Llety yn y Sector Preifat
Mae byw mewn llety preifat yn ffordd wych o ymgolli'n llwyr yn nhref Aberystwyth. Bydd yn cynnig mwy o breifatrwydd, a'r gallu i ddewis gyda phwy rydych chi'n byw, a ble rydych chi'n byw. Bydd y rhan fwyaf o lety preifat yn y dref neu'r ardaloedd cyfagos a bydd ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth da ar y campws. Mae rhannu tŷ gyda ffrindiau fel arfer yn opsiwn i fyfyrwyr ail flwyddyn.
Awgrymiadau ar gyfer chwilio eiddo
- Ewch â rhywun gyda chi i weld eiddo, mae'n ddefnyddiol cael ail farn
- Os ydych chi'n bwriadu byw gyda ffrindiau, gwnewch yn siŵr bod pawb yn gweld yr eiddo
- Gofynnwch gymaint o gwestiynau i'r asiant gosod/landlord ag sydd eu hangen arnoch
- Os gallwch chi, siaradwch â'r tenantiaid presennol am eu profiad o fyw yno
- Edrychwch ar gyflwr yr eiddo a'r dodrefn, yn ogystal â'r cloeon ar ffenestri a drysau
- Os oes angen atgyweirio unrhyw beth, sicrhewch fod y landlord neu'r asiant yn ysgrifennu y byddant yn ei drwsio cyn i chi symud i mewn
- Cymerwch eich amser wrth edrych o gwmpas
- Gosod cyllideb a chadw ati - gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried yr holl filiau a chostau byw
- Ystyriwch a fydd angen parcio arnoch