Dileu TB yn rhanbarthol yn destun trafod yn Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson

Yr Athro Glyn Hewinson

02 Medi 2024

Bydd arbenigwyr TB yn ymgynnull yn Aberystwyth y mis hwn i drafod sut y gall cydweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol helpu i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.

Mewn cynhadledd a gynhelir gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB mewn gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd grwpiau sy’n cynrychioli milfeddygon, ffermwyr, y llywodraeth, cadwraethwyr a’r byd academaidd yn ymgynnull i drafod dimensiynau cymdeithasol rheoli TB mewn gwartheg.

Ymysg y siaradwyr yn y gynhadledd ar 18 Medi fydd Dr Damien Barrett o Adran Amaeth Llywodraeth Iwerddon, Dr Ruth Little o Adran yr Amgylchedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yr Athro Gareth Enticott o Brifysgol Caerdydd a Dr Henry Grub o Goleg Imperial Llundain.

Bydd nifer o ffermwyr a milfeddygon sy’n ymwneud â mentrau lleol i reoli TB gan gynnwys Helen Forester a Chris Addison o Cumbria a Michael Williams a Rhiannon Lewis o Sir Benfro yn annerch y gynulleidfa yn ogystal.

Dywedodd Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Tuberculosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Glyn Hewinson:

“Mae cydweithio, grymuso a meithrin cysylltiadau yn hanfodol ar gyfer y frwydr barhaus yn erbyn TB mewn gwartheg yma yng Nghymru. Mewn blynyddoedd blaenorol rydym wedi cynnal cynadleddau sy’n canolbwyntio ar brofi TB, bioddiogelwch, a bywyd gwyllt. Mae thema eleni, sef ‘Dimensiynau Cymdeithasol Rheoli TB’, yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, ar gyfer rheoli clefydau’n effeithiol a’u dileu.

“Rydym ni’n bwriadu trin a thrafod dimensiynau cymdeithasol TB mewn gwartheg gan gynnwys gwyddoniaeth newid ymddygiad a phwysigrwydd cynnwys yr holl randdeiliaid wrth gyd-ddylunio polisïau ac ymyriadau rheoli clefydau. Bydd hyn yn cynnwys enghreifftiau o achosion llwyddiannus lle mae'r llywodraeth, y diwydiant a'r proffesiwn milfeddygol wedi cydweithio i ddileu TB.

“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl o wahanol gefndiroedd yn gallu ymuno â ni ar gyfer cynhadledd sy’n ysgogi’r meddwl a lle byddwn yn gofyn i’n hunain sut y gallwn sicrhau dull rhanbarthol llwyddiannus o ddileu TB yng Nghymru.”

Gellir cofrestru a chael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd drwy fynd i https://vethub1.co.uk/cms/events/?lang=cy

Mae Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cyngor annibynnol arbenigol ar reoli TB Gwartheg ac mae’n gwella ymchwil da byw yng Nghymru gyda’i labordai ymchwil milfeddygol.