Athro Aberystwyth yn ennill cymrodoriaeth o fri
Yr Athro Charles Musselwhite
09 Medi 2024
Mae Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi derbyn cymrodoriaeth o fri gan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae’r Athro Charles Musselwhite, Pennaeth Adran Seicoleg y Brifysgol, wedi’i ethol i’r sefydliad mawreddog am ei gyfraniad sylweddol at y gwyddorau cymdeithasol.
Yn arbenigwr ar drafnidiaeth a heneiddio, gan gynnwys diogelwch gyrwyr hŷn a phwysigrwydd symudedd i bobl hŷn, mae e’n gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd, ynghyd â Chanolfan Trafnidiaeth a Symudedd, Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Musselwhite o Brifysgol Aberystwyth:
“Rwy’ wrth fy modd o dderbyn y gymrodoriaeth arbennig hon. I mi, mae’r anrhydedd hon yn dyst i’r rhagoriaeth gynyddol mewn ymchwil gan yr holl dîm yma yn Aberystwyth. Rwy’n falch o fod yn rhan o brifysgol sy’n arwain ar gymaint o ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf.”
Dywedodd Will Hutton FAcSS, Llywydd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol:
“Mae’n bleser croesawu’r 45 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw hyn i Gymrodoriaeth yr Academi. Mae eu cyfraniadau sylweddol i wyddor gymdeithasol ac i gymdeithas yn ehangach wedi gwella ein dealltwriaeth o’r ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n ymwneud ag iechyd y boblogaeth, diwylliannau newidiol anghydraddoldeb, profiadau plant a phobl ifanc o hapchwarae a gamblo, pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant mewn sefydliadau, a sut y gall busnesau gyfrannu at y nodau datblygu cynaliadwy, ymhlith llawer o rai eraill. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i hyrwyddo ymhellach rôl bwysig y gwyddorau cymdeithasol yn ein bywydau bob dydd.”
Mae Cymrodoriaeth Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol yn cynnwys 1,600 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw o’r byd academaidd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae arbenigedd y Cymrodyr yn cwmpasu ehangder y gwyddorau cymdeithasol, ac mae eu hymarfer a’u hymchwil yn mynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu cymunedau, cymdeithas, lleoedd ac economïau.