2.8 Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs
1. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i'r drefn flynyddol o fonitro'r holl gynlluniau a ddysgir o fewn i'r cyd-destun a osodir gan God Ansawdd y Deyrnas Gyfunol. Y Bwrdd Academaidd sy'n gyfrifol am arolygu'r drefn hon.
2. Diben y Monitro Blynyddol yw darparu dull diogel i roi sicrwydd i'r Brifysgol bod y cynlluniau'n cyflawni eu hamcanion ac i nodi meysydd o arfer da, a lledaenu'r wybodaeth hon er mwyn gwella'r ddarpariaeth.
3. Yr adran academaidd sydd bennaf gyfrifol am fonitro pob cynllun israddedig ac uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs yn flynyddol, ac mae'r adran yn adrodd yn ôl i'r gyfadran berthnasol. Mae'n bwysig nabod materion neu bryderon sy'n benodol i gynllun arbennig neu'n gyffredin i nifer ohonynt, yna ystyried y materion hynny, adrodd yn ôl amdanynt a chymryd y camau priodol. Mae hyn yn gymwys yn achos pryderon yn gysylltiedig â modiwlau'r adran ei hun neu fodiwlau adran arall neu bartner-ddarparwr sy'n rhan hanfodol o'r cynllun dan sylw.
4. Cydlynydd y cynllun, neu unigolyn cyfatebol, ddylai lenwi'r ffurflen AMTS1, gan ddibynnu ar ddull grwpio'r cynlluniau. Mae'r holl gynlluniau astudio a ddysgir yn cael eu monitro'n flynyddol (mae hyn yn cynnwys cynlluniau israddedig, cynlluniau uwchraddedig a chynlluniau rhyddfraint), a rhaid llenwi ffurflen ar wahân ar gyfer cynlluniau israddedig, uwchraddedig a rhyddfraint. I gynorthwyo â'r drefn, bydd pecynnau data Monitro Blynyddol yn cael eu darparu i gynlluniau lle mae'r niferoedd yn arwyddocaol yn ystadegol.
5. Wrth ystyried adroddiadau'r AMTS2, gall y cyfadrannau ofyn i'r adrannau am eglurhad pellach ynglŷn â materion a godwyd neu ynglŷn â chamau i'w cymryd. Bydd materion sydd angen eu hystyried ar lefel Prifysgol yn cael eu cyfeirio at y Bwrdd Academaidd. Ar ben hyn, gall Bwrdd y Ddarpariaeth Gydweithrediadol ofyn am eglurhad pellach gan gyfadrannau ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â phartneriaethau a chytundebau rhyddfraint.
6. Gofynnir i gydlynwyr y cynlluniau gyflwyno'u hadroddiadau AMTS1 i'r gyfadran fel tystiolaeth ffurfiol. Cedwir ffurflenni AMTS1 o flynyddoedd academaidd blaenorol ar gyfer yr Arolwg Cyfnodol o Gynlluniau ac unrhyw ddigwyddiad i ail-ddilysu cynllun unigol. Adroddiad cyfunol ar lefel y gyfadran yw adroddiad AMTS2. Eithriad fydd adrodd yn ôl a dylid gwneud sylwadau ar faterion sydd o arwyddocâd arbennig. Dylai hyn gynnwys llwyddiant, arfer da a dyfeisgarwch, peryglon i ansawdd a heriau, a dylid dethol materion i'w dwyn i sylw'r brifysgol.
7. Ceir cyfarwyddiadau ychwanegol yn y templedi AMTS (Monitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs) sydd i'w gweld ar diwedd y bennod hon.