Hwb ariannol ar gyfer pylsiau cynaliadwy
Dr Catherine Howarth, IBERS, Prifysgol Aberystwyth
12 Medi 2024
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bedwar sefydliad ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol sydd wedi ennill £3m o gyllid i ddatblygu codlysiau sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd.
Mae'r Rhwydwaith Gwella Genetig Cnydau Pwls, a ddechreuodd yn 2008, wedi derbyn y cyllid ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Bydd yr arian yn cefnogi rhwydwaith ymchwilwyr a rhanddeiliaid y consortiwm i wella deunydd bridio ar gyfer tyfu pys, ffa a chorbys eraill yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae cnydau pwls yn ffynhonnell bwysig arall o brotein ac mae eu tyfu yn gwella priddoedd mewn cynlluniau cylchdroi, gan leihau'r angen am wrtaith nitrogen.
Bydd yr ymchwil yn mynd i'r afael â bygythiadau gan blâu a chlefydau, megis pydredd gwreiddiau mewn pys a ‘bruchid beetle’ mewn ffa faba.
Bydd hefyd yn targedu nodweddion maethol megis cynnwys protein, mwynau a blas.
Dywedodd Dr Catherine Howarth o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i ddatblygu offer ac adnoddau genetig i wella gallu codlysiau fel pys a ffa i wrthsefyll newidiadau yn yr hinsawdd gan ddefnyddio’r llwyfannau ffenoteipio manwl sydd ar gael yn IBERS. Mae’r cnydau hyn sy’n amsugno nitrogen yn cynnig opsiynau newydd i wella cynaliadwyedd amgylcheddol a bioamrywiaeth amaethyddol yn y Deyrnas Gyfunol.”
Mae codlysiau, gan gynnwys pys, ffa a chorbys yn cynnig budd amgylcheddol mawr oherwydd eu gallu i dynnu nitrogen o'r aer gyda chymorth bacteria symbiotig yn y pridd.
Mae hyn yn golygu y gellir eu tyfu heb ddefnyddio gwrtaith, sy'n gallu cael effaith niweidiol ar fioamrywiaeth ac yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dywedodd yr Athro Janneke Balk, arweinydd grŵp yng Nghanolfan John Innes a chyd-arweinydd y Rhwydwaith Gwella Genetig Cnydau Pwls:
“Dros yr 17 mlynedd diwethaf mae’r Rhwydwaith Gwella Genetig Cnydau Pwls wedi gwneud cyfraniadau hollbwysig i ddatblygiad pys a ffa faba sydd bellach yn agos at ddod i’r farchnad. Yn y cyfnod ariannu newydd, byddwn yn ehangu ein hymchwil i ffacbys a ffa cyffredin, a allai gael eu tyfu’n ehangach yn y dyfodol wrth i ni weld y tymeredd yn codi yn y Deyrnas Gyfunol.”
Mae’r Rhwydwaith yn gydweithrediad rhwng Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, Canolfan John Innes, Prifysgol Reading, NIAB yng Nghaergrawnt a Sefydliad Ymchwil Proseswyr a Thyfwyr, Peterborough.
Ledled y byd, daw bron i hanner y protein y diet dynol o blanhigion, a phylsiau yn bennaf.
Mae deall sail enetig yr amrywiaeth mewn protein yn galluogi bridio ar gyfer mathau gwell â chynnwys mwy maethlon, neu nodweddion sy'n addas ar gyfer dewisiadau amgen i gig sy'n seiliedig ar blanhigion.
Bydd y consortiwm hefyd yn edrych ar effeithiau hinsawdd yn y dyfodol ar gnydau pwls y Deyrnas Gyfunol gan ddefnyddio modelau gan y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Dr Sanu Arora, arweinydd grŵp yng Nghanolfan John Innes a chyd-arweinydd PCGIN:
“Mae’r pum mlynedd nesaf yn allweddol ar gyfer datblygu cnydau pwls newydd ar gyfer y DU. Mae angen i ni weithio’n agos gyda ffermwyr a thyfwyr i sicrhau bod ein hymchwil yn targedu’r nodweddion sydd eu hangen arnynt yn eu meysydd.”