Cyflwyniad

1. Caiff trefn y Brifysgol o Gymeradwyo Modiwlau ei goruchwylio gan y Bwrdd Academaidd. Y Cyfadrannau sy’n gyfrifol am gymeradwyo modiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu, mân newidiadau i fodiwlau, gohirio a dileu modiwlau. Dylid cyflwyno cynigion am fodiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’u cyflwyno i’r Gyfadran berthnasol i’w hystyried. Dylai aelod academaidd annibynnol o staff graffu’r cynigion; bydd yr adolygydd yn cael ei enwebu yn rhan o’r llif gwaith cymeradwyo modiwl a dylent lenwi’r adran adolygu cyn i’r modiwl gael ystyriaeth pwyllgor y gyfadran briodol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Gyfadran, bydd y Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr yn cael gwybod am y newidiadau a fydd yn cael eu cofnodi ar y gronfa ddata modiwlau. Dylid cyflwyno modiwlau Dysgu o Bell sy’n seiliedig ar fodiwlau campws cyfredol, a modiwlau cyfrwng Cymraeg sy’n efelychiadau uniongyrchol o fodiwlau sydd wedi’u cymeradwyo, neu’r ffordd arall, gan ddefnyddio’r system APEX.

2. Dylai pob modiwl sy’n newydd ac sydd wedi’i ailstrwythuro gael cymeradwyaeth y Gyfadran a dylid diweddaru’r wybodaeth ar y gronfa ddata modiwlau a chynlluniau ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf erbyn diwedd tymor y gwanwyn neu heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth os yw tymor y gwanwyn yn gorffen ar ôl y dyddiad hwn.

3. Dylid gwneud mân newidiadau drwy ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX ond ni fydd angen adolygydd mewnol ar gyfer, er enghraifft newid teitl, newidiadau bach yn y cynnwys, newid o ran pwysiant asesu nad yw’n effeithio ar ganlyniadau dysgu, a newidiadau o ran semester. Rhaid cwblhau’r broses gymeradwyo lawn os ceir newidiadau sylweddol i gynnwys y modiwl, ei ganlyniadau dysgu neu drefn asesu.

4. Dylid cyflwyno cynigion i ddileu a/neu ohirio modiwlau i’r Gyfadran i’w cymeradwyo. Dylid cyfeirio ymholiadau am ddileu neu ohirio modiwl i’r Gyfadran yn y lle cyntaf. Dylid diweddaru’r modiwl yn APEX i wneud cais i ddileu/gohirio, a chaiff y cais ei ystyried wedyn gan y Gyfadran.

5. Yn rhan o’r broses gymeradwyo mewn Cyfadran, dylai’r Gyfadran sy’n gyfrifol am yr addysgu sicrhau bod ganddi’r adnoddau angenrheidiol i gyflwyno’r modiwl.

6. Nid bwriad y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yw darparu geiriad penodol ar gyfer cymeradwyo modiwlau, ond mae’n ceisio egluro rhai o’r cwestiynau cyffredin. Mae newidiada modiwl sy’n gorfod derbyn cymeradwyaeth y Gyfadran yn cynnwys:

(i) Newid sylweddol i gynnwys y modiwl

(ii) Unrhyw newid yn y lefel a ddynodir

(iii) Unrhyw newid o ran pwyso credydau

(iv) Unrhyw newid yn y canlyniadau dysgu a/neu ddulliau asesu.

7. Caiff yr angen am fodiwl sy’n newydd neu wedi’i ad-drefnu ei gydnabod ar lefel adran neu bwnc, a dynodir Cydlynydd Modiwl i arwain ar ddrafftio’r cynnig.

8. Caiff cynnig drafft ei baratoi yn defnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’r canllawiau a geir yn adran 2.2 o’r Llawlyfr Ansawdd.

9. Dylid cyflwyno’r cynnig i adolygydd modiwl (a enwebir gan y Deon Cysylltiol/Cyfadran). Mae’r broses adolygu ar wahân i unrhyw graffu adrannol o gynigion modiwl. A dylai cyfadrannau sicrhau bod cynigion modiwl yn cael eu craffu gan aelod academaidd annibynnol o staff na fu â rhan yn y gwaith o baratoi’r modiwl neu unrhyw graffu adrannol neu broses cymeradwyo blaenorol.

10. Dylai’r asesydd ystyried y modiwl, darparu adborth adeiladol o fewn APEX ac argymell un o’r camau gweithredu canlynol:

(i) Cymeradwyo’r cynnig

(ii) Cyfeirio at y Gyfadran i’w drafod ymhellach neu’n ehangach, neu gymeradwyo’n amodol ar ddiwygiadau a nodir

(iii) Cyfeirio’n ôl at y cydlynydd modiwl i’w ddatblygu ymhellach.

11. Dylai’r cynnig modiwl/ailstrwythuro wedi’i gwblhau, gan gynnwys sylwadau gan yr adolygydd annibynnol, gael ei gymeradwyo gan pwyllgor Cyfadran priodol.

12. Unwaith y bydd modiwl wedi’i gymeradwyo’n llwyr, bydd y modiwl/newidiadau’n cael eu hychwanegu i’r Gronfa Ddata Modiwlau. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Swyddfa Amserlennu a’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn cael eu hysbysu’n awtomatig drwy’r llif gwaith yn APEX.

13. Ni fydd modiwlau newydd yn ymddangos ar y gronfa ddata tan y bydd y broses gymeradwyo ffurfiol wedi’i chwblhau ar lefel cyfadrannol.

14. Mewn achosion lle mae trothwy isaf yn cael ei osod ar gyfer modiwl dewisol, mae’n rhaid i’r adran academaidd roi gwybod i’r myfyrwyr nad oes sicrwydd y bydd y modiwl yn cael ei gynnal os yw nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar ei gyfer yn isel, ac y gallai myfyrwyr orfod dewis eto. Yn yr un modd, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr pan fo nifer y cofrestriadau ar fodiwl wedi’i gapio, a darparu eglurhad clir.