Myfyrwyr nyrsio milfeddygol cyntaf yn dechrau yn Aberystwyth

Y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth

Y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth

26 Medi 2024

Mae’r garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol wedi dechrau ar eu cwrs yn unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Mae’r cwrs newydd yn nodi’r ehangiad diweddaraf i’r addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o’r radd sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol, bydd y myfyrwyr yn astudio’r sgiliau sydd eu hangen o’r diwrnod cyntaf er mwyn gofalu am ystod o anifeiliaid bach a rhai mawr.

Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu agweddau theori ac ymarferol, ac yn cynnwys lleoliad gwaith am flwyddyn mewn milfeddygfa sy’n rhan annatod o’r rhaglen.

Bydd y myfyrwyr yn elwa ar adnoddau’r Brifysgol, gan gynnwys labordy sgiliau clinigol, labordai ymchwil ac anatomeg, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, a ffermydd y Brifysgol. Mae ffug-glinig milfeddygol newydd wedi cael ei ddatblygu hefyd a bydd yn caniatáu i fyfyrwyr baratoi ar gyfer lleoliadau clinigol mewn gofod ymarfer.

Mae myfyrwyr wedi bod yn astudio i fod yn filfeddygon ym Mhrifysgol Aberystwyth ers mis Medi 2021, wedi buddsoddiad o dros £2 filiwn mewn cyfleusterau newydd.

Yn rhan allweddol o’r Ysgol, cafodd Canolfan Addysg Milfeddygaeth newydd Aberystwyth ei hagor yn swyddogol ym mis Rhagfyr 2021 gan y Brenin Charles III.

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’n fendigedig croesawu’r myfyrwyr nyrsio milfeddygol cyntaf yma - rwy’n siŵr y byddan nhw’n mwynhau eu hastudiaethau yma. Mae’n ddiwrnod i gofio ac i ddathlu i ni yma yn Aberystwyth.

“Mae ehangu’r ystod o hyfforddiant a chyrsiau rydyn eu cynnig yma yn yr Ysgol yn mynd i wneud gwahaniaeth go iawn mewn nifer o ffyrdd. Rydyn ni’n cyfoethogi’r proffesiwn ac yn cefnogi, nid yn unig y gymuned ffermio, ond perchnogion anifeiliaid anwes, pobl â diddordeb mewn ceffylau, llywodraeth genedlaethol ac, yn ei thro, cymdeithas Cymru. Mae milfeddygon ledled Cymru wedi nodi nyrsio milfeddygol fel angen allweddol, felly rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu ymateb i hynny nawr.”

“Bellach mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygol ei hun sy’n diwallu ac sy’n cwrdd ag anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant ôl-raddedig ac ymgymryd ag ymchwil sy'n rhagorol ac sydd hefyd yn berthnasol yn lleol.”

Emma Anscombe-Skirrow, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Nyrsio Milfeddygol, sy’n gyfrifol am y gwaith o sefydlu’r cwrs newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda thros 10 mlynedd o brofiad ym maes addysg, yn flaenorol, bu’n gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol lle bu’n achredu cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig.

Dywedodd Emma Anscombe-Skirrow:

“Dyma adeg hanesyddol i ni ac mae staff yn llawn cyffro am ddechrau addysgu’r myfyrwyr cyntaf. Mae llwyddiant unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ers iddi agor yn wych i’w weld. Mae ychwanegu astudiaethau nyrsio milfeddygol at yr radd filfeddygol sydd eisoes yn cael ei haddysgu yma yn destun balchder i bawb yma, gan ehangu darpariaethau addysgol yr Ysgol.”

Gellir gwneud ymholiadau am y cwrs nyrsio milfeddygol ac ymgeisio drwy e-bostio vet-nursing@aber.ac.uk.