Taith newydd i greu clipiau llwyr yr Haul yn y gofod

Clip llwyr yr Haul. Credyd: Pavel Štarha, Aneta Zatočilová, Miloslav Duckmüller.

Clip llwyr yr Haul. Credyd: Pavel Štarha, Aneta Zatočilová, Miloslav Duckmüller.

30 Medi 2024

Mae gwyddonwyr yn gweithio ar lansiad taith llong ofod a fydd yn eu galluogi i graffu ar atmosffêr yr Haul mewn mwy o fanylder nag erioed o'r blaen.

Bydd taith arfaethedig MESOM yn caniatáu i dîm o ymchwilwyr rhyngwladol astudio'r amodau sy'n creu stormydd solar, gan arwain at welliannau o ran rhagolygon tywydd y gofod ar y Ddaear.

Bydd llong ofod MESOM yn dilyn trywydd anarferol a alluogir gan atyniad disgyrchiant y Ddaear, yr Haul a’r Lleuad, a bydd yn defnyddio cysgod y Lleuad i greu clip llwyr o’r haul yn y gofod unwaith bob mis lleuad a fydd yn para yn agos at 50 munud.

Mae clipiau llwyr yr Haul a welir o'r Ddaear yn fyrrach o lawer, yn para rhwng 10 eiliad a 7.5 munud yn unig, ac mae disgwyl i glip anwlar yr Haul yn Hemisffêr y De ddydd Mercher yma 2 Hydref bara tua saith munud. 

Bydd creu clip hirach yn y gofod yn galluogi tîm MESOM i gymryd delweddau o ansawdd uchel a mesuriadau o gorona’r Haul, gan gau bylchau yn y ddealltwriaeth bresennol o’r prosesau ffisegol sy’n digwydd yn yr atmosffer solar ac sy’n creu tywydd y gofod.

Nid yw tywydd y gofod yn berygl i bobl nac anifeiliaid ar y Ddaear ond gall fflachiadau solar a ffrwydradau o'r Haul, a elwir yn echdoriadau màs coronaidd, amharu'n ddifrifol ar gridiau pŵer, lloerennau a thechnolegau cyfathrebu eraill y mae cymdeithas fodern yn dibynnu arnynt.

Mae’r Athro Huw Morgan, Pennaeth Grŵp Ffiseg y Gofod Prifysgol Aberystwyth, yn aelod o dîm craidd y DG sy’n arwain y genhadaeth ochr yn ochr â Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Chanolfan Ofod Prifysgol Surrey.

“Wrth i’r byd ddod yn fwy dibynnol ar dechnolegau diwifr, mae risg gynyddol o darfu sylweddol ar fywyd bob dydd ar y Ddaear o ganlyniad i dywydd y gofod. Mae MESOM yn brosiect hynod gyffrous a fydd yn datblygu ein dealltwriaeth wyddonol o'r atmosffer solar a thywydd y gofod i lefelau newydd, gan ein galluogi i ddarparu rhagolygon mwy cywir a chymryd camau lliniaru.

“Yn Aberystwyth, fel aelodau o dîm craidd y Deyrnas Gyfunol, rydyn ni’n  rhan o astudiaeth sy’n mapio dichonoldeb y daith sydd i’w lansio yn gynnar yn y 2030au. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr rhyngwladol mewn ffiseg solar, atmosfferau solar a phrofiad mawr mewn teithiau gofod sy’n arsylwi ar yr Haul.”

Dywedodd Dr Nicola Baresi o Ganolfan Ofod Surrey: “Mae fflachiadau solar ac alldafliadau màs coronaidd fel ei gilydd yn tarddu o haenau mewnol atomosffer yr Haul, sy’n parhau’n anodd ei weld gydag offer gofod cyfredol ac sydd ond i’w weld mewn mwy o fanylder yn ystod clipiau llwyr.

“Trwy greu clipiau sy’n para hyd at 48 munud yn y gofod, yn hytrach na’r uchafswm o 7.5 munud rydyn ni’n llwyddo i’w gweld ar y Ddaear, mae gennon ni gyfle gwell o lawer i ddatgloi eu cyfrinachau.”

Dywedodd yr Athro Lucie Green o Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard: “Bydd MESOM yn cynnig cyfle heb ei ail i wyddonwyr astudio a deall sut mae’r Haul yn creu ac yn rheoli tywydd y gofod. Ond mae MESOM hefyd yn cynnig cyfle i’r cyhoedd yn gyffredinol ymwneud â harddwch rhyfeddol clip llwyr yr Haul gan y bydd ein holl ddelweddau'n ar gael i bawb. Ein nod yw datgelu cyfrinachau’r Haul tra’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr y gofod.”

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ymchwil o safon fyd-eang yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, sy’n cynnwys dylunio meddalwedd ar gyfer y Swyddfa Dywydd i wella eu rhagolygon o dywydd yn y gofod, mesur cyflymder echdoriadau màs coronaidd yn fwy cywir a datblygu offer gofod ar gyfer taith ExoMars.

Mae astudiaeth ddichonoldeb MESOM yn brosiect blwyddyn ac fe’i ariennir gan Asiantaeth Ofod y DU.