Prif nyrs yn plannu coeden i ddechrau gardd les Aberystwyth

Y Prif Swyddog Nyrsio Sue Tranka ac Amanda Jones, Prif Arweinydd Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth, gyda staff a myfyrwyr eraill yn plannu’r goeden i nodi dechrau’r ardd les newydd

Y Prif Swyddog Nyrsio Sue Tranka ac Amanda Jones, Prif Arweinydd Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth, gyda staff a myfyrwyr eraill yn plannu’r goeden i nodi dechrau’r ardd les newydd

27 Medi 2024

Mae prif nyrs Cymru wedi nodi dechrau’r broses o sefydlu gardd les newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn swyddogol gyda seremoni plannu coeden.

Pan fydd wedi sefydlu’n llawn, bydd yr ardd newydd, sydd yn rhan o safle Canolfan Addysg Gofal Iechyd y Brifysgol ar riw Penglais, yn cynnwys perllan ac ardaloedd i dyfu llysiau a blodau.

Dechreuodd myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn 2022 wedi i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ddyfarnu cytundeb i’r coleg allu cynnig cyrsiau gradd i hyfforddi nyrsys i oedolion ac iechyd meddwl.

Ers i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr gyrraedd, mae’r staff a myfyrwyr wedi bod yn cynnal teithiau cerdded lles a thrafod datblygu gofod ar y safle er lles pawb sydd yn ymweld â’r Ganolfan.

Mae’r ‘Prosiect Garddio Gwyrdd-Ni’ yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda chymuned y dref a chyrff lleol eraill ynghyd â chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus a’r cwmni eiddo iechyd Assura.

Wrth blannu coeden gyntaf yr ardd newydd yng Nghanolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth, dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru Sue Tranka:

"Rwy'n falch iawn o helpu i nodi man cychwyn yr ardd les hon, a fydd yn creu amgylchedd heddychlon ac anogol i staff, myfyrwyr nyrsio a'r gymuned gyfan.

"Mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i leoliadau clinigol, a bydd yr ardd hon yn rhoi cyfle ymarferol i fyfyrwyr archwilio sut y gall mannau gwyrdd chwarae rhan allweddol mewn gofal cyfannol, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r berthynas rhwng iechyd a’r amgylchedd."

Dywedodd Amanda Jones, Prif Arweinydd Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’n wych gweld bod gwaith y myfyrwyr a’r gymuned yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae ardaloedd gwyrdd fel hyn mor bwysig i les y myfyrwyr, staff a’r gymuned yn ehangach.

“Ers i ni agor ein drysau llai na dwy flynedd yn ôl, mae staff a myfyrwyr wedi elwa ar y teithiau cerdded lles sydd wedi’u trefnu. Mae ychwanegu ardal werdd arall i’r campws yn mynd i fod o fudd iddyn nhw a phawb sy’n ymweld â’r Ganolfan.

“Bydd myfyrwyr yn gallu cyfrannu at yr ardd drwy blannu a gofal amdani eu hunain. Bydd hefyd yn adeiladu ar y ddealltwriaeth o presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd sydd wedi’i ddatblygu yma yn y Brifysgol.”

Ychwanegodd Pennaeth Effaith Gymdeithasol ASSURA, Karen Nolan:

“Mae Assura yn wirioneddol ymroddedig i alluogi’r tir o amgylch ein hadeiladau ni i fod o fudd i iechyd a lles y gymuned. Mae myfyrwyr a staff y Brifysgol wedi gwneud dechrau ardderchog i’r prosiect gwych hwn, ac alla i ddim aros i weld sut y bydd e’n datblygu dros y blynyddoedd i ddod.”