Saif Trefloyne ar ben uchaf Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Rosser - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae llawer o’r ystafelloedd yn cynnwys golygfeydd arbennig o’r dref a’r bae, sydd ond 10 munud i ffwrdd ar droed.
Llety
Ystafelloedd sengl sydd gan Trefloyne, wedi’u trefnu’n fflatiau hunangynhwysol gan rannu ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Mae pob fflat yn lletya 7 o fyfyrwyr a cheir ystafell gawod, ystafell ymolchi ac ystafell toiled ar wahân gyda basn ymolchi. Ceir basn ymolchi yn yr ystafelloedd gwely/astudio hefyd.
Arlwyo
Neuadd hunanarlwyo yw Trefloyne, gyda’r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol. Yn y ceginau ceir oergell/rhewgell, ffwrn â gril a phentan, ffwrn microdon, tegell, peiriant tostio, bwrdd a chadeiriau, hoover, haearn smwddio, bwrdd smwddio, mop a bwced a brwsh a phan ac ardal eistedd feddal fel eitemau safonol
Mae Trefloyne wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!