Chwilio’n dwysau am ffynhonnell Côr y Cewri wrth i Orkney gael ei ddiystyru

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.

05 Medi 2024

Mae ymdrechion gwyddonwyr i ddod o hyd i ffynhonnell Maen yr Allor Côr y Cewri wedi dwysau wedi i bapur newydd ddod i’r casgliad nad yw’n dod o Orkney.

Mae’r canfyddiadau newydd yn dilyn y newyddion fis diwethaf fod y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri o Fasn Orcadaidd yng ngogledd-ddwyrain yr Alban, ac nid o Gymru fel y credwyd o’r blaen.

Dechreuwyd adeiladu Côr y Cewri 5000 o flynyddoedd yn ôl, gyda newidiadau ac ychwanegiadau dros y ddau fileniwm nesaf.

Er nad yw’n glir pryd y cyrhaeddodd Maen yr Allor Côr y Cewri, mae’n bosibl ei bod wedi’i gosod o fewn y bedol ganolog o gerrig byd-enwog yn ystod ail gyfnod yr adeiladu tua 2620 - 2480 CC.

Gyda llawer o henebion Neolithig, a gyda’r nodweddion daearegol cywir, ymddangosodd Orkney fel ffynhonnell debygol ar gyfer Maen yr Allor.

Mae’r ymchwil diweddaraf, a gyhoeddwyd yn y Journal of Archaeological Science: Reports, yn dadansoddi’r bum garreg o’r cyfnod Neolithig sydd i’w gweld yng Ngherrig Stennes, a saith arall yng Nghylch Brodgar ar dir mawr Orkney, sy’n debyg o ran maint a math i Faen yr Allor.

Daw’r ymchwil i’r casgliad na ddaeth Maen yr Allor, sy’n pwyso chwe thunnell, o dir mawr Orkney ond o rywle arall yng ngogledd-ddwyrain yr Alban.

Mae’r Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth, prif awdur yr astudiaeth newydd, wedi bod yn astudio Côr y Cewri ers 15 mlynedd. Dywedodd:  

“Mae’r dirgelwch am o ble y daeth y garreg yn dod yn gliriach byth wrth i ni ddechrau diystyru ardaloedd penodol yng ngogledd-ddwyrain yr Alban. Mae’r ymchwil hwn yn newid yn sylweddol ein dealltwriaeth o darddiad Maen yr Allor. Mae’n wefreiddiol gwybod bod ein gwaith dadansoddi cemegol a dyddio yn araf ddatgloi’r dirgelwch mawr hwn o’r diwedd.

“Mae Maen yr Allor yn eithriad mewn sawl ffordd o gymharu â’r cerrig gleision a’r ‘sarsens’ yng Nghôr y Cewri. Gan ei bod hi’n pwyso chwe thunnell nid yw’n agos at faint y ‘sarsens’, mae’n llawer mwy na’r cerrig gleision, sef y rhai y bu’n cael ei chategoreiddio gyda nhw. Mae’n gorwedd mewn safle anarferol, yn agos at galon yr heneb a ddim o fewn Cylch y Cerrig Gleision na Charn y Cerrig Gleision. Mae hi hefyd yn dywodfaen wyrdd-lwyd, ac yn wahanol i’r mathau eraill o gerrig gleision.

“Fel academydd, rwyf wedi ymddiddori yng Nghôr y Cewri ers degawdau. Bydda i a’m cydweithwyr yn y tîm yn parhau i weithio i chwilio o ble yn union yng ngogledd-ddwyrain yr Alban y daw Maen yr Allor.”

Mae’r ymchwil newydd yn ychwanegu at ganfyddiadau gan Brifysgol Aberystwyth a gwyddonwyr eraill o Brydain ac Awstralia a gyhoeddwyd fis diwethaf yn Nature a ddaeth i’r casgliad mai o ogledd-ddwyrain yr Alban yr oedd Maen yr Allor.

Yn ei dro, adeiladodd hyn ar ymchwil blaenorol gan Brifysgol Aberystwyth a ddaeth i’r casgliad nad oedd wedi dod o Gymru, gan awgrymu na ddylid ei gategoreiddio fel carreg las.