2.7 Gohirio a Dileu Cynllun Astudio a Newid Teitl Cynllun

Gohirio cynllun astudio

1. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ohirio cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau sicrhau hefyd bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer y disgwyliad yw mai dim ond am un flwyddyn y bydd cynllun yn cael ei ohirio, ac ar ôl hynny y bydd ar gael eto yn awtomatig ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr ac i'w weld ar dudalennau chwilio am gyrsiau. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio, a dylai'r adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Pwyllgor. Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.

Dileu cynllun astudio

2. Ni chaiff cynigion a gyflwynir gan adrannau i ddileu cynllun ei ystyried tan ar ôl ymgynghoriad llawn o fewn y gyfadran berthnasol, neu ar draws cyfadrannau os oes angen. Rhaid i adrannau sicrhau hefyd bod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel cynllun a modiwl yn cael ei hystyried yn ystod y broses hon. Fel arfer, disgwylir i gynllun gael ei ddiddymu'n raddol dros gyfnod er mwyn i'r Brifysgol gyflawni ei hymrwymiad i fyfyrwyr cofrestredig. Fel eithriad, lle bo angen ad-drefnu ar frys, bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lle mewn man arall i fyfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol ac sy'n dymuno cwblhau'r cwrs astudio y cawsant eu derbyn arno'n wreiddiol. Os bydd rhaglen israddedig yn cael ei dileu hanner ffordd trwy gylch derbyn, bydd confensiynau arferol UCAS yn gweithredu yn achos myfyrwyr a wnaeth gais am fynediad ar y cwrs hwnnw. Bydd cynigion i ddileu cynllun yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio, a dylai'r adrannau gyflwyno blaenddalen pwyllgor a Ffurflen Datblygu Cynllun 5 (SDF5) i'w hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio. Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.

3. Nid ar gyfer cynlluniau cyfrwng Cymraeg yn unig y mae Adran 2, oherwydd gall dileu cynllun gael effaith hefyd ar fodiwlau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; dylid ei llenwi ar gyfer pob cynllun. Rhaid i adrannau hefyd lenwi Adran 2 mewn ymgynghoriad â Deon Cysylltiol y Gyfadran (Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg), a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â'r Grŵp Datblygu Cyfrwng Cymraeg cyn cyflwyno'r cynnig i’r Pwyllgor Cynllunio Portffolio.

4. Dylai'r adrannau gadw mewn cof y bydd y Pwyllgor Cynllunio Portffolio yn archwilio cynigion i ohirio neu ddileu cynllun a goblygiadau’r penderfyniad yng ngoleuni arweiniad CMA ynglŷn â Chyfraith Defnyddwyr.

5. Gall y Pwyllgor Cynllunio Portffolio gynnig gohirio neu ddileu cynlluniau'n flynyddol yn seiliedig ar ddata tueddiadau recriwtio a gwybodaeth am y farchnad. Bydd y PCP yn gwahodd adrannau i weithredu ar sail yr adroddiad hwn i ddileu neu ohirio cynlluniau fel y bo'n briodol. Gwahoddir cyfadrannau i ddarparu rhesymeg gadarn i’r PCP ar gyfer cadw unrhyw gynlluniau a nodwyd yn yr adroddiad. Dylai cyfadrannau ystyried cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg, mewn ymgynghoriad â Deon Cysylltiol y Gyfadran (Darpariaeth Academaidd Cyfrwng Cymraeg) a fydd yn gyfrifol am ymgynghori â'r Pwyllgor Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg, a chadarnhau unrhyw effaith ar y ddarpariaeth. Bydd gan y PCP yr awdurdod i wneud penderfyniadau terfynol gan ystyried yr adborth hwn. Ni fyddai angen dogfennau cymeradwyo pellach a bydd y penderfyniad yn cael ei gofnodi yng nghofnodion y PCP.

Newid teitl cynllun

6. Y Pwyllgor Cynllunio Portffolio fydd yn ystyried newidiadau i deitl cynllun. Dylai'r Adran lenwi'r canlynol i'w hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio Portffolio:

(i) Blaenddalen Pwyllgor

(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 6 (SDF6).

Ni fydd angen archwilio pellach ac fe gofnodir y penderfyniad yng nghofnodion y PCP.