Dileu TB yn rhanbarthol yn destun trafod yn Aberystwyth
02 Medi 2024
Bydd arbenigwyr TB yn ymgynnull yn Aberystwyth y mis hwn i drafod sut y gall cydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol helpu i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.
Aberystwyth yn cynnal cynhadledd flynyddol i ddatblygwyr Apple yn y DG
02 Medi 2024
Mae arbenigwyr meddalwedd o bob rhan o'r byd yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon (2-5 Medi) i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes datblygu iOS.
Iwerddon, Cymru a’r ysgolhaig gyfranodd at ddatrys eu cysylltiadau Celtaidd
05 Medi 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Dr Simon Rodway, Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd, yn trafod y cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol dwfn rhwng Cymru ac Iwerddon a gwaddol ysgolhaig Gwyddelig fu’n astudio’r dreftadaeth y mae’r ddwy wlad yn ei rannu.
Rhwydwaith newydd i wella profiadau plant sy’n ffoi - nod cynhadledd
05 Medi 2024
Mae arbenigwyr yn gobeithio sefydlu rhwydwaith ymchwil newydd i wella profiadau plant sy'n ffoi mewn cynhadledd a gynhelir yn Aberystwyth y mis hwn.
Chwilio’n dwysau am ffynhonnell Côr y Cewri wrth i Orkney gael ei ddiystyru
05 Medi 2024
Mae ymdrechion gwyddonwyr i ddod o hyd i ffynhonnell Maen yr Allor Côr y Cewri wedi dwysau wedi i bapur newydd ddod i’r casgliad nad yw’n dod o Orkney.
Sut yr aeth Sigmund Freud ati i geisio datrys ‘y pos’ ynghylch athrylith Leonardo da Vinci.
06 Medi 2024
Yn ei erthygl yn ‘The Conversation’, mae Dr Luke Thurston o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn trafod barn Freud ar sut y cyfunodd Leonardo da Vinci ddawn greadigol aruchel â dychymyg technolegol, er gwaethaf cred Freud fod y gweithgareddau hyn yn tynnu’n groes i’w gilydd yn eu hanfod.
Gwyddonydd o Aberystwyth yn nodi tranc taith ofod arloesol
06 Medi 2024
Bydd taith ofod sydd wedi cynorthwyo gwyddonwyr ledled y byd i ddeall a rhagweld tywydd y gofod yn well, yn dod i ben ddydd Sul (8 Medi) ar ôl bron i 25 mlynedd.
Athro Aberystwyth yn ennill cymrodoriaeth o fri
09 Medi 2024
Mae Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn cymrodoriaeth o fri gan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Y cyfrinachau difyr atgenhedlu planhigion y mae gwyddonwyr yn datgelu o hyd
10 Medi 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae biolegwyr celloedd planhigion yr Athro John Doonan a Dr Maurice Bosch yn trin a thrafod atgenhedlu planhigion blodeuol.
Clinig newydd gwerth £150,000 i agor wrth i Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth ehangu
10 Medi 2024
Bydd ffug-glinig milfeddygol newydd yn agor ar gampws Prifysgol Aberystwyth yn fuan wrth i’r unig ysgol filfeddygaeth yng Nghymru ehangu.
Codi arian prifysgol yn hwb i elusennau
12 Medi 2024
Cyflwynodd staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth siec am £7,984 i Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru.
Hwb ariannol ar gyfer pylsiau cynaliadwy
12 Medi 2024
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bedwar sefydliad ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol sydd wedi ennill £3m o gyllid i ddatblygu codlysiau sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd.
Pam mae Putin wedi osgoi defnyddio’r cyrch gan Wcrain i mewn i Kursk fel cyfle i alw am fwy o aberth gan y Rwsiaid
12 Medi 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod pam nad yw Putin wedi defnyddio cyrch lluoedd Wcrain i mewn i diriogaeth Rwsia fel cyfiawnhad i gynyddu’r niferoedd yn rhengoedd lluoedd arfog Rwsia.
Galw ar i’r Cenhedloedd Unedig ‘newid’ ei hagwedd iechyd - academydd blaenllaw
13 Medi 2024
Bydd prif academydd milfeddygol Cymru yn galw am ‘newid sylweddol’ yn wyneb y bygythiadau byd-eang i iechyd pobl ac anifeiliaid mewn anerchiad i’r Cenhedloedd Unedig heddiw.
Gwyddonwyr i brofi a yw’r eira yn toddi ar Everest
19 Medi 2024
Bydd gwyddonwyr yn mynd i Everest y flwyddyn nesaf i brofi a yw’r eira yno’n toddi, a fyddai’n peryglu cyflenwadau dŵr mwy na biliwn o bobl.
Gyrwyr bysiau yn cael hyfforddiant diogelwch menywod gyda chymorth ymchwilydd
19 Medi 2024
Mae gyrwyr bysiau yn ne Cymru wedi cael eu hyfforddi am ddiogelwch menywod, diolch i bartneriaeth rhwng ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth, Stagecoach a Chymorth i Ferched Cymru.
Etholiad yr Unol Daleithiau: pam bod mewnfudo’n parhau i fod yn broblem fawr i bleidleiswyr a pham eu bod yn ymddiried yn Trump ar ddiogelwch ffiniau
26 Medi 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Eli Auslender, Cymrawd Ymchwil mewn Ymfudo a Newid Hinsawdd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod pam bod polisi ffiniau UDA yn parhau’n fater etholiadol allweddol wrth i etholiad mis Tachwedd agosáu.
Myfyrwyr nyrsio milfeddygol cyntaf yn dechrau yn Aberystwyth
26 Medi 2024
Mae’r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol wedi dechrau ar eu cwrs yn unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.
Prif nyrs yn plannu coeden i ddechrau gardd les Aberystwyth
27 Medi 2024
Mae prif nyrs Cymru wedi nodi dechrau’r broses o sefydlu gardd les newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn swyddogol gyda seremoni plannu coeden.
Taith newydd i greu clipiau llwyr yr Haul yn y gofod
30 Medi 2024
Mae gwyddonwyr yn gweithio ar lansiad taith llong ofod a fydd yn eu galluogi i graffu ar atmosffêr yr Haul mewn mwy o fanylder nag erioed o'r blaen.