2.5 Y Llwybr Cymeradwyo Di-Weithrediaeth
1. Mae’r llwybr cymeradwyo ‘Di-Weithrediaeth’ ar gyfer cynigion lle nad oes goblygiadau o ran adnoddau ac felly ni fydd angen cymeradwyaeth gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol. Dylai cynigion a ystyrir drwy’r llwybr cymeradwyo di-weithrediaeth gynnwys:
(i) Darpariaeth newydd mewn maes sy'n bod eisoes (yn seiliedig ar ddarpariaeth modiwl sydd eisoes yn bod)
(ii) Cyfuniadau Prif Bwnc/Is-bwnc ac Anrhydedd Cyfun newydd.
2. Bydd cynigion sy’n dilyn y llwybr di-weithrediaeth yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a gallant gael eu cymeradwyo gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran berthnasol (is-grŵp o Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran) a fydd yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.
3. Dylai adrannau gysylltu â chyswllt SA y Gofrestrfa Academaidd cyn cyflwyno cynnig i benderfynu ar y llwybr cymeradwyo mwyaf priodol. Dylai adrannau ymgynghori â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran, yr Adran Gynllunio, Marchnata, Denu Myfyrwyr, Datblygu a Rhyngwladol, Gwasanaethau Gwybodaeth, y Llyfrgell, y Swyddfa Amserlenni, Ystadau a Chyfleusterau (gan gynnwys y Swyddfa Llety) a'r Cofrestrydd Academaidd er mwyn gofyn am eu mewnbwn i ddogfennaeth y cynnig; bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn ddarparu datganiad byr o fewn y Ffurflen Datblygu Cynllun berthnasol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer pob un o'r adrannau hyn yn yr adran Canllawiau ym mhob ffurflen SDF.
Pwyllgor Cynllunio’r Portffolio
4. Bydd pob cynnig sy’n dilyn y llwybr di-weithrediaeth yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a fydd yn penderfynu a ddylai’r cynnig fynd ymlaen i gael ei ystyried o safbwynt academaidd gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran, cael ei gyfeirio’n ôl i’r Adran i’w drafod ymhellach, neu ei wrthod.
Marchnata’r cynllun
5. Gellir hysbysebu cynllun ‘yn amodol ar ei gymeradwyo’ ym mhrosbectws ffurfiol nesaf y Brifysgol wedi iddo gael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio. Ni cheir hysbysebu cynlluniau ar UCAS nac ar-lein tan i’r drefn gymeradwyo gael ei chwblhau, oni bai bod yr adran wedi cyflwyno achos llwyddiannus i gael hysbysebu’r cynllun ‘yn amodol ar ei gymeradwyo’ mewn deunydd print ac ar-lein yn ogystal â phrosbectws ffurfiol y Brifysgol. Bydd tîm Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd yn cyfleu’r penderfyniad i’r adran(nau) sy’n cyflwyno’r cynnig ac i’r adrannau gwasanaeth perthnasol.
Ystyriaeth gan Banel Cymeradwyo’r Gyfadran
6. Unwaith y ceir cymeradwyaeth i fynd ymlaen i gam nesaf y broses gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio, bydd Panel Cymeradwyo’r Gyfadran yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynnwys academaidd, cynllun a dull cyflwyno'r maes llafur, ac a ddylid cymeradwyo'r cynnig yn ffurfiol ai peidio, mewn cyfarfod a drefnir yn ôl yr angen. Ni chaiff Panel Cymeradwyo'r Gyfadran wrthod cynnig ac eithrio ar sail Sicrhau Ansawdd.
7. Bydd aelodaeth y Panel yn cynnwys o leiaf dau gynrychiolydd academaidd o’r gyfadran, nad ydynt wedi bod yn ymwneud â datblygu na chymeradwyo’r cynnig cyn cam Panel y Gyfadran; fel arfer bydd Deon Cysylltiol yn aelod o’r Panel. Rhaid i’r Panel hefyd gynnwys cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr a chyswllt Sicrhau Ansawdd y Gofrestrfa Academaidd a fydd yn gyfrifol am gymryd cofnodion yn y cyfarfod. Gellir gwahodd aelodau eraill os bernir bod hynny’n briodol. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn gofalu am gynrychiolaeth cyfrwng Cymraeg ar baneli.
8. Cymeradwyaeth gan Banel Cymeradwyo'r Gyfadran fydd cam olaf y broses gymeradwyo. Bydd nodiadau’r Panel yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Materion Academaidd y Gyfadran gyda dogfennau'r cynnig er gwybodaeth yn unig, ac i Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio yn gofnod o'r penderfyniadau a wnaed.
Darpariaeth newydd mewn maes sy’n bod eisoes
9. Dylai adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig datblygu cynlluniau newydd mewn maes neu o fewn darpariaeth sy’n bod eisoes, er enghraifft, ar sail modiwlau sy’n bod eisoes a lle na cheir unrhyw oblygiadau o ran adnoddau. Dylai'r Adran lenwi'r dogfennau canlynol a chânt eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Phanel Cymeradwyo’r Gyfadran. Ceir rhagor o ganllawiau manwl ar y ffurflen SDF.
(i) blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 2 (SDF2)
(iii) Manylion y rhaglen(ni), gan gynnwys canlyniadau dysgu'r cynllun/modiwl wedi'u mapio ar sail asesiadau
(iv) Ffurflenni cymeradwyo modiwlau newydd/diwygiedig, os yw'n briodol, neu ddolenni at fodiwlau presennol.
Creu cyfuniadau Prif Bwnc/Is-Bwnc ac Anrhydedd Cyfun newydd
10. Dylai adrannau ddilyn y llwybr hwn os ydynt yn cynnig creu cynllun Prif Bwnc/Is-bwnc neu Anrhydedd Cyfun newydd. Sylwer mai dim ond i uno dwy elfen prif bwnc, is-bwnc neu elfennau ar y cyd sy’n bod eisoes ac sydd eisoes wedi’u cymeradwyo y dylid defnyddio’r llwybr hwn. Dylai adrannau ddilyn y llwybr Darpariaeth Newydd mewn Maes sy’n bod Eisoes neu lwybr cymeradwyaeth y Weithrediaeth er mwyn creu elfennau prif bwnc, is-bwnc neu elfennau ar y cyd newydd. Dylai'r Adran lenwi'r dogfennau canlynol a chânt eu hystyried gan Bwyllgor Cynllunio’r Portffolio a Phanel Cymeradwyo’r Gyfadran. Ceir rhagor o ganllawiau manwl ar y ffurflen SDF.
(i) blaenddalen y Pwyllgor
(ii) Ffurflen Datblygu Cynllun 4 (SDF4).