Tystiolaeth o Graffu Annibynnol

23. Dylai adolygydd sy'n aelod annibynnol o'r staff academaidd ac nad ydyw wedi ymwneud ag ysgrifennu’r modiwl graffu ar gynigion modiwl; dylech enwebu adolygydd gan ymgynghori â’ch Adran a/neu Gyfadran.  Dylai’r adolygydd lenwi’r rhan hon o'r ffurflen a chysylltu â’r cynigydd, a ddylai wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r ffurflen a/neu roi ymateb yn y sylwadau. Os yw modiwl yn gyfieithiad uniongyrchol o fodiwl sydd eisoes wedi’i gymeradwyo, nid oes angen cwblhau’r adran hon.