2.9 Adolygiad Blynyddol o Fanylebau Rhaglen

Dylai’r Adrannau gynnal adolygiad blynyddol o fanylebau eu rhaglenni er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu diweddaru a’u bod yn parhau i fod yn ddilys; gellir gwneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y sesiwn bresennol, ond gofynnir i’r Adrannau anfon unrhyw newid ymlaen at y Tîm Sicrhau Ansawdd (qaestaff@aber.ac.uk) erbyn diwedd Semester 2 yn ystod pob sesiwn academaidd. Mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw newidiadau sylweddol gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran (mae’r dyddiadau a’r terfynau amser ar gyfer papurau ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/aqro-coms/). Bydd fersiynau PDF o fanylebau’r rhaglenni yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau pob sesiwn academaidd ar gyfer y sesiwn dan sylw.