Gwybodaeth Gyffredinol Arall

21. Rhestr Ddarllen a Llyfryddiaeth: Pe byddai amcan o destunau hanfodol a darllen pellach yn cynorthwyo’r drefn cymeradwyo modiwl, dylid ychwanegu hyn yn Lyfryddiaeth Fynegol. Os yw’r Llyfryddiaeth gyfan yn cael ei darparu, dylid cysylltu â’r llyfrgellydd pwnc i drafod ymhellach. Mae canllawiau ynglŷn â Rhestrau Darllen Aspire wedi’u cyhoeddi yn: https://faqs.aber.ac.uk/802.

22. Adnoddau: Dylai gofynion Llyfrgell a TG gynnwys amcangyfrif o ba mor aml y defnyddir TG e.e. oes angen labordy cyfrifiadurol bob wythnos, yn ysbeidiol ac ati? Pa feddalwedd sydd ei angen, pa gyfleusterau argraffu? Ceir rhagor o wybodaeth am ba un ai y byddai o fudd gwneud addysgu sgiliau gwybodaeth yn rhan annatod o fodiwl gan y Llyfrgellydd Pwnc. I gael rhagor o wybodaeth cyfeiriwch at y Datganiad Llythrennedd Gwybodaeth. Dylid ymgynghori â’r Llyfrgellydd Pwnc hefyd wrth ystyried tanysgrifiad newydd i gefnogi astudiaethau’r modiwl, e.e. cyfnodolyn neu gronfa ddata.