi’n feirniadol’, ‘dangos gallu’, ‘gallu cymhwyso/trafod’ a ‘defnyddio amrywiaeth’. Gallai’r rhain hefyd fodloni gofynion mesur. Yn amlwg bydd hyn yn amrywio’n fawr rhwng ac o fewn disgyblaethau.
28. Mae’r tabl isod yn cynnwys rhagor o’r berfau llai mesuradwy a thermau amgen y gellid eu cysylltu’n agosach â dulliau asesu. Yn amlwg, mae’r rhain yn benodol i’r cyd-destun ac mae modd cyfnewid rhai â’i gilydd. Nid yw hon yn rhestr holl gynhwysfawr.
Berf gyffredinol |
Berf fesuradwy |
Deall |
Dangos dealltwriaeth o |
Bod yn ymwybodol |
Disgrifio, dangos, trafod |
Amgyffred |
Dadansoddi, Gwerthuso |
Cymathu |
Egluro, Cyfosod |
Sefydlu |
Dangos, Dynodi, Rhestru, Nodi, Cyfiawnhau |
Gwerthfawrogi |
Dadansoddi, Gwerthuso, Cymharu |
Ymwybyddiaeth |
Cyfathrebu, Egluro |
Gwneud |
Perfformio |
Gwybod |
Diffinio, Gwahaniaethu, Gwerthuso |
Sgiliau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
Datrys problemau'n greadigol |
Cyfleoedd sy'n herio, yn gwneud i'r myfyriwr feddwl drostynt eu hunain a/neu gynnwys dod o hyd i ffyrdd gwahanol o weithio'n greadigol. Yn cynnwys gwneud penderfyniadau, ffyrdd mentrus o feddwl, dulliau amgen, arloesi, menter. |
Meddwl beirniadol a dadansoddol (meddylfryd cwestiynu) |
Y gallu i gasglu data gofynnol yn gyflym a dadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn gynhwysfawr i lywio penderfyniadau/meddwl. Yn cynnwys llythrennedd gwybodaeth, y gallu i gynllunio ymchwil, casglu data priodol, ystyried persbectifau a safbwyntiau amgen, dod i gasgliadau, bod yn rhesymegol, rhesymu a dadansoddi meintiol, adnabod rhagfarn a chamwybodaeth. |
Hyblygrwydd a gwydnwch |
Y gallu i ddelio ag amgylchiadau ac amgylcheddau sy'n newid. Addasu i weithio gyda phobl eraill sydd â dewisiadau a blaenoriaethau gwahanol. Addasu i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Yn cynnwys cydnabyddiaeth bod galluoedd yn tyfu dros amser; dysgu drwy gamgymeriadau; derbyn adborth yn gadarnhaol; beirniadaeth adeiladol. |
Cymhwysedd digidol |
Cysyniad eang sy'n cwmpasu llythrennedd yn y cyfryngau a gwybodaeth, ymchwil ddigidol a datrys problemau, creadigrwydd gydag offer digidol yn ogystal â rheoli dulliau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Yn cynnwys parodrwydd i roi cynnig ar dechnolegau newydd, addasu i ddulliau digidol o weithio, dealltwriaeth o ôl troed digidol a'i effaith. |
Adlewyrchu (hunanymwybyddiaeth) |
Trwy drafod a thasgau, cyfleoedd i ddeall eu profiadau, eu rhinweddau a'u dyheadau eu hunain. Dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Darparu cyfleoedd i nodi a mynd i'r afael â chryfderau a gwendidau. Yn gysylltiedig ag Arolwg ar Brofiad Myfyrwyr (ABM), gan gydnabod datblygu sgiliau a chynnydd personol, cynllunio gyrfa, asesu diddordebau a gwerthoedd, adborth ac asesu. |
Cyfathrebu proffesiynol |
Gosod cyfathrebu ysgrifenedig, llafar, gweledol, rhifiadol a digidol yng nghyd-destun y gweithle. Yn cynnwys y gallu i ddangos empathi drwy osod eu hunain yn esgidiau pobl eraill, i ddeall eu teimladau, ac i helpu i ddatrys eu problemau, i gydnabod dulliau cyfathrebu priodol sy'n gysylltiedig â chynulleidfaoedd gwahanol, defnyddio dulliau iaith a chyfathrebu'n briodol, defnyddio data meintiol mewn ffyrdd priodol i wella dealltwriaeth, i ystyried cynnwys cyfathrebu a'r cywair a ddefnyddir. |
Synnwyr byd go iawn |
Dysgu yn seiliedig ar ymchwilio i faterion byd go iawn (Dysgu Seiliedig ar Broblemau/Dysgu Seiliedig ar Achos). Cyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, ymarferwyr ac entrepreneuriaid. Profiad – dysgu seiliedig ar ymarfer sy’n seiliedig ar waith neu ar y gymuned. Datblygu sgiliau mewn: menter, annibyniaeth, gweithio yn rhan o dîm, ymdopi â phwysau, cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, gwneud penderfyniadau, bod yn gyfrifol, cydnabod rhagfarn a chamwybodaeth, addasu, cynllunio, cydlynu a threfnu, cydnabod trosglwyddedd sgiliau, trosi labeli sgiliau yn y byd academaidd i'r rhai a ddefnyddir yn y gweithle. Cyfeirir atynt weithiau fel ymwybyddiaeth fasnachol. |
Cydweithio |
Cydweithio fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ac a asesir fel cyfanrwydd, trafod, dylanwadu. Cydweithredol, fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ond a asesir yn unigol Datblygu arweinyddiaeth drwy gyfleoedd i: |