Telerau ac Amodau

  1. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr fodloni holl delerau eu cynnig yn llawn;
  2. Disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu at un o Glybiau Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr ac fel arfer byddai disgwyl iddynt gynrychioli’r Brifysgol yn y gamp y cawsant yr Ysgoloriaeth amdani. Mewn rhai amgylchiadau efallai na fyddai’r amod hwn yn briodol neu’n bosibl, a gellid ei eithrio trwy gytundeb Cadeirydd y Panel Dyfarnu. Gofynnir i ddeiliaid Ysgoloriaethau gadarnhau eu bod ar gael i gynrychioli’r Brifysgol pan fyddant yn derbyn eu gwobr;
  3. Dylai myfyrwyr sy’n dal Ysgoloriaeth gytuno i ymddwyn mewn modd sy’n gweddu i gynrychiolwyr y Brifysgol, a cheisio cynnal neu wella eu perfformiad chwaraeon;
  4. Bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo i hyrwyddo proffil chwaraeon y Brifysgol ac yn cynorthwyo â chynlluniau eraill sy’n cynnwys hyrwyddo’r Brifysgol e.e. Dyddiau Agored, Dyddiau Ymweld, gweithgareddau Ehangu Cyfranogiad, lle bo hynny’n briodol. Caiff y myfyrwyr eu talu am oriau y byddant yn gweithio ar y raddfa safonol i fyfyrwyr;
  5. Bydd gan ddeiliad yr Ysgoloriaeth gyfle i adolygu eu cynnydd gyda Chydgysylltydd Gweithgareddau’r Myfyrwyr ac efallai y bydd gofyn iddynt gadw dyddiadur hyfforddi i hwyluso’r broses adolygu. Gweinyddir y broses asesu a chynnydd gan Ysgrifennydd y Panel Dyfarnu, ac fe weinyddir y broses adolygu gan Fentor yr Ysgoloriaethau Chwaraeon;
  6. Bydd disgwyl i ddeiliaid Ysgoloriaethau gyflwyno adroddiadau cynnydd byrion (ar dempled a fydd yn cael ei ddarparu) ar ddiwedd eu semester cyntaf, ac ar ddiwedd pob blwyddyn astudio. Rhaid i ddeiliaid Ysgoloriaethau hefyd roi gwybod i’r Mentor Ysgoloriaeth Chwaraeon os bydd amgylchiadau yn newid mewn unrhyw fodd a fydd yn golygu na allant barhau â’u dewis gamp yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol;
  7. Ni wneir taliadau yn ystod blwyddyn dramor, blwyddyn mewn gwaith, blwyddyn rhyng-gwrs, blwyddyn sy’n cael ei hailwneud, ac ati;
  8. Bydd myfyrwyr sydd yn dal yr Ysgoloriaeth yn dal i gael y buddiannau ar yr amod mai myfyrwyr amser-llawn ydyn nhw;
  9. Os na fydd y cynnydd yn foddhaol, a hynny heb achos da, bydd yr Ysgoloriaeth yn dod i ben.

 

Diweddariad 25/04/2024