Ysgol y Graddedigion

Students studying in the National Library of Wales, located next to Aberystwyth University's Penglais Campus.

Bydd Ysgol y Graddedigion yn cynorthwyo ac ehangu eich profiad uwchraddedig a’ch helpu i ragori ym mhob agwedd academaidd o’ch astudiaethau.

Rhaglen ehangu gyrfaoedd

Mae ein rhaglen ehangu gyrfaoedd, a gefnogir yn helaeth gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn ymdrin ag amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu â’r cyhoedd, a chyfleoedd masnachol a gwirfoddol a fydd yn eich cynorthwyo i gysylltu eich astudiaethau â chyrff allanol anacademaidd.

Rhaglen hyfforddi athrawon

Er mwyn cefnogi uwchraddedigion sy’n cyfrannu at agweddau addysgu’r Brifysgol, rydym wedi datblygu rhaglen hyfforddi athrawon sy’n rhoi ystod o sgiliau addysgu i chi, a hynny’n amrywio o sesiynau tiwtorial i ddarlithoedd ac asesu. Hefyd, drwy’r rhaglen Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA), gallech hefyd ddatblygu eich sgiliau addysgu ymhellach a dod yn Gymrawd Cyswllt o’r Academi Addysg Uwch (AFHEA).

Rhaglen datblygu ymchwilwyr

Trwy gyfres o fodiwlau generig a phwnc-benodol, gall ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr ddatblygu eich sgiliau ymchwil ymhellach. Mae’r rhaglen hon yn ceisio ymdrin ag agweddau gwahanol ar y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (www.vitae.ac.uk). Rydym hefyd yn ymroddedig i gynnal rhannau o’r rhaglen hon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgoloriaethau

Gellir darparu ysgoloriaethau llawn drwy ein hymwneud â nifer o gydweithrediadau hyfforddi doethurol a gyllidir gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a thrwy ysgoloriaethau AberDoc.

Ysgoloriaethau AberDoc

Mae'n bleser gan y Brifysgol i gynnig yr ysgoloriaethau yma. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grant a fydd yn ddigon i ariannu ffioedd dysgu gradd PhD llawn-amser. Eleni mae'r Brifysgol wedi gwobrwyo'r nifer uchaf o Ysgoloriaethau AberDoc erioed, mewn ystod o bynciau.

Ysgoloriaeth Graddedigion

Os ydych eisoes yn fyfyriwr yn Aberystwyth, ac yn ystyried aros yma i astudio gradd uwchraddedig efallai eich bod yn gymwys i dderbyn disgownt werth 10-20% oddi ar eich ffioedd dysgu.