2.11 Achrediad gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSR)
1. Cyrff PSR sy'n gosod safonau ac yn rheoleiddio safonau mynediad i broffesiynau arbennig. Mae'r Brifysgol yn ymwneud â nifer o'r cyrff hyn trwy achrediad ffurfiol o rai o'r cynlluniau astudio ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Yn rhan o'i gyfrifoldebau am God Ansawdd Addysg Uwch y DU, y Bwrdd Academaidd sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r holl waith adolygu, dilysu ac achredu allanol sy'n ymwneud â'r gweithgareddau dysgu yn y Brifysgol.
2. Mae Adrannau'n cadw elfen o gyfrifoldeb am gysylltu â'r cyrff ynglŷn ag achrediadau cychwynnol a rheoli'r cynlluniau achrededig yn eu meysydd. Mae adroddiadau'r Cyrff PSR yn darparu adborth allanol pwysig ynghylch ansawdd a safonau cynlluniau a disgwylir i adrannau eu hystyried yn drwyadl yn rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (gweler adran 6 y ffurflen AMTS1).
3. Rhaid i adrannau gadarnhau a yw'n fwriad gwneud cais am achrediad i gynlluniau newydd yn rhan o'r Drefn Cymeradwyo Cynlluniau. Dylid cael achrediad cychwynnol i gynlluniau newydd cyn gynted ag y gellir ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo'n derfynol, a rhaid rhoi gwybod i'r Bwrdd Academaidd am ganlyniad yr ymarfer achredu.
4. Rhaid i Gyfadrannau sicrhau bod copïau o'r canlynol yn cael eu cyflwyno i'r Gofrestrfa Academaidd i'w hystyried gan y Bwrdd Academaidd: pob gohebiaeth a dogfen a gyflwynwyd i Gorff PSR i ddiben achredu; gohebiaeth ac adroddiadau sy'n deillio o ymarfer achredu, ac ymateb neu gynlluniau gweithredu'r adran. Dylid eu hanfon at qaestaff@aber.ac.uk
5. Bydd yr adroddiad sy’n deillio o arolwg Cyrff PSR yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Academaidd. Diben gwneud hynny yw sicrhau y gellir rhoi sylw i unrhyw wendidau a nodwyd yng ngweithdrefnau'r Brifysgol, bod adrannau'n ymateb i unrhyw fater a godir gan y Cyrff PSR, a bod arfer da yn cael ei ledaenu'n ehangach yn y Brifysgol. Bydd y Bwrdd Academaidd yn dilyn a monitro unrhyw weithredu sy'n deillio o adroddiadau Cyrff PSR, ac efallai y byddant yn mynnu bod adrannau'n paratoi cynlluniau gweithredu mewnol i ymateb i'r adroddiadau.
6. Bydd y Bwrdd Academaidd yn cadw cofrestr o'r holl gynlluniau sy'n cael eu hachredu gan Gyrff PSR. Gwahoddir Deoniaid Cysylltiol y Cyfadrannau i adolygu a chadarnhau cywirdeb y gofrestr yn flynyddol. Mae disgwyl hefyd i Gyfadrannau roi gwybod i'r Bwrdd Academaidd am unrhyw newidiadau i statws achrediad cynlluniau.
7. Mae adrannau’n gyfrifol am gyhoeddi manylion llawn achrediad cynlluniau ar gyfer myfyrwyr, a rhaid iddynt roi gwybod i ymgeiswyr a myfyrwyr am statws y cynlluniau astudio yng nghyswllt achrediad gan Gyrff PSR.
8. Os gwneir newidiadau i'r dull astudio, neu os sefydlir trefn gydweithrediadol newydd ar gyfer cynllun astudio, rhaid i'r adran berthnasol gysylltu â'r Cyrff PSR i weld a yw'r ddarpariaeth ddiwygiedig yn dod o fewn cwmpas y trefniadau achredu cyfredol. Rhaid rhoi gwybod i fyfyrwyr am statws y ddarpariaeth newydd neu ddiwygiedig.