Sut 'rydym yn prosesu eich cais

Bydd y tîm Derbyniadau Ôl-raddedig yn adolygu eich cais, ac unrhyw ddogfennau ategol a gyflwynir, ac yn ei ystyried yn erbyn gofynion mynediad academaidd cyhoeddedig y Brifysgol. Mae croeso i chi wneud cais am astudiaeth ôl-raddedig cyn i chi gwblhau unrhyw astudiaethau cyfredol, neu os ydych eisoes wedi cwblhau eich cymhwyster(au).  Os byddwch yn gwneud cais cyn i chi gwblhau eich astudiaethau, a bod y Brifysgol yn penderfynu gwneud cynnig i chi am le i astudio gyda ni, yna bydd cyflwyno dogfennau ychwanegol perthnasol i ddangos eich bod wedi cwblhau a dyfarnu'r cymhwyster yn llwyddiannus ar y lefel ofynnol i fodloni'r gofyniad mynediad academaidd, yn un o amodau'r cynnig a wneir i chi.

Bydd Derbyniadau Ôl-raddedig yn gwneud penderfyniad mewn perthynas â'ch cais yn ganolog lle bynnag y bo modd, Os nad yw eich cymhwyster(au) blaenorol neu gyfredol yn bodloni'r gofynion mynediad academaidd, neu os yw eich cais am gwrs ymchwil, yna bydd eich cais yn cael ei anfon at yr adran academaidd berthnasol i'w ystyried a'i benderfyniad.  Gallwch ddisgwyl cael gwybod am y penderfyniad mewn perthynas â'ch cais fel arfer o fewn pythefnos ar gyfer cyrsiau Meistr a Addysgir a 6 wythnos ar gyfer rhaglenni PhD neu Ymchwil.

Pan fydd y penderfyniad wedi'i wneud, byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau:

• Rydych wedi bod yn llwyddiannus ac mae lle i astudio yn cael ei gynnig
• Rydych wedi cael eich gwahodd am gyfweliad
• Ni allwn gynnig lle i chi

Mae eich llythyr cynnig yn amlinellu:

• Yr amodau a/neu'r gofynion y mae angen i chi eu bodloni cyn y gallwch gwblhau'r broses dderbyn (ac ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, cyn y gallwch dderbyn eich CAS)
• Y ffi ddysgu ar gyfer eich cwrs dewisol
• Dyddiad dechrau eich cwrs dewisol

Dim ond ar ôl i chi fodloni holl amodau/gofynion eich llythyr cynnig y byddwch yn derbyn:

• Llythyr yn cadarnhau eich lle i astudio Prifysgol Aberystwyth
• (myfyrwyr rhyngwladol yn unig) Llythyr CAS i'w ddefnyddio fel rhan o'ch cais am fisa
• Gwybodaeth am sut i gofrestru'n ffurfiol ar gyfer eich cwrs a sut i dalu ffioedd dysgu

Byddwch hefyd yn derbyn:

• Mwy o wybodaeth gyffredinol am deithio a chyrraedd, a manylion am sut i wneud cais am lety'r Brifysgol